Ymweld ag Eryri

alt=

Llyn Tegid, Y Bala - Gogledd

Mae’r daith hon yn arwain ar hyd y bryniau gogleddol uwchben Llyn Tegid, gan gynnig golygfeydd bendigedig o fynydd yr Arenig a chefn gwlad agored. Fel rhan o'n prosiect treftadaeth ddiwylliannol Bwrlwm Eryri, rydym wedi cynhyrchu sylwebaeth lafar ar gyfer y daith hon sy’n rhoi cipolwg ar y chwedloniaeth, llên gwerin, diwylliant a’r hanes sy’n gysylltiedig â’r ardal. Ar hyd y daith, cadwch olwg am arwyddion glas wedi’u rhifo gyda ‘Bwrlwm Eryri’ arnynt – mae’r rhifau’n cyfateb i rif y trac priodol ar eich MP3.

Pellter: Tua 6 milltir (10Km)
Amser: Tua 4-5 awr
Gradd: Llwybr Hamdden Canolig
Dechrau: Maes Parcio APCE ar flaendraeth Llyn Tegid
Diwedd: Y Gilfach Goffa, Llanuwchllyn
Cyfeirnod Grid: SH 923 357
Côd Post: LL23 7YE
Tirwedd: Llwybrau anwastad, ffyrdd tarmac a caeau
Map: Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cadair Idris, Llyn Tegid)
Parcio: Maes parcio Talu & Arddangos Llyn Tegid
Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus & byrddau picnic
Nodyn: Gwasanaeth bws rhwng Y Bala a Llanuwchllyn.

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Y Llwybr

1. Ewch i’r chwith o fynedfa maes parcio blaendraeth Llyn Tegid a cherddwch ar hyd y palmant, heibio maes parcio Fron Feuno ger Llanycil, nes y gwelwch y fynedfa am Fferm Fron Feuno ar yr ochr draw i’r ffordd.

Wedi i chi fynd heibio maes parcio Fron Feuno fe welwch Eglwys Beuno Sant ar y chwith. Enwyd yr eglwys ar ôl ei sefydlydd, Beuno Sant, a arferai grwydro o’i fynachlog yng Nghlynnog Fawr ger Caernarfon i bregethu ar hyd a lled Gogledd Cymru yn y chweched ganrif. Mae nifer o wŷr amlwg wedi eu claddu ym mynwent yr eglwys - yr amlycaf mae’n debyg yw’r Parch. Thomas Charles, arweinydd blaenllaw yn y diwygiad Methodistaidd.

2. Croeswch y ffordd a dilynwch y trac canol sy’n arwain am Fron Feuno. Pan gyrhaeddwch dro yn y trac, dilynwch y llwybr cyhoeddus sy’n arwain i’r chwith. Dilynwch y llwybr trwy’r coed. Pan ddewch allan o’r coed, cerddwch i fyny’r cae gan ddilyn y ffos nes y gwelwch bostyn cyfeirio. Ewch i’r chwith o’r postyn nes y cyrhaeddwch nant Gwenwyn Meirch. Ewch i lawr gyda’r nant nes y gallwch ei chroesi ar bont droed.

Ym 1645 yn ystod y Rhyfel Cartref roedd Rowland Vaughan, bardd a brenhinwr enwog yn byw yng Nghaer Gai sydd tua milltir o’r fan yma. Pan sylwodd trigolion lleol bod marchogion Oliver Cromwell ar eu ffordd i Gaer Gai, fe wnaethon nhw gasglu dail ywen, sy’n wenwyn pur i geffylau, â’u rhoi yn y nant hon gan y gwyddant y byddai’r marchogion yn aros yma i’r meirch gael dŵr. Dyna ddigwyddodd, ac aeth y meirch yn wael, a byth ers hynny Nant Gwenwyn Meirch yw’r enw ar y nant hon.

3. Dilynwch y llwybr ar draws y cae, ac yn syth trwy Faes Carafanau Plas Moel y Garnedd nes y cyrhaeddwch gamfa. Ewch dros y gamfa ac ar draws y cae gan anelu am fferm Moel y Garnedd Uchaf. Mae’r llwybr cyhoeddus yn arwain i’r dde ac o gwmpas y fferm. Unwaith y byddwch heibio’r fferm, dilynwch yr arwyddion llwybr cyhoeddus sy’n eich arwain at Dy’n y Rhos. O Dy’n y Rhos, dilynwch yr arwyddion sy’n eich cyfeirio dros dir agored Gwastadros.

Mae’r rhostir hwn, sy’n cael ei adnabod fel Gwastadros, yn gynefin perffaith i adar fel yr Ehedydd, Gylfinir a Thinwen y Garn. Tir Comin fu’r rhostir hwn ers cyn cof, oedd yn golygu bod gan drigolion lleol yr ardal hawl rhoi eu hanifeiliaid i bori yno. Tir digon gwlyb a sâl ydyw i anifeiliaid fferm, a chan mai hwn oedd yr unig dir oedd gan bobl dlawd yr ardal i gynnal eu teuluoedd, roedd bywyd yn ddigon caled arnynt.

