Ymweld ag Eryri

alt=

Llwybr Cynwch, Dolgellau

Nid yw'r daith gylch hon yn llwybr cyhoeddus ond llwybr preifat drwy ran arbennig o hardd ar stad Nannau, sy'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif.

Mae'r stad wedi rhoi caniatâd i'r cyhoedd ddefnyddio'r llwybr ers 1890 ar y ddealltwriaeth eu bod yn cadw at y côd cefn gwlad, yn dilyn y llwybr a ddynodir ac yn defnyddio'r fynedfa briodol. Cadwch gŵn ar dennyn. 

Llwybr Cynwch yw un o atyniadau mwyaf poblogaidd Dolgellau. Aiff â chi drwy wahanol gynefinoedd coetir, planhigfa gonwydd, dolydd, ymyl llyn a llwybr defaid.

Prif atyniad y daith yw'r golygfeydd godidog dros aber afon Mawddach a mynyddoedd Eryri. I'r gogledd fe welwch yr Wyddfa a Moelwyn Mawr, y Rhinog Fawr i'r gorllewin, llechweddau Cader Idris i'r de a'r Aran a'r Arenig i'r Dwyrain.

Mae'r llwybr yn dilyn y cyfuchlin 800 troedfedd yn fras yr holl ffordd, felly nid oes angen dringo na disgyn rhyw lawer ar y daith, ac mae'n daith ddelfrydol i'r teulu i gyd. Mae dibyn ar hyd yr ochr orllewinol ('Precipice Walk' yw'r enw yn Saesneg), ond nid yw mor frawychus ag y mae'n swnio ond efallai y bydd angen rhoi help llaw i'r rheiny sy'n dioddef o bendro ar hyd y rhan hon. Nid oes sicrwydd pryd y dechreuwyd defnyddio'r llwybr, ond mae'r awdurdodau'n credu mai defaid greodd y llwybr yn wreiddiol wrth iddynt grwydro i leoedd pori yn yr haf a'i fod wedi cael ei ledu wrth i'r cyhoedd gerdded ar ei hyd.

Sut i fynd yno?
O ganol Dolgellau, ewch dros y bont fawr a throwch i'r dde am y Bala. Ar ôl tua 500m trowch i'r chwith ar draws y ffordd i'r Llyfrgell i fyny'r allt am Lanfachreth. Ar ôl tua 2 filltir, ar ben eithaf yr allt, byddwch yn cyrraedd maes parcio Saithgroesffordd ar y chwith ar gyffordd. Mae toiledau yma a digon o le i barcio.

Pellter: 3 milltir - 5 km

Amser: Tua 2 awr

Gradd: Llwybr Cymhedrol

Tirwedd: Caeau garw a rhannau gwlyb. Gwisgwch esgidiau addas

Dechrau/Diwedd: Maes parcio'r Parc Cenedlaethol, Saith Groesffordd, Llanfachreth (SH 746 212)

Parcio: APCE Maes parcio Saith Groesffordd,(parcio am ddim, toiledau).

Côd Post: LL40 2NG

Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL18 (Harlech, Porthmadog a Bala)

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Manylion Llwybr

1. Cychwynwch drwy adael y maes parcio yn nghyfeiriad Dolgellau ble mae llwybr yn troi i’r dde trwy Coed Cefndiwiog.

2. Ar ôl 250m dilynwch y llwybr i’r Chwith.

3. Ewch ymlaen am 300m ymhellach gan ddilyn llwybr i’r chwith heibio i dŷ Gwern Offeiriad.

4. Dilynwch y llwybr i fyny ac i’r dde trwy’r goedwig. Ar ôl 100m ewch drwy giat i gae agored.

5. Dilynwch y llwybr tuag at Llyn Cynwch gan droi i’r dde fyny i’r allt wrth ddilyn y wal gerrig.

6. Parhewch i ddilyn y llwybr ar hyd y wal gerrig. Mae nifer o goed derw hynafol yma gyda phoblogaeth bwysig o gen a mwsogl yn tyfu arnyn nhw yn y parcdir ar y dde.

7. Ar ôl 350m, ewch drwy fwlch yn y wal ac yn fuan iawn cewch olygfeydd bendigedig tua’r Gogledd wrth edrych dros Goed y Brenin (Cyfoeth Naturiol Cymru).

8. Dilynwch y llwybr i’r chwith wrth yr arwyddbost sy’n arwain at yr hen fwynfa gopr. (Mae’r tir islaw y llwybr wedi eu clirio o goed conwydd ac mae’n rhan o gynllun sydd a’r bwriad o adfer coed a choedwigoedd cynhenid.)

9. Dilynwch y llwybr wrth fwynhau golygfeydd o’r Afon Mawddach islaw am 1km nes cyrraedd giat bren.

10. Ewch trwy’r giat a dilyn y llwybr am 500m ychwanegol nes cyrraedd pen y dyffryn ble fydd golygfeydd di-guro o aber y Fawddach yn disgwyl amdanoch.

11. Dalier ati i ddilyn y llwybr trwy’r giat yn y wal gerrig.

12. Ar ôl 500m ewch drwy giat yn y wal gerrig a pharhau i lawr at Lyn Cynwch.

13. Pan gyrhaeddwch Lyn Cynwch, trowch i’r chwith a dilyn y llwybr o amgylch ymyl gogleddol y llyn.

14. Ar ddiwedd y llyn mi fyddwch yn ailymuno a’r llwybr y cychwynwyd. Dilynwch y llwybr yn ôl at y maes parcio.

Dychmygwch ddyffryn yr afon islaw oddeutu 15,000 o flynyddoedd yn ôl. Rhewlif fyddai wedi bod yma yn symud yn araf i lawr tua'r môr. Ers hynny, mae afon Mawddach sy'n troelli tua'r môr wedi gadael llaid ar lawr y dyffryn gwastad gan olygu ei fod yn llawer mwy ffrwythlon nag ochrau geirwon y dyffryn.

Ble mae afonydd Mawddach ac Wnion yn cwrdd, sef cymer yr afonydd, y saif adfeilion Abaty Cymer lle ymgartrefodd y mynachod Sistersaidd. Rhoddodd Llywelyn Fawr siarter i’r abaty yn 1209, ond fe’i diddymwyd gan Harri’r wythfed. Cuddiwyd plât a chwpan cymun yr abaty adeg y diddymu hwnnw ar graig ddiarffordd yng Nghwm Mynach tu hwnt i fynydd y Garn sydd yn union i’r gorllewin ohonoch.

Roedd coed yn gorchuddio rhan helaeth o’r tir yma filoedd o flynyddoedd yn ôl ac yn ymestyn yn uchel i’r mynyddoedd. O ganlyniad i newid hinsawdd a dylanwad dyn crebachodd yr hen goedwig yn sylweddol. Defnyddiwyd coed ar gyfer diwydiant llongau’r Fawddach gynt, ar gyfer pyllau glo’r De, casglwyd rhisgl ar gyfer ei werthu i danerdai Iwerddon a gwnaed golosg at y diwydiant haearn a fodolai yma. Yn wir, mae enw’r tir uwchben pentref Llanelltyd – Bryniau Glo – yn cyfeirio at yr hen grefft o wneud golosg.

Ar yr ochr arall i Lyn Cynwch, mae plas hynafol stad Nannau, ac mae'r llwybr hwn yn croesi tir y stad. Mae’n safle hynafol iawn. Mae cofnod fod tŷ wedi’i adeiladu yma yn y C11. Mae’n fwy na thebyg y bu i’r tŷ gwreiddiol gael ei ddinistrio gan Owain Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel. Adeiladwyd y tŷ presennol, dros 230m (bron i 750tr) uwch lefel y môr, ym 1796 ar gyfer y teulu Vaughan oedd yn berchen ar ran fwyaf o dir yr ardal. Dyma'r pumed tŷ o leiaf a adwaenir fel Nannau. Mae’n dŷ carreg tri-llawr o’r C18 hwyr, sy’n sgwâr ac wedi’i adeiladu o flociau carreg llwyd tywyll lleol, ac iddo do llechi. Dyma’r plasdy olaf i arfer yr hen draddodiad o noddi bardd a thelynor.

Golygfa 360 Panorama

Llwybr Cynwch, Dolgellau

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    1. Cychwynwch drwy adael y maes parcio yn nghyfeiriad Dolgellau ble mae llwybr yn troi i’r dde trwy Coed Cefndiwiog.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    2. Ar ôl 250m dilynwch y llwybr i’r Chwith.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    3. Ewch ymlaen am 300m ymhellach gan ddilyn llwybr i’r chwith heibio i dŷ Gwern Offeiriad.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    4. Dilynwch y llwybr i fyny ac i’r dde trwy’r goedwig. Ar ôl 100m ewch drwy giat i gae agored.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    5. Dilynwch y llwybr tuag at Llyn Cynwch gan droi i’r dde fyny i’r allt wrth ddilyn y wal gerrig.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    6. Parhewch i ddilyn y llwybr ar hyd y wal gerrig. Mae nifer o goed derw hynafol yma gyda phoblogaeth bwysig o gen a mwsogl yn tyfu arnyn nhw yn y parcdir ar y dde.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    7. Ar ôl 350m, ewch drwy fwlch yn y wal ac yn fuan iawn cewch olygfeydd bendigedig tua’r Gogledd wrth edrych dros Goed y Brenin (Cyfoeth Naturiol Cymru).

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    8. Dilynwch y llwybr i’r chwith wrth yr arwyddbost sy’n arwain at yr hen fwynfa gopr.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    9. Dilynwch y llwybr wrth fwynhau golygfeydd o’r Afon Mawddach islaw am 1km nes cyrraedd giat bren.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    10. Ewch trwy’r giat a dilyn y llwybr am 500m ychwanegol nes cyrraedd pen y dyffryn ble fydd golygfeydd di-guro o aber y Fawddach yn disgwyl amdanoch.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    11. Dalier ati i ddilyn y llwybr trwy’r giat yn y wal gerrig.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    12. Ar ôl 500m ewch drwy giat yn y wal gerrig a pharhau i lawr at Lyn Cynwch.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    13. Pan gyrhaeddwch Lyn Cynwch, trowch i’r chwith a dilyn y llwybr o amgylch ymyl gogleddol y llyn.

  • Llwybr Cynwch, Dolgellau (© APCE)

    14. Ar ddiwedd y llyn mi fyddwch yn ailymuno a’r llwybr y cychwynwyd. Dilynwch y llwybr yn ôl at y maes parcio.

Cofiwch

Er eich bod ym Mharc Cenedlaethol Eryri, cofiwch fod y llwybr yn mynd trwy dir fferm, lle nad oes croeso i gŵn oni bai eu bod o dan reolaeth glòs neu ar dennyn.