Ymweld ag Eryri

alt=

Llyn Tegid, Y Bala - De

Mae’r daith hon yn arwain ar hyd y bryniau deheuol uwchben Llyn Tegid, gan gynnig golygfeydd bendigedig o’r llyn a chefn gwlad agored. Mae’r daith yn arwain dros lwybrau cyhoeddus garw, ffyrdd tarmac, traciau a glaswellt, sy’n gallu bod yn eithaf gwlyb. Mae llawer o ddarnau serth ar hyd y daith, a nifer o gamfeydd i’w croesi.

Pellter: Tua 7.5 milltir (12Km)
Amser: Tua 5 awr
Gradd: Llwybr Hamdden Canolig
Dechrau: Y Gilfach Goffa, Llanuwchllyn
Diwedd: Maes Parcio APCE ar flaendraeth Llyn Tegid
Tirwedd: Llwybrau anwastad, ffyrdd tarmac a caeau
Map: Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cadair Idris, Llyn Tegid)
Côd Post: LL23 7YE
Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus & byrddau picnic
Nodyn: Gwasanaeth bws rhwng Y Bala a Llanuwchllyn.

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Y Llwybr

1. O’r Gilfach Goffa, gyda’ch cefn at y ffordd fawr, cerddwch i’r dde ac yna trowch i’r chwith i mewn i bentref Llanuwchllyn. Cerddwch yn syth trwy’r pentref, sydd ychydig dros hanner milltir, ac allan ar yr ochr draw dros bont sy’n croesi Afon Twrch. Dilynwch y ffordd am tua hanner milltir arall, gan gadw golwg am arwydd llwybr cyhoeddus gyda logo’r Parc Cenedlaethol ar ochr dde'r ffordd. Dilynwch yr arwydd sy’n eich cyfeirio ar hyd llwybr i fyny’r bryn am fferm Llechweddystrad. Dilynwch y llwybr sy’n arwain y tu ôl i siediau’r fferm.

Mae’r enw Llechweddystrad yn awgrymu bod ffordd Rufeinig yn arfer mynd trwy’r safle yma. Ar yr ochr draw i’r dyffryn mae safle hen gaer Rufeinig Caer Gai, a saif ar hen groesffordd. Yr oedd y brif ffordd o’r dwyrain yn arwain o gyfeiriad Caer tuag at Frithdir ger Dolgellau, a’r ffordd arall yn cysylltu Caer Gai â Thomen y Mur yn y gogledd, a Chaersws yn y de.

2. Ym mhen uchaf buarth y fferm ewch dros y gamfa ar y chwith a dilynwch y trac am Dy’n y Rhos. Ewch yn eich blaen dros y cae tuag at Ffridd Gymen. Dilynwch y trac i’r chwith o Ffridd Gymen ac yn y man fe ddewch at dro 90 gradd yn y trac. Dilynwch y trac i’r dde a pheidiwch â dilyn y llwybr cyhoeddus sy’n arwain i lawr am Bentre-piod. Mae’r rhan hon o’r daith yn dilyn llwybr cwrteisi i lawr at fferm Pantymarch ac felly nid yw’n ymddangos ar fap OS.

3. O Bantymarch, dilynwch drac y fferm am sbel go lew. Ewch heibio’r grid gwartheg a chariwch yn syth yn eich blaen am ychydig eto. Yn y man, fe welwch drac yn arwain i’r dde i fyny’r bryn. (Mae’r ffordd yn syth ymlaen yn arwain at bentref Llangywair).

Pentref bychan iawn yw Llangywair gyda dim ond llond llaw o dai. Enwyd Eglwys Llangywair ar ôl Cywair, sef santes leol. Caewyd drysau’r eglwys am y tro olaf yn 2003 gan mai dim ond 3 person a fyddai’n mynychu’n rheolaidd i addoli.

4. Dilynwch y trac i fyny i’r dde ac yna dros y gamfa i’r chwith. Dilynwch y trac at fferm Bryncocyn. Wedi mynd trwy fuarth y fferm, dilynwch y llwybr cyhoeddus i lawr i’r chwith tuag at y coed derw. Dilynwch y llwybr sy’n arwain gyda’r coed. Yn y man, fe welwch bostyn yn eich cyfeirio i lawr i’r dde am yr afon. Dilynwch y llwybr a chroesi’r bont droed. Dilynwch y llwybr ar draws y cae tuag at fferm Tŷ Cerrig. Ewch heibio’r ffermdy sydd ar y chwith i chi.