4. Croeswch y rhostir gan anelu am y coed pinwydd. Ar ôl mynd heibio’r coed pinwydd, dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y cae nes y dewch at ffordd wledig.

5. Dilynwch y ffordd i lawr i’r chwith a chymrwch yr ail lwybr cyhoeddus ar y dde. Dilynwch y llwybr ar draws y cae sy’n arwain am fferm Llwyn Mawr Uchaf. O Lwyn Mawr Uchaf, dilynwch y llwybr yn syth ymlaen ar hyd y trac ac ar draws y cae tuag at fferm Llwyn Mawr Isaf. O Lwyn Mawr isaf, dilynwch y trac i lawr at y ffordd ger Pentre-felin.

6. O’r ffordd, bydd y daith yn dilyn trac ar draws am Goed Swch y Pentre. Llwybr Cwrteisi ydi’r rhan yma felly ni fydd yn ymddangos ar fap OS. Pan fydd tro yn y trac yng Nghoed Swch y Pentre, ewch i’r chwith oddi ar y trac a dilynwch ymyl y coed.

7. Pan gyrhaeddwch bigyn deheuol y goedwig ifanc, dilynwch y llwybr cyhoeddus i’r dde. Bydd y llwybr yn mynd â chi heibio ochr ogleddol safle hen gaer Rufeinig Caer Gai, ac yna ar hyd trac tuag at fferm Weirglodd Wen. Ger y Weirglodd Wen bydd y trac yn fforchio – dilynwch y trac i’r dde a heibio blaen y fferm.

Mae’r hanes sy’n gysylltiedig â Chaer Gai yn mynd ym mhell bell yn ôl. Yn wreiddiol, hen gaer Rufeinig oedd yma, gyda hen ffordd Rufeinig yn mynd heibio iddi a mynwent a baddondy Rhufeinig gerllaw. Tŷ fferm sydd ar y safle heddiw ond mae rhywfaint o olion yr hen gaer i’w gweld o hyd. Rhoddwyd yr enw Caer Gai ar y safle ar ôl yr arwr chwedlonol Cai fab Cynyr, sy’n cael ei gysylltu â chwedlau Arthuraidd gan gynnwys Culhwch ac Olwen, a’r Tair Rhamant. Mae cyfeiriadau ato yng ngwaith beirdd yr uchelwyr hefyd, sy’n cyfeirio at Gaer Gai fel ei gartref.

8. O’r Weirglodd Wen, dilynwch y llwybr nes y byddwch yn ymuno â ffordd wledig ar gornel siarp. Dilynwch y ffordd i’r dde a heibio’r Weirglodd Ddu.

Y Weirglodd Wen, a arferai fod yn rhan o stad Glanllyn oedd cartref y Parch. Michael Jones a Mary Jones. Pan fu farw ei gŵr arhosodd Mary Jones yn y Weirglodd Wen. Ym 1859 cynhaliwyd etholiad agored ac roedd y meistri tir yn cadw golwg ar sut roedd eu tenantiaid yn pleidleisio. Taflwyd Mary Jones allan o’i chartref gan y meistr tir Torïaidd oherwydd bod ei mab, Michael D Jones, wedi bod yn annog y tenantiaid eraill i bleidleisio i’r ymgeisydd Rhyddfrydol. Mae Michael D Jones yn gymeriad pwysig yn hanes ardal y Bala. Roedd yn bennaeth ar Goleg Diwinyddol y Bala, a chwaraeodd ran fawr wrth sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia yn y 1860au, lle byddai’r Gymraeg yn iaith crefydd, llywodraeth, masnach ac addysg.

9. Ewch yn eich blaen ar hyd y ffordd a heibio capel mawr ar y dde. Ychydig wedi’r capel, dilynwch y llwybr i lawr i’r chwith sy’n dilyn Afon Lliw. Yn y man fe ddewch at y ffordd fawr gyda phont ar y dde. Dilynwch y ffordd i’r dde a thros y bont. Ymhen ychydig fe ddewch at y Gilfach Goffa.

Dyma gofeb i dad a mab o Lanuwchllyn. Roedd Syr O M Edwards yn olygydd, yn llenor ac yn addysgwr brwd a blaengar, ac roedd yn teimlo’n gryf dros ledaenu balchder tuag at iaith a thraddodiadau Cymru. Yn y 1890au fe lansiodd gylchgronau o’r enw Cymru a Chymru’r Plant, gan dorri cwys newydd ym myd llenyddiaeth i blant. Parhaodd ei fab, Syr Ifan ab Owen Edwards, â gwaith da ei dad, a bu’n gyfrifol am sefydlu’r mudiad ieuenctid, Urdd Gobaith Cymru ym 1922. Ei weledigaeth oedd rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i fod â balchder yn eu hiaith a’u diwylliant. Mae’r mudiad yn parhau’n gryf hyd heddiw, gyda 50,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn aelodau.

