Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Mynydd Cefn Ddwy Graig a Rhos-y-gwaliau

Mynydd Cefn Ddwy Graig a Rhos-y-gwaliau - 1 Mehefin 2018


Mynydd Cefn Ddwy Graig a Rhos-y-gwaliau
Arwel Morris

Grade: Cymhedrol

Distance: 8km / 5 milltir

Time: 2.5 awr

Terrain: Amrywiol


Mae tirlun amrywiol a chyfoethog Penllyn yn cynnig amrywiaeth o lwybrau i’w dilyn. Mis yma, rwy’n cynnig llwybr sy’n cynnig rhan tawelach o ardal Llyn Tegid.

*Map Arolwg Ordnans OL 23

Cychwynwch eich taith ym maes parcio talu ac arddangos blaendraeth Llyn Tegid a cherdded ar hyd y llwybr tarmac ger y llyn tuag at Wersyllfa Penybont a rhan Ogledd-ddwyreiniol Llyn Tegid. Wedi i chi basio mynedfa’r wersyllfa, trowch i’r ffa gan ddilyn llwybr march 05 Llangower ar drac graean. Trowch ar y llwybr troed cyntaf i’r chwith sy’n arwain ar ddarn ychydig yn fwy cymhedrol trwy’r goedwig. Mi fyddwch wedyn yn dilyn llwybr drwy dir fferm tuag at Encil y Coed. Unwaith y byddwch yno, ewch ar y llwybr i’r chwith sy’n eich harwain tuag at Mynydd Cefn Ddwy Graig. Dyma gyfle i chi gymryd golwg ar yr hyn tu ôl i chi, golygfeydd ysblennydd o Lyn Tegid a thref Y Bala. Os byddwch yn hynod lwcus ar ddiwrnod clir mae posib gweld Pedol yr Wyddfa i’r Gorllewin.

Mae’r tir agored ar draws Mynydd Cefn Ddwy Graig yn cynnig golygfeydd clir tuag at Edeyrnion ac ymhellach draw at Ddyffryn Clwyd. Nodwedd ddiddorol p’run ai ydych yn eu caru neu beidio yw’r melinoedd gwynt ar wasgar heibio ffin y Parc Cenedlaethol ac yn llawe ymhellach draw. Yn wir, gall y trigolion lleol ganfod eu lleoliad wrth gyfeirio atynt!

Mae camfa yno i adael Mynydd Cefn Ddwy Graig, dilynwch y llwybr heibio Ty Mawr wneith eich arwain at bentref Rhosygwaliau. I’r Dwyrain mae fferm Rhiwaedog sy’n destun hanes diddorol a ac unigryw. Yma oedd un o ddisgynyddion un o Arglwyddi mwyaf pwerus y 12fed ganrif yn byw, Rhirid Flaidd. Roedd yn rheoli’r bobl mor lawdrwm fel ei fod yn cael ei adnabod fel y Blaidd Gwaedlyd, a rhoddodd y symbol ar ei Arfbais. Mae nifer o chwedlau a thraddodiadau yn gysylltiedig a Rhiwaedog megis un am grisial maint wy a basiwyd o genhedlaeth i genhedlaeth oedd yn darogan marwolaeth y penteulu pan fyddai’r lliw clir yn cymylu.

Dilynwch y ffordd i’r dde trwy’r pentref, ac i’r dde eto heibio Canolfan Awyr Agored Rhosygwalia.

Cymrwch y llwybr nesaf i’r dde a chroesi bont sy’n dilyn Afon Cymerig. Mae’r llwybr yn dringo yn raddol heibio Cae Glas yn nôl tuag at Encil y Coed. Yma eto, mae golygfeydd rhagorol o Gader Idris a mynyddoedd Arenig.

Mi fyddwch nawr yn dilyn llwybr y daethoch i fyny am ychydig fetrau. Y tro hyn ewch i’r chwith ar lwybr sy’n arwain at Wenallt, ewch ar draws y ffermdir gan gadw i’r dde o’r ffermdy. Os ydych yn ffodus i fod yno ben bore efallai cewch weld y niwl yn cusannu Llyn Tegid a’r Bala a dim ond awyr glas glir uwch ei ben! Fel yr ydych yn disgyn, ewch i’r chwith a dilyn y llwybr trwy Coed Fachddeiliog a thuag at orsaf Rheilffordd Llyn Tegid. O’r man hyn ailymunwch a’r llwybr tarmac a gwneud eich ffordd yn nôl at flaendraeth Llyn Tegid.

Dyma gylchdaith 5 milltir o hyd felly gwnewch yn siwr bod gennych ddigon o amser i’w gyflawni. Mae’r llwybr yn croesi tir fferm o bryd i’w gilydd. Mae’n dirlun amaethyddol sy’n golygu y byddwch yn dod ar draws anifeiliaid fferm.

Y Côd Cefn Gwlad

Arwel Morris (Warden Llyn Tegid)