Ymweld ag Eryri

alt=

Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

Dyma’r llwybr hawsaf i ben Cader Idris, ond dyma’r hiraf hefyd - dros bum milltir. Mae'r llwybr yn cyrraedd Cader Idris o gyfeiriad Dyffryn Dysynni cyn ymuno a llwybr Piliwn Pwn ar ben Rhiw Gwredydd.

Mae’n debyg mai dyma’r ffordd fwyaf uniongyrchol i’r plwyfolion fynd i Ddolgellau, eu tref farchnad leol a lleoliad y Llysoedd Chwarter.

Sut i gyrraedd yno?
Dilynwch yr arwyddion brown am Castell-y-Bere o ganol pentref Abergynolwyn, oddi ar y B4405. Ewch heibio’r lle parcio ar gyfer Castell-y-Bere ar y chwith ac ewch yn eich blaenau ar hyd y ffordd fach nes y dewch at bentref bach Llanfihangel y Pennant. Mae lle parcio ar y dde, ar draws y ffordd i’r eglwys.

Pellter: 10 milltir - 16Km (yno ac yn ôl)

Esgyniad: 2,844 troed - 867 metr

Amser: Tua 7 awr (yno ac yn ôl)

Gradd: Llwybr Anodd Llafurus

Dechrau/Diwedd: Maes parcio yn Llanfihangel y Pennant (SH 672 089)

Parcio: Parciwch gyferbyn a'r eglwys yn Llanfihangel

Côd Post: LL36 9TN

Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Manylion Llwybr

1. Dilynwch y ffordd gul i fyny’r dyffryn, gan fynd heibio i ffermdy Tŷ’n  y Fach ar y dde i chi ar ôl tua chwarter milltir.

2. Croeswch y bont dros Afon Cader a byddwch yn gweld bwthyn wedi adfeilio ar y dde, sydd â charreg goffa arno. Hwn oedd cartref Mary Jones, a gerddodd yn droednoeth am 25 milltir yn 1800 dros y mynyddoedd i’r Bala i brynu Beibl Cymraeg gan y Parchedig Thomas Charles. Dywedir i’w hymroddiad ei ysbrydoli i sefydlu’r Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor.

3. Gan gadw bwthyn Mary Jones ar y dde, ewch trwy giât ffordd (a adewir ar agor yn aml) ac ar hyd y ffordd fetlin sy’n cyd- redeg â’r afon. Wrth fynd trwy giât arall byddwch yn dod at hen ffermdy Gwastadfryn. Ym mhen pellaf yr iard mae giât arall. O hyn allan mae’r llwybr yn fwy garw, ac yn dechrau dringo wrth gyrraedd giât arall. Wrth fynd trwy hon, fe welwch lethrau Craig Ysgiog ar y dde, ac ymhen tipyn byddwch yn mynd heibio coedwig larwydd wedi ei phlannu ar y llethr serth o dan y llwybr.Mae’r caeau rydych chi’n cerdded trwyddynt yn rhan o fferm Tŷ’n y Fach. Mae hon yn fferm fynydd nodweddiadol gan y gellir ei rhannu’n dair rhan. Mae’r rhan isaf yn cynnwys y tir gorau o amgylch y tŷ a’r adeiladau lle ceir pori a chnydau gwair neu silwair. Caiff y tir hwn ei reoli’n eithaf dwys. Y rhan nesaf yw’r ffridd o dan wal y mynydd, sef ardal gaeëdig o dir mwy garw ac sy’n cael ei reoli i raddau; ac yn olaf, uwchben wal y mynydd, ardal fawr agored o dir pori mynydd.

4. Wrth i chi fynd drwy giât arall uwchben y blanhigfa larwydd byddwch yn gweld crwmp Mynydd Pencoed ar y dde. Ychydig ymhellach byddwch yn cyrraedd giât arall yn ymyl ysgubor gerrig ar y chwith i chi.

5. Nid yw’r llwybr rydych chi’n cerdded arno’n dilyn llinell y llwybr cyhoeddus yr holl ffordd, a dyma lle mae’n rhaid i chi ei adael am sbel. Yn syth ar ôl mynd trwy’r giât trowch i’r dde fel a nodir gan y postyn marcio melyn. Mae’r llwybr y mae’n rhaid i chi ei ddilyn, sydd â ffens ac afon ar y dde iddo, yn mynd trwy ardal garegog gyda choed derw yma ac acw.

6. Croeswch yr afon gan ddefnyddio hen bompren garreg hyfryd a dringwch yn serth i fyny’r llwybr, sy’n gwyro’n sydyn i’r dde gan ddod at giât a chamfa. Croeswch y gamfa gan ddringo’n igam-ogam hyd nes i chi gyrraedd wal gerrig. Mae’r llwybr yn welltog ac yn amlwg yn hynafol, gan iddo fod ymhell o dan lefel y ddaear o’i amgylch.

7. Wrth gyrraedd y wal gerrig, mae’r llwybr yn gwyro i’r chwith ac yn dilyn y wal. Yma ceir golygfa ragorol o Gastell y Bere yn y dyffryn y tu ôl i chi, a Phen y Gader (2,927tr/893m), pegwn Cader Idris o’ch blaen. Dilynwch y llwybr, gan gadw’r wal ar y dde i chi. Pan gyrhaeddwch chi “faen hir” amlwg byddwch hefyd yn cael cipolwg ar y llwybr o’ch blaen unwaith eto. Mae’r maen hir yn dirnod pwysig ar gyfer eich taith yn ôl, ynghyd â’r postyn marcio pren lle mae’r llwybr yn ail ymuno â’r trywydd.

8. Nawr mae’r ffordd yn cyfuchlunio o amgylch y bryn ac wedyn yn disgyn ychydig. Fe ddewch at dro ar y dde, ond ewch yn eich blaen fel a nodir gan y postyn marcio pren. Gyda hyn, wrth groesi camfa, fe ddewch i hen fuarth fferm Hafoty Gwastadfryn. Yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, arferai ffermwyr mynydd hafota a hendrefa. Byddent hwy a’u teuluoedd yn symud i’w cartref mynydd neu’r “hafod” yn yr haf, gan fynd â’u hanifeiliaid gyda hwy i bori glaswelltoedd y mynydd, a gadael llonydd i gaeau’r iseldir dyfu’n gnwd o wair. Yn yr hydref byddent i gyd yn dychwelyd i’r hendre, eu cartref am y gaeaf.

9. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr, gan droi i’r dde yn union cyn i chi gyrraedd y corlannau defaid yn yr hen fuarth. Yn fuan ar ôl croesi’r afon, mae’r llwybr yn dechrau dringo’n serth. Fe ddewch at fforch lle rydych yn cymryd y llwybr ar y dde a nodir gan y postyn cyfeirbwyntio. Parhewch i ddilyn y pyst cyfeirbwyntio hyd nes y bo’r llwybr yn cwrdd â brig y grib ac yn troi i’r dde wrth ffens weiren. Ar ôl ychydig lathenni rydych yn cyrraedd croesffordd o ffensys gyda giât a chamfa. Caiff y pwynt hwn ei adnabod fel “1842” (560m), y pwynt uchder. Y llwybr ar yr ochr draw i’r ffens ar y chwith i chi yw llwybr Tŷ Nant, ond mae’r llwybr y mae’n rhaid i chi ei ddilyn ar ochr bellaf y ffens dros y ffordd i chi. Ceir golygfa arbennig o forfa Mawddach oddi yma.

10. Mae’r rhan olaf hon yn mynd trwy dir mynyddig iawn. Mae esgidiau cryfion yn hanfodol, gan fod y ddaear yn garegog a rhydd dan draed. Croeswch y gamfa ac ewch ymlaen ar hyd y llwybr, sy’n dechrau dringo’n serth. Mae’r carneddau sy’n ei farcio’n ganllaw pwysig, yn enwedig ar eira. Peidiwch â’u malurio na chodi rhai newydd os gwelwch yn dda. Mae’r llwybr yn dilyn cyfres o rannau igam-ogam hyd nes eich bod yn cyrraedd pen y codiad tir lle cewch olygfa o Ben y Gader a’i amlinell od o gerrig mawr wedi eu naddu gan rew. I’r chwith fe welwch Grib y Cyfrwy a’r tu ôl i chi Carnedd Lwyd.

11. Wrth fynd trwy dir anial o graig a faluriwyd gan rew, rydych yn sefyll ar ben y clogwyni sy’n edrych dros Lyn y Gader. Dilynwch y llwybr i’r dde o amgylch godrau’r clogwyn, a chymerwch ofal mawr, yn enwedig mewn eira a rhew. Peidiwch â mynd yn rhy agos i’r ymyl, gan y gall gordoeau - cruglwythi o eira - ffurfio yma. Cyn bo hir byddwch yn dod at y creigiau siâp od a welsoch ar y gorwel yn gynharach. Mae’r llwybr yn ymdroelli rhyngddynt ac fe gewch gip o Lyn Gafr ymhell oddi tanoch ar y chwith. Dim ond ychydig funudau o sgrialu nawr a byddwch ar y copa.