5. Wedi i chi fynd heibio ffermdy Tŷ Cerrig dilynwch y llwybr sy’n arwain i’r dde rhwng y coed. Yn y man, fe ddewch at ffordd goedwig. Dilynwch y ffordd i lawr i’r chwith a chroesi’r bont cyn ymuno â ffordd wledig. Dilynwch y ffordd wledig i’r chwith am sbel. Wedi i chi fynd heibio Coed yr Allt, dilynwch y trac i fyny i’r dde sy’n arwain at Bant yr Onnen.

6. Dilynwch yr arwydd sy’n eich cyfeirio y tu cefn i dŷ Bant yr Onnen, ac yna dilynwch y llwybr sy’n arwain i fyny trwy’r coed. Yn y man fe ddewch at gamfa ar y chwith i chi. Ewch dros y gamfa a dilyn y llwybr (sydd wedi ei farcio â physt melyn) i lawr nes y dewch at bont droed yn y gwaelod. Ewch dros y bont droed a dilyn y llwybr sy’n arwain am Fryniau Goleu. Dilynwch y llwybr i fyny Bryniau Goleu nes y cyrhaeddwch gamfa yn y pen uchaf.

I’r dwyrain o Fryniau Goleu arferwyd cloddio gwythïen galchfaen gyfoethog, a llosgi’r calchfaen mewn odynnau calch er mwyn cynhyrchu morter. Cafodd y bryn hwn ei enw ar ôl golau tân yr odynnau calch a oedd i’w gweld oddi yma yn y nos.

7. O’r gamfa, dilynwch y trac i lawr i’r chwith nes y dewch at ffordd wledig. Dilynwch y ffordd i lawr i’r chwith am ychydig lathenni, ac yna dilynwch y llwybr cyhoeddus i lawr i’r dde drwy’r rhedyn. Dilynwch y llwybr sy’n arwain rhwng Beudy Graienyn a Ffridd Goed, ac yna heibio Graienyn. Yn y man fe gyrhaeddwch Westy Fach Ddeiliog, neu’r Bala Lake Hotel, fel y’i gelwir yn Saesneg.

Er mai gwesty ydi Fach Ddeiliog, nid yw ar agor i’r cyhoedd! Prynodd Partneriaeth John Lewis, sef perchennog siopau Waitrose a John Lewis, y gwesty yn ôl yn 2008 fel lle i’w 70,000 o staff fynd ar wyliau.

8. Dilynwch y llwybr cyhoeddus sy’n arwain rhwng y gwesty a’r Chalets yn y cefn. Dilynwch y ffordd yn syth ymlaen. Wedi i chi basio hen sgubor wedi ei drosi’n dŷ o’r enw Rhos Fawr ar y chwith i chi, cadwch olwg am giât sydd o’r golwg yn y gwrych ar y chwith. Ewch trwy’r giât a dilyn y llwybr dros ddau gae. Ewch trwy’r giât ddu a thros bont rheilffordd Llyn Tegid, ac i lawr at y platform.

Dyma orsaf drên Rheilffordd Llyn Tegid, sy’n arwain rhwng y Bala a Llanuwchllyn. Mae’r rheilffordd wedi ei adeiladu ar hyd rhan o hen reilffordd y Great Western a redai rhwng Rhiwabon a Morfa Mawddach ger Abermaw, a gaeodd ym 1964 fel rhan o’r Beechings Axe.

9. Ewch allan o’r orsaf drên, croesi’r ffordd, dros y bont, ac yn syth yn eich blaen.

Dyma Bont Mwnwgl y Llyn, lle mae afon Dyfrdwy yn gadael Llyn Tegid. Mae’r llyn yn cyflenwi dŵr i ardal Lerpwl a Chilgwri, ac felly fe reolir lefel dŵr y llyn trwy agor a chau llifddorau ychydig ymhellach i lawr yr afon.

10. Ewch yn syth ymlaen, ac yna i’r chwith ar y gyffordd nes y gwelwch lwybr llydan ar yr ochr chwith. Dilynwch y llwybr nes y byddwch wedi cyrraedd yn ôl ym maes parcio blaendraeth Llyn Tegid.

Bala a Llyn Tegid

Bala a Llyn Tegid (© APCE)

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)