Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Llwybr Clywedog

Llwybr Clywedog - 1 Chwefror 2018


Llwybr Clywedog
Rhys Gwynn

Grade: Llwybr Cymhedrol

Distance: 2½ milltir - 4 km

Time: Tua 1 - 2 awr

Terrain: Llwybrau anwastad gyda rhai darnau serth


Dyma un o lwybrau mwyaf poblogaidd cyffiniau Dolgellau ac mae'r llwybr cylch hwn yn dilyn taith fyrlymus afon Clywedog am filltir i lawr ac yn ôl trwy geunant trawiadol yn llawn rhaeadrau.

Adeiladwyd y llwybr yn wreiddiol gan Thomas Payne a'i fab, a gynlluniodd y Cob ar draws afon Glaslyn ym Mhorthmadog. Comisiynwyd y gwaith gan y Barwn Richards o Blas Caerynwch a saif yn uwch i fyny'r afon, er mwyn ymestyn gerddi'r Plas a chreu argraff ar ei westeion.

Ar un adeg roedd glannau afon Clywedog yn llawn bwrlwm diwydiant. Roedd yma bandy, efail, melin wlân ac roedd ffwrnais haearn gerllaw. Mae rhai ohonynt yma hyd heddiw. Mae'r ceunant yn llawn bywyd gwyllt a phlanhigion arbennig hefyd - mae yma ddyfrgwn ac ystlumod pedol lleiaf heb sôn am gasgliad pwysig o gen, rhedyn, mwsoglau, madarch a llysiau'r afu. Mae’n geunant cysgodol a chyson laith ac felly’n addas iawn ar gyfer yr is-blanhigion yma. Efallai y gwelwch fronwen y dŵr neu siglen lwyd ar greigiau’r afon, a’r gnocell fraith leiaf brin yn y coed uwchben. mae coed piswydden yn gyffredin yma, ynghyd â’r oestrwydden, oedd yn ffynhonnell bwysig o bren ar gyfer olwynion y felin.

I gyrraedd y daith o Ddolgellau, dilynwch yr A470 i'r de. Ar ôl dwy filltir, trowch i'r chwith am y B4416 i gyfeiriad Brithdir. Croeswch y bont gul, Pont ar Ddibyn, ymhen 50m. Ymhen 200m wedi hynny mae cilfan ar y chwith a mynegbost yn nodi'r llwybr. Mae’r ffwrnais haearn i’w weld rhyw ganllath ar hyd y ffordd waelod i gyfeiriad Dolgellau. Fe’i hatgyweiriwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ond ei chodi gyntaf gan Abraham Derby, y crynwr o Coalbrookdale, oherwydd ei gysylltiadau efo crynwyr lleol, megis teuluoedd Dolgun a Dolserau.

Rhys Gwynn (Warden Ardal (De))