12. Mae cysgodfan yn agos i garnedd y copa sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan Wasanaeth Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri.

13. Wrth i chi ddychwelyd, gwnewch yn siwr cyn cychwyn eich bod yn anelu i'r cyfeiriad iawn, yn enwedig mewn niwl. Cadwch i'r dde wrth fynd i lawr o'r copa. Ymhen rhyw 25m i'r gorllewin o'r copa byddwch yn pasio hen le tân y caffi gwreiddiol ac ymhen 25m arall mae'r llwybr yn fforchio. Cadwch i'r dde yn y fan hon. Hawdd yw cychwyn i lawr tuag at Craig Cau mewn camgymeriad. Cyn bo hir, dylai'r creigiau lafa clustog fod ar eich llaw chwith.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    1. Dilynwch y ffordd gul i fyny’r dyffryn, gan fynd heibio i ffermdy Tŷ’n y Fach ar y dde i chi ar ôl tua chwarter milltir.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    2. Croeswch y bont dros Afon Cader a byddwch yn gweld bwthyn wedi adfeilio ar y dde, sydd â charreg goffa arno. Hwn oedd cartref Mary Jones, a gerddodd yn droednoeth am 25 milltir yn 1800 dros y mynyddoedd i’r Bala i brynu Beibl Cymraeg gan y Parchedig Thomas Charles. Dywedir i’w hymroddiad ei ysbrydoli i sefydlu’r Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    3. Gan gadw bwthyn Mary Jones ar y dde, ewch trwy giât ffordd (a adewir ar agor yn aml) ac ar hyd y ffordd fetlin sy’n cyd- redeg â’r afon. Wrth fynd trwy giât arall byddwch yn dod at hen ffermdy Gwastadfryn. Ym mhen pellaf yr iard mae giât arall. O hyn allan mae’r llwybr yn fwy garw, ac yn dechrau dringo wrth gyrraedd giât arall. Wrth fynd trwy hon, fe welwch lethrau Craig Ysgiog ar y dde, ac ymhen tipyn byddwch yn mynd heibio coedwig larwydd wedi ei phlannu ar y llethr serth o dan y llwybr.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    4. Wrth i chi fynd drwy giât arall uwchben y blanhigfa larwydd byddwch yn gweld crwmp Mynydd Pencoed ar y dde. Ychydig ymhellach byddwch yn cyrraedd giât arall yn ymyl ysgubor gerrig ar y chwith i chi.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    5. Nid yw’r llwybr rydych chi’n cerdded arno’n dilyn llinell y llwybr cyhoeddus yr holl ffordd, a dyma lle mae’n rhaid i chi ei adael am sbel. Yn syth ar ôl mynd trwy’r giât trowch i’r dde fel a nodir gan y postyn marcio melyn. Mae’r llwybr y mae’n rhaid i chi ei ddilyn, sydd â ffens ac afon ar y dde iddo, yn mynd trwy ardal garegog gyda choed derw yma ac acw.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    6. Croeswch yr afon gan ddefnyddio hen bompren garreg hyfryd a dringwch yn serth i fyny’r llwybr, sy’n gwyro’n sydyn i’r dde gan ddod at giât a chamfa. Croeswch y gamfa gan ddringo’n igam-ogam hyd nes i chi gyrraedd wal gerrig. Mae’r llwybr yn welltog ac yn amlwg yn hynafol, gan iddo fod ymhell o dan lefel y ddaear o’i amgylch.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    7. Wrth gyrraedd y wal gerrig, mae’r llwybr yn gwyro i’r chwith ac yn dilyn y wal. Yma ceir golygfa ragorol o Gastell y Bere yn y dyffryn y tu ôl i chi, a Phen y Gader (2,927tr/893m), pegwn Cader Idris o’ch blaen. Dilynwch y llwybr, gan gadw’r wal ar y dde i chi. Pan gyrhaeddwch chi “faen hir” amlwg byddwch hefyd yn cael cipolwg ar y llwybr o’ch blaen unwaith eto. Mae’r maen hir yn dirnod pwysig ar gyfer eich taith yn ôl, ynghyd â’r postyn marcio pren lle mae’r llwybr yn ail ymuno â’r trywydd.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    8. Nawr mae’r ffordd yn cyfuchlunio o amgylch y bryn ac wedyn yn disgyn ychydig. Fe ddewch at dro ar y dde, ond ewch yn eich blaen fel a nodir gan y postyn marcio pren. Gyda hyn, wrth groesi camfa, fe ddewch i hen fuarth fferm Hafoty Gwastadfryn. Yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, arferai ffermwyr mynydd hafota a hendrefa. Byddent hwy a’u teuluoedd yn symud i’w cartref mynydd neu’r “hafod” yn yr haf, gan fynd â’u hanifeiliaid gyda hwy i bori glaswelltoedd y mynydd, a gadael llonydd i gaeau’r iseldir dyfu’n gnwd o wair. Yn yr hydref byddent i gyd yn dychwelyd i’r hendre, eu cartref am y gaeaf.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    9. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr, gan droi i’r dde yn union cyn i chi gyrraedd y corlannau defaid yn yr hen fuarth. Yn fuan ar ôl croesi’r afon, mae’r llwybr yn dechrau dringo’n serth. Fe ddewch at fforch lle rydych yn cymryd y llwybr ar y dde a nodir gan y postyn cyfeirbwyntio. Parhewch i ddilyn y pyst cyfeirbwyntio hyd nes y bo’r llwybr yn cwrdd â brig y grib ac yn troi i’r dde wrth ffens weiren. Ar ôl ychydig lathenni rydych yn cyrraedd croesffordd o ffensys gyda giât a chamfa. Caiff y pwynt hwn ei adnabod fel “1842” (560m), y pwynt uchder. Y llwybr ar yr ochr draw i’r ffens ar y chwith i chi yw llwybr Tŷ Nant, ond mae’r llwybr y mae’n rhaid i chi ei ddilyn ar ochr bellaf y ffens dros y ffordd i chi. Ceir golygfa arbennig o forfa Mawddach oddi yma.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    10. Mae’r rhan olaf hon yn mynd trwy dir mynyddig iawn. Mae esgidiau cryfion yn hanfodol, gan fod y ddaear yn garegog a rhydd dan draed. Croeswch y gamfa ac ewch ymlaen ar hyd y llwybr, sy’n dechrau dringo’n serth. Mae’r carneddau sy’n ei farcio’n ganllaw pwysig, yn enwedig ar eira. Peidiwch â’u malurio na chodi rhai newydd os gwelwch yn dda. Mae’r llwybr yn dilyn cyfres o rannau igam-ogam hyd nes eich bod yn cyrraedd pen y codiad tir lle cewch olygfa o Ben y Gader a’i amlinell od o gerrig mawr wedi eu naddu gan rew. I’r chwith fe welwch Grib y Cyfrwy a’r tu ôl i chi Carnedd Lwyd.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    11. Wrth fynd trwy dir anial o graig a faluriwyd gan rew, rydych yn sefyll ar ben y clogwyni sy’n edrych dros Lyn y Gader. Dilynwch y llwybr i’r dde o amgylch godrau’r clogwyn, a chymerwch ofal mawr, yn enwedig mewn eira a rhew. Peidiwch â mynd yn rhy agos i’r ymyl, gan y gall gordoeau - cruglwythi o eira - ffurfio yma. Cyn bo hir byddwch yn dod at y creigiau siâp od a welsoch ar y gorwel yn gynharach. Mae’r llwybr yn ymdroelli rhyngddynt ac fe gewch gip o Lyn Gafr ymhell oddi tanoch ar y chwith. Dim ond ychydig funudau o sgrialu nawr a byddwch ar y copa.

  • Llwybr Llanfihangel y Pennant, Cader Idris

    12. Mae cysgodfan yn agos i garnedd y copa sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan Wasanaeth Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri.

Nodyn ar Ddiogelwch

Cyn mentro allan ar y mynyddoedd, darllenwch ein Cyngor ar Ddiogelwch ar y Mynydd.

Cofiwch

Er eich bod ym Mharc Cenedlaethol Eryri, cofiwch fod y llwybr yn mynd trwy dir fferm a phori preifat Tŷ’n y Fach, Gwastadfryn a Phennant, lle nad oes croeso i gŵn oni bai eu bod o dan reolaeth glòs neu ar dennyn.