Gwasanaeth Wardeinio
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cael ei oruchwylio gan dîm ymroddedig o wardeiniaid, sy’n gyfrifol am ardaloedd penodedig o fewn y Parc. Mae cyfrifoldebau’r wardeiniaid yn ddiddorol ac amrywiol ac yn cynnwys cynghori’r cyhoedd ynghylch diogelwch a defnydd cyfrifol o gefn gwlad, trafod gyda tirfeddianwyr ar sut i reoli ymwelwyr a helpu ysgolion a grwpiau cymunedol gyda prosiectau cadwraeth. Maent hefyd yn gweithio i hybu gwaith Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a chryfhau’r berthynas rhwng ymwelwyr a’r gymuned leol.
Gyda chymorth y Gweithwyr Stâd, mae’r Gwasanaeth Wardeinio yn helpu i wneud y Parc Cenedlaethol yn fwy hygyrch i’r cyhoedd drwy reoli hawliau tramwy cyhoeddus, llwybrau caniataol a ‘Chefn Gwlad Agored’. Mae’r gwaith yn cynnwys codi a chynnal camfeydd, giatiau ac arwyddion ynghyd ag ailwynebu llwybrau a gwaith cynnal a chadw cyffredinol. Mae wardeiniaid y Parc yn byw yn yr ardaloedd lle maent yn gwasanaethu ac mae ganddynt wybodaeth eang o ddaeareg a bywyd gwyllt yr ardal. Maent yn darparu gwasanaeth allweddol i ymwelwyr drwy gynnig cyngor i gerddwyr, dringwyr a thwristiaid ar sut i gadw’n ddiogel tra’n mwynhau ‘r arlwy sydd ar gael ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)