Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Cylchdaith y Crimpiau

Cylchdaith y Crimpiau - 1 Ionawr 2019


Cylchdaith y Crimpiau
Alan Pritchard

Grade: Anodd/Llafurus

Distance: 6 cilometr (3.5 milltir)

Time: Tua 3-4 awr

Terrain: Garw a mynyddig, rhai darnau gwlyb a chorslyd


Ydych chi wedi gwneud adduned Blwyddyn Newydd i grwydro mwy ar Eryri? Beth am roi cynnig ar y daith gylch fendigedig hon i gopa’r Crimpiau yn ardal Capel Curig? Cewch fwynhau golygfeydd godidog o Ddyffryn Mymbyr a phedol yr Wyddfa, Dyffryn Ogwen a Llyn Crafnant.

Er nad yw’n daith fynyddig rhy heriol, dylech gymryd pwyll ar y rhannau uchaf, yn enwedig os yw hi’n rhewi dan draed. Am ragor o wybodaeth a chyfarwyddiadau cliciwch ar y ddolen isod.

Alan Pritchard (Warden Ardal)