Taith Lafar 'Bwrlwm Eryri' - Llanycil i Lanuwchllyn

Fel rhan o'r prosiect treftadaeth ddiwylliannol, 'Bwrlwm Eryri', rydym wedi cynhyrchu sylwebaeth lafar ar gyfer y rhan ogleddol o Gylchdaith Llyn Tegid sy’n rhoi cipolwg ar y chwedloniaeth, llên gwerin, diwylliant a’r hanes sy’n gysylltiedig â’r ardal. Ar hyd y daith, cadwch olwg am arwyddion glas wedi’u rhifo gyda ‘Bwrlwm Eryri’ arnynt – mae’r rhifau’n cyfateb i rif y trac priodol ar eich MP3. Cliciwch ar y linciau isod i lawrlwytho'r ffeiliau sain.

« Ffeil Sain 1
Wrth gerdded o’r maes parcio (Pwynt 1 ar hyd y daith), o’ch blaen ar y chwith fe welwch Eglwys Beuno Sant yn sefyll yn urddasol ar lan Llyn Tegid. Enwyd yr eglwys ar ôl ei sefydlydd, Beuno Sant, a arferai grwydro o’i fynachlog yng Nghlynnog Fawr ger Caernarfon i bregethu ar hyd a lled Gogledd Cymru yn y chweched ganrif.

Mae nifer o wŷr amlwg wedi eu claddu ym mynwent yr eglwys - yr amlycaf mae’n debyg yw'r Parch. Thomas Charles, arweinydd blaenllaw yn y diwygiad Methodistaidd. Yma hefyd y gorwedda Dafydd Cadwaladr, tad Betsi Cadwaladr, nyrs enwog a aeth i weithio mewn ysbyty yn Balaclava yn ystod rhyfel y Crimea, heb anghofio Bob Tai’r Felin - gwr a oedd yn adnabyddus fel canwr gwerin a baledwr.

« Ffeil Sain 2
Pwynt 2 ar y daith yw Nant Gwenwyn Meirch. Ym 1645 ystod y Rhyfel Cartref roedd Rowland Vaughan, bardd a brenhinwr enwog yn byw yng Nghaer-gai sydd tua milltir o’r fan yma. Un diwrnod, fe welodd y trigolion lleol bod marchogion OIiver Cromwell ar eu ffordd i Gaer-gai ac er mwyn ceisio eu rhwystro fe wnaethon nhw gasglu dail ywen, sy’n wenwyn pur i geffylau, a’u rhoi yn y nant hon gan y gwyddant y byddai’r marchogion yn siwr o alw yma i’r meirch gael dwr. Dyna ddigwyddodd ac wedi yfed y dwr bu’r meirch yn wael a byth ers hynny yr enw ar y nant hon yw Nant Gwenwyn Meirch. Er gwaethaf ymdrech y trigolion, cyrraedd Caer-gai a wnaeth y marchogion a llosgwyd y plasty i’r llawr. Codwyd ffermdy sylweddol yn ei le, a’r adeilad hwnnw sydd yno hyd heddiw.

« Ffeil Sain 3
Yn y man fe ddewch at Bwynt 3, ar rostir sy’n cael ei adnabod fel Gwastadros, sy’n gynefin perffaith i adar fel yr Ehedydd, Gylfinir a Thinwen y Garn. Tir Comin fu’r rhostir hwn ers cyn cof, ac roedd hyn yn golygu bod gan drigolion lleol yr ardal hawl rhoi eu hanifeiliaid i bori yno. Tir digon gwlyb a sâl ydyw i anifeiliaid fferm, a chan mai hwn oedd yr unig dir oedd gan bobl dlawd yr ardal i gynnal eu teuluoedd, roedd bywyd yn ddigon caled arnynt.
Ers talwm, roedd Gwastadros yn un o’r ardaloedd a ffurfiai Blwyf Llanycil, enwau’r ardaloedd eraill yn y plwyf oedd Cyffty, Maestron, Uwchmynydd ac Ismynydd. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd llawer o bobl dlawd yn byw ym mhlwyf Llanycil, fel aml i blwyf arall yn ardal Penllyn. Cynhaliwyd cyfarfodydd plwyfol er mwyn penderfynu sut i helpu’r bobl hyn – dyma beth y penderfynwyd arno yng nghyfarfod mis Awst 1819:

Gwen Ty’n Siglen at gario mawn – 1 swllt, 6 dimai.
Siân Dafydd Cefnbodig – 3 pwys o wlân.
Sally Smith – 3 swllt i dalu am wneud 3 pâr o glocsiau.
Gweddw Ty’n Llyn – 6 swllt a hen bais.
Mathew Llandderfel – paced o flawd ceirch.
Richard Pen Rafel – dim byd.

Nid dyma’r unig ffordd yr oedