Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Llwybrau Dyffryn Maentwrog a Llyn Mair

RHYBUDD

Mae'r llwybr o bwynt 7 i 19 wedi cau dros dro hyd ddiwedd tymor yr haf oherwydd bod adar yn nythu. Os gwelwch yn dda defnyddiwch lwybr amgen.

Mi fydd hyn hefyd yn amharu ar y Llwybr Cymunedau Arfordirol o Faentwrog i Benrhyndeudraeth.

Llwybr amgen dros dro (pdf)

Mae Rhwydwaith Llwybrau Dyffryn Maentwrog a Llyn Mair yn ymestyn dros ardal eang ac yn cynnwys dros 30km o lwybrau cerdded. Sefydlwyd y rhwydwaith er eich mwynhad chi ym 1989 gan bartneriaeth o dirfeddianwyr yn yr ardal ac mae'r postiau rhifo ar bob cyffordd ar y llwybrau yn gymorth ichi weld lle yr ydych ar y map.

Pellter: Rhwydwaith o lwybrau dros 30km yn ei chyfanrwydd
Lleoliad: Plas Tan y Bwlch a nifer o leoedd parcio eraill (gweler y map am fwy o wybodaeth)
Map perthnasol: Arolwg Ordnans OL 18 Harlech, Porthmadog a'r Bala
Gwybodaeth ddefnyddiol: Gwisgwch esgidiau cerdded cyfforddus

Map Llwybrau Dyffryn Maentwrog a Llyn Mair

Cliciwch ar y map i weld fersiwn mwy mewn pdf

Hanes

Rhan o ramant crwydro'r llwybrau yw darganfod, ym mysg cyfoeth natur wyllt a'i hamrywiol gynefinoedd, yr olion dadlennol hynny o gyfoeth hanesyddol y fro.

Sylwch ar:

hen lwybrau'r stad - rhai yn dyddio'n ôl i'r 18G pan dirluniwyd Dyffryn Maentwrog gan stad Plas Tan y Bwlch

yr afon Dwyryd a welir o sawl golygfan. Rhedai ar un adeg yn wê o fân sianelau ar lawr dyffryn rhewlifol mawreddog Maentwrog. Yna, ym 1797, enillwyd y tir gwaelod ar gyfer amaethyddiaeth a chyfyngwyd yr afon rhwng morgloddiau sy'n dolennu o'r naill ochr i'r dyffryn i'r llall.

ffyrdd a llwybrau coedwig, hen a newydd. Tyfid coed derw yma yn y 18-19G yn bennaf ar gyfer adeiladu llongau ym Mhorthmadog pan allforid llechi i bob cwr o'r byd. Tyfid coed pîn hefyd ar gyfer chwareli Blaenau Ffestiniog, oedd yn brif ffynhonnell cyfoeth teulu'r Oakeleys, Plas Tan y Bwlch. Dyddia'r coed conifferaidd presennol o'r 1960au.

Rheilffordd Ffestiniog - o 1836 arferai gludo llechi o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog. Heddiw mae'r trenau, y mwyafrif yn rhai stêm, yn cario twristiaid ac yn creu cyswllt ym Mhenrhyndeudraeth, Plas Halt a gorsaf Plas Tan y Bwlch ar gyfer trofeydd drwy'r rhwydwaith lwybrau.

yr hen ffordd drwy Rhyd, oedd â rhannau ohoni yn hen ffordd Rufeinig (Sarn Helen); yn ffordd i'r porthmyn gerdded eu hanifeiliaid o Lŷn i Lundain ac yn un o brif ffyrdd y goets fawr drwy'r fro. olion cloddiau ac adeiladau yn ymwneud ar un adeg ag amaethyddiaeth, coedwigaeth, cipera ac, yn ardal Penrallt, y diwydiant plwm.

llynnoedd - adeiladwyd Llyn Mair ym 1889 a Llyn Hafod y Llyn tua'r un cyfnod. Cyflenwai Llyn y Felin yn y ceunant o dan Llyn Mair ddŵr i felin goed, melin flawd ac i dwrbein i gynhyrchu trydan i'r Plas a phentre Maentwrog. Cronfa ddŵr yfed oedd Llyn Trefor, fwy i'r gorllewin, ar gyfer tai ar odre'r allt.

Byd Natur

Rheolir coed collddail Dyffryn Maentwrog fel gwarchodfeydd gan nifer o wahanol gyrff oherwydd y cyfoeth o fywyd gwyllt geir ynddynt. Yn ogystal cydnabyddwyd bod y coedlannau yn y dyffryn o bwysigrwydd Ewropeaidd drwy eu dynodi yn Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA) oherwydd yr arwynebedd sylweddol o goedlannau derw'r ucheldir; y cynefin arbennig ar gyfer mwsogau, llysiau'r afu a chennoedd, a'r ystlumod prin geir yn yr ardal, yn arbennig yr ystlum pedol lleiaf sydd â'i gadarnle Ewropeaidd yma.

Adar - mae'r gwanwyn a'r haf yn eithriadol o gyfoethog yn y coedydd derw ar gyfer adar megis y gwybedog brith, y tingoch, telor y coed yn ogystal â llu o adar mwy cyfarwydd, tra bo Llyn Mair dros y gaeaf yn gyrchfan i nifer o wahanol fathau o hwyaid gwylltion. Adar eraill a gofnodwyd yma yw'r troellwr mawr, gwalch marth a gwalch y pysgod.

Anifeiliaid - mae olion llwynogod a moch daear yn gyffredin yma ond cofiwch fod naw math o ystlum a'r bele goed wedi eu gweld yma hefyd.

Planhigion - cyfoeth mwyaf y coedydd yw'r amrywiaeth anhygoel o fwsogau, cen a rhedynnau geir yn tyfu ar foncyffion a changhennau'r coed derw. Ceir cannoedd o wahanol fathau yma ac mae eu cyfuniadau anhygoel o liwiau a ffurfiau yn ddigon o ryfeddod.

Dyffryn Maentwrog

Dyffryn Maentwrog (© APCE)

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)