Ymweld ag Eryri

Gwasanaeth Wardeinio

alt=

Wal Newydd Gardd Llynpenmaen

16 Ionawr 2017

Dros aeaf gwlyb 2015/16, fe benderfynais godi wal o flaen hen focs signal Llynpenmaen ger Dolgellau er mwyn adfer rhywfaint o fri i hen enwau y pyllau pysgota ar ein hafonydd lleol. Rhan o waith i greu gardd blodau gwyllt, wedi ei ariannu gan gynllun Tyfu’n Wyllt oedd hwn. Mae’r wal yn derfyn i’r ardd, ond yn cyfleu rhywbeth gobeithio am ein diwylliant cyfoethog hefyd, ac mae diogelu’r diwylliant yna a’i gyflwyno i’r cyhoedd yn ran annatod o’n gwaith ni fel wardeiniaid.

Mae’r deunyddiau a ddefnyddiais yn rhai lleol, sy’n adlewyrchu rhywfaint o ddaeareg y fro. Cymysgedd o gerrig gwenithfaen a llaid yw corff y wal, a cheisiais gyfleu’r afonydd gyda haenau o lechi – rhai o fferm Cymerau yn Aberllefenni, sy’n hollti’n lanach na llechi dyffryn y Fawddach. Daeth y llechfeini ar bentanau’r wal o chwarel Aberllefenni. Dewisiais biben gopr i greu ymylon yr afonydd yn ddolen efo’r diwydiant mwyngloddio pwysig yng ngwaith Glasdir, ger Ty’n y Groes. Daeth y cerrig gwynion sy’n ffurfio’r swigod o dan yr eog, o hen chwarel cerrig gwynion ar fferm Coed Croes, uwchlaw tref Dolgellau.  A’r eog ei hun – fe naddais hwn o ddarn o dderw, caled fel asen Ffaro, o goedwig Farchynys ger Bontddu. Daeth ei lygad o Lanrwst!

Mae fy nyled yn fawr i sawl unigolyn fu’n hael eu cymwynas wrth roi deunyddiau. Ond rhaid nodi’n enwedig gwaith llythrennu godidog gŵr ifanc sy’n sefydlu ei yrfa, Dan Owen, fferm Dolgun, Dolgellau – roedd yn bleser gallu ei gefnogi.

Mae’r wal wedi bod yn gyfrwng i atgyfodi sawl atgof ymhlith pysgotwyr ac eraill yn barod a braf oedd gwrando ar bawb tra’n adeiladu. Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd ymwelwyr a rhai trigolion lleol yn mwynhau dysgu rhywbeth newydd am ein hafonydd, a sylweddoli fod yna gyfoeth enwau sy’n haeddu bod ar dafod lleferydd unwaith eto – ein treftadaeth ni ydi hwn, peidied â’i golli.

Dyma gyfres o luniau i ddangos y gwaith o’r cychwyn i’w ddiwedd y Rhagfyr hwn.

Yr ardd fel yr oedd cyn cychwyn – roedd y pwll dŵr wedi hen lwnwi efo dail, a mieri lle bu seidins yr orsaf drenau.

Cychwyn y dasg o gliro efo gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri.

Pethau’n dechrau gwella – y pwll wedi ei adfer, ardal o bridd gwlyb, pridd newydd (diolch i Sian yn yr Ysgwrn am dunnell neu ddwy) a’r llwybr gro wedi ei greu.

Plant ysgol lleol yn cychwyn ar blannu’r blodau gwyllt dan arweiniad Anna Williams, ac yn cael hwyl iawn arni. Y wal yn cael ei chynllunio yn fy meddwl yn y cyfamser!

Yr ardd wedi ei chwblhau bron iawn.

Y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo, a’r cerrig enwau’n cymryd eu lle’n iawn – rhyddhad a phleser oedd gweld syniad yn y meddwl yn troi’n rhywbeth ag iddo ffurf pendant. Dipyn o jig-so ydi’r math hwn o walio – y cerrig yn mynd i’w lle yn haws rai dyddiau na’i gilydd.

Roeddwn yn benderfynnol o gadw olion llif y chwarel ar wynebau’r llechi - rhan arall o stori’r wal.

Y wal yn tynnu at ei therfyn, yn dangos yr afon Wnion yn llifo i’r Fawddach yn Yr Aber, cyn i’r Fawddach ei hun lifo i’r môr yn Abermaw. Llyn Derwen Gam yw’r llyn olaf ar ei hyd i gael ei bysgota. Mae’r afon o Bontddu i’r môr yn lledu ac yn newid ei chymeriad – yr afon hallt ydi hi wedyn.

Digwyddodd un o ddisgynyddion teulu Rhuddallt, y tŷ uwchlaw Llyn Derwen Gam, daro heibio tra roeddwn yn walio rhyw ddiwrnod, ac fe gofiai’r wraig yn iawn, a hithau’n ferch fach yn byw yng Nghaerfaddon, dderbyn clamp o eog a ddaliwyd yn y llyn gan ei thaid, ac a yrrwyd yr holl ffordd o Ddolgellau i Gaerfaddon ar y trên. Rhaid oedd cynnwys pysgodyn felly!

Gosod y pysgodyn yn ei le. Roedd yn her i siapio’r llechi i gau amdano’n dynn a chreu  y rhigolau i gymryd y cerrig gwynion oedd wedi eu naddu’n grwn ar y pen i gyfleu swigod. Y cyfnodau hynny pan fyddai’r pysgod yn nofio i flaenau’r afonydd i silio oedd y rhai pan fyddai’r pysgotwyr yn eu rhwydo ym mhwll Y Draill. Pe na byddai digon o lif i’r pysgod fynd yn eu blaenau, yn y pwll hwn y byddent yn cronni, a byddai’r llyn yn ddu ohonynt wrth i don ar ôl ton o bysgod nofio o’r aber efo pob llanw ac ymgasglu yno i ddisgwyl llif mawr.

Y llygaid o Lanrwst, ar goesau o weiar â channwyll y llygad yn y gwydr yn barod. Ar ôl paentio’r un llygad oedd angen, fe’i gludwyd i’w le. Braf oedd gweld fod patrwm traed cathod ar ganol bol yr eog.

Taflu pridd wedi ei hidlo i gilfachau’r wal, er mwyn i blanhigion fel rhedyn a dail ceiniog gael gwreiddio yna ynghynt.

Gorffen y manion – ond gwaith oriau i naddu  y sgwariau i ddal y cetynnau ar gyfer y giat, heb chwalu’r garreg yn gyfangwbl.

Gosodwyd y giat hefyd, a gynlluniais i adlewyrchu hanes y rheilffordd, gyda’i gledrau yn diflannu i’r pellter, a chlicied wedi ei lunio, ar ôl oriau o waith yn y gweithdy, ar siap bys y signal sydd i’w weld ar ben polyn yn Llynpenmaen heddiw. Hywel Jones, swyddog prosiectau mynediad yr Awdurdod wnaeth y gwaith coed crefftus, drwy ailgylchu hen arwyddbyst derw oedd gennym, oedd wedi mynd yn gam wrth sychu.

Y wal ar ôl gorffen a gosod tywarchen o flodau gwyllt ar ei ben.

Mae’r wal bellach wedi ei chwblhau, a darnau llarwydd oddi wrth Ieu Jones, Blaen Cwm, Llanuwchllyn wedi eu gosod ar ben yr hyd arall o wal. Croeso i unrywun daro i’w weld os yn y cyffiniau – bydd yn brafiach eistedd ar y fainc yn y gwanwyn pan fydd y clychau’r gog yn blodeuo.