Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Llwybr Hanesyddol Llanfairfechan

Llwybr Hanesyddol Llanfairfechan - 1 Mawrth 2018


Llwybr Hanesyddol Llanfairfechan
Alan Pritchard

Grade: Cymedrol

Distance: 7 Km / 4.5 Milltir

Time: 4 awr

Terrain: Llwybrau rhostir a mynydd agored


Mae’r gylchdaith yma'n cychwyn o gopa tref Llanfairfechan ac yn croesi’r gyfuchlin 1000 troedfedd (304 medr) tuag at droed y Carneddau. Dyma dirlun a chyfoeth o rinweddau archeolegol o’r Oes Haearn ymlaen.

Byddwch yn teithio trwy ffridd sy’n cael ei bori yn bennaf gan ddefaid, ond gellir gweld gwartheg a merlod mynydd Cymreig weithiau hefyd. Mae’n dir caeëdig rhwng porfeydd yr iseldir a’r tir mynydd agored. Ar ôl y giat mochyn diwethaf, byddwch yn croesi tir comin. Ers cyflwyno defaid ar raddfa uwch tua dwy ganrif yn ôl, mae’r rhostir wedi newid o dir pori gwartheg i’r gwair byr, gors, llusen, rhedyn a’r grug y gwelwn heddiw. Yn aml, gellir gweld merlod y Carneddau yma, maent yn cael eu gadael i redeg yn wyllt ar y bryniau.

Wrth edrych dros y môr gallwch weld golygfeydd trawiadol o’r dyffryn hyd at yr arfordir a’r Fenai. Ar lanw isel mae traeth Lafan yn ymestyn ar draws am Sir Fôn. Mae’r tywod yma’n enwog am rywogaethau morol ac adar. Cyn adeiladu Pont Menai, byddai pobl yn teithio dros y tywod tuag at Fôn cyn gorffen y siwrne gyda cwch. Ar ddiwrnod clir, gellir gweld mynyddoedd Parys a Chaergybi.

Edrychwch am garreg gerfiedig ger yr arwydd pren, mae’n cynnwys tri sgwar consentrig ar y dyluniad a chanol bob un o’r ochrau wedi ei dorri ar ongl gan linellau byrion. Mae rhai wedi awgrymu mai bwrdd ‘Naw Dyn Morris’ (Nine Men’s Morris) yw hwn – gêm fwrdd y porthmyn oedd yn cael eu chwarae gyda cerrig a chownteri.

Alan Pritchard (Warden Ardal)