Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Llyn Gwernan

Llyn Gwernan - 1 Awst 2017


Llyn Gwernan
Rhys Gwynn

Grade: Hamdden

Distance: 1 milltir

Time: 1 awr

Terrain: Caeau, llwybrau coedwig a rhai mannau gwlyb


Taith fer, hawdd i rywun ei gerdded rhwng y cawodydd sydd i’w gweld yn taro’r ardal hon yn aml yr haf yma, ydi hon o gwmpas Llyn Gwernan, ar gyrion Dolgellau. Mae’r llyn mewn lleoliad godidog, yn gorwedd ar un o brif ffawtiau daearegol Cymru – Ffawt y Bala, sy’n rhedeg ar hyd dyffryn Wnion o’r Bala ac yn diweddu yng ngogledd Sir Benfro.

I’r gogledd o’r llyn, mae un o lwybrau hynafol yr ardal yn cysylltu’r dref efo ardal Arthog, a’i chyfoeth o olion cynhanesyddol, ac i’r de, mae crib urddasol Cader Idris, a mynydd Tyrrau Mawr yn amlwg ar ei ben gorllewinol. Wrth odre’r mynydd hwn mae Twll y Fleiddiast, lle lladdwyd y blaidd olaf yn sir Feirionydd. Ac ymhellach i’r gorllewin, mae’r Ffordd Ddu yn croesi’r gefnen – yr hen ffordd i Gastell y Bere a godwyd gan Llywelyn Fawr. Cewch barcio ym maes parcio Gwesty Gwernan, ddwy filltir o’r dref, i wneud y gylchdaith o amgylch y llyn. Cerddwch yn ôl am Ddolgellau ar hyd y ffordd a throi drwy’r giat gyntaf ar y chwith lle mae’r arwyddbost. Dilynwch y llwybr, gyda choesau llafn y bladur (bog asphodel) i’w gweld adeg yma yn britho’r tir o’ch cwmpas. Dyma’r man gorau i weld Tyrrau Mawr, a Llwybr Cam Rhedynen yn igamogamu i fyny i’r copa. Daliwch yn eich blaen drwy’r giat nesaf. Ymhen dim mae mainc i chi gael hoe fach ac edmygu clogwyni enfawr Y Cyfrwy i’r de, lle bu O.J.Jones, un o ddringwyr enwocaf Cymru yn hogi ei grefft. Mae’r llwybr yn dilyn ymyl y llyn, a thrwy giat arall a choed pinwydd. Cadwch lygad am ddwrgwn yn y gwelau lili, neu fursennod trydanlas. Trowch wedyn i’r chwith a dilyn llwybr pren sy’n croesi ardal wlyb sydd yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig am ei fod yn un o ddim ond dau lecyn yng Nghymru lle mae dyfnder helaeth o fawn, 50 troedfedd fan hyn, heb ei gorddi, sy’n dal cofnod perffaith o baill planhigion fu’n tyfu yma ers diflaniad y rhewlifoedd diwethaf tua 11,000 o flynyddoedd yn ôl. Ar ôl dringo drwy’r cae at giat y ffordd, trowch i’r chwith am y gwesty lle gewch dorri syched.

Rhys Gwynn (Warden Ardal (De))