Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Craig y Fron, Y Bala

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn hybu delweddau o fynyddoedd creigiog, ond dyma un o deithiau mwyn a gwyrdd yr ardal. Mae'n daith gymharol hawdd sydd yn cynnwys ychydig o esgyn cymhedrol ar y cychwyn cyn lefelu ar draws dir pori. Mae'n cynnig golygfeydd gwahanol o dref y Bala, hen chwarel a'r mynyddoedd tu hwnt. Mae'n addas ar gyfer pob oedran a thymor.

Pellter: tua 3 milltir (4.5km)
Gradd: Llwybr Hamdden Canolig
Dechrau / Diwedd: Maes parcio Llyn Tegid
Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 18 (Harlech, Porthmadog a'r Bala)
Gwybodaeth Ddefnyddiol: Gwisgwch esgidiau cyfforddus a chôt law

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Bala

Hen dref farchnad yw'r Bala a gafodd ei Siarter ym 1324. Mae'r "Domen" yn y dref, safle mwnt a beili Normanaidd, yn awgrymu anheddiad cynharach oherwydd ei lleoliad wrth geg yr afon Dyfrdwy.

Dechreuodd y dref ffynnu yn y 18G wrth i'r diwydiant gwlân dyfu, er iddo aros yn ddiwydiant bwthyn gyda phobl yn nyddu, gweu a gwehyddu'r gwlân lleol. Roedd y dref yn arbenigo mewn hosanau hirion wedi'u gweu â llaw a daeth y "Noson Weu" yn ddigwyddiad cymdeithasol lle gallai pobl gwrdd yn nhai ei gilydd a gweu drwy'r nos wrth ganu a chwedleua.

Yn y 19G, roedd y Bala yn ganolbwynt i'r diwygiad crefyddol yng ngogledd Cymru. Yr arweinydd oedd y Parchedig Thomas Charles (1755-1814), Methodist a sylfaenodd Cymdeithas y Beibl ar ôl ymweld â Llundain. Cafodd Charles ei gyffroi yn ei waith ar ôl i Mari Jones yn 1800 gerdded 25 milltir yn droednoeth i'r Bala o'i chartref yn Llanfihangel y Pennant i brynu Beibl Cymraeg ganddo.

Parhaodd y diwygiad crefyddol cryf hwn i ddylanwadu ar y dref, ac yn y 1860au adeiladwyd Coleg y Bala, Coleg Diwinyddol Presbyteraidd gyda cherrig o'r chwarel gyfagos yng Nghraig y Fron. Mae nifer o gerfluniau yn y dref yn coffáu arweinwyr gwleidyddol yr ardal.

Erys y Bala yn gadarnle i'r iaith a'r diwylliant Cymreig hyd heddiw.

Mae llawer iawn o ymwelwyr yn cael eu denu i'r Bala am ei adnoddau dyfrol. Llyn Tegid yw'r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, sy'n berchen i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Ceir yma gyfleoedd i ymlacio, pysgota a chynnal chwaraeon dŵr. Mae afon Tryweryn ar y llaw arall yn gwrs slalom byd-enwog i ganw-wyr, lle ceir rafftio dŵr gwyn. Mae'r Bala yn le delfrydol hefyd i gerdded a chrwydro gyda'r mynyddoedd o'i chwmpas.

Y Llwybr

1. Ar ôl gadael maes parcio Llyn Tegid dilynwch y briffordd i lawr tua'r Bala am oddeutu 500 metr. Cymerwch y drofa gyntaf ar y chwith tuag at y Cwrs Golff. Mae'r ffordd yn dringo'n raddol ac yn pasio adeilad modern.

2. Mae'r ffordd yn awr yn codi'n serth ac yn troi'n lôn wledig gul. Mae gwrychoedd ar hyd ymyl y lôn - coed ynn ag eiddew yn drwch drostynt, ffawydd a derw cnotiog. Ewch heibio mynedfeydd Bronderw a Maes Awelon. Mi allwch weld tre'r Bala a sylwch ar safle mwnt a beili Normanaidd y dref.

3. Ewch ymlaen i ben y bryn. Fe welwch fynyddoedd y Berwyn y tu hwnt i'r Bala. Sylwch hefyd ar batrwm y ffermydd yn y dyffryn a'r goedlan hynafol ar y bryn i'ch chwith sy'n cael ei phori. Coetir fu'n gorchuddio'r ardal gyfan un tro.

4. Dechreuwch i lawr heibio i fynedfa'r Clwb Golff. Dilynwch y llwybr i Hendre Ddu. Ewch heibio i dŷ a chytiau cŵn gan gadw at ochr chwith y ffens. Ewch dros ddwy gamfa a dilynwch y llwybr a'r gwrychoedd cyll uchel. Byddwch yn cyrraedd at adfail a choed pinwydd.

5. Ewch yn syth drwy'r bwlch i'r cae nesaf a dilynwch y terfyn uchaf i lawr at chwarel gerrig Craig y Fron. Nid yw'r chwarel yn cael ei gweithio bellach. Mae'n ogof 400m o hyd gyda phileri cerrig trwchus yn ei chynnal. Ewch dros y gamfa a dilynwch y ffens tua'r dref.

6. Ewch dros gamfa arall a dilynwch y lôn las. Trowch i'r dde ac arhoswch i sylwi ar fwthyn Pen Rhiw, cartref Beti Cadwaladr, nyrs fentrus leol fu'n gweithio gyda Florence Nightingale. Dilynwch arwydd y llwybr i'r dde, ewch dros y gamfa ac ewch ymlaen ar hyd gwaelod y cae. Ewch drwy'r giât at y ffordd fawr ac yn ôl i'r dref.

Llyn Tegid, Bala

Llyn Tegid, Bala (© APCE)

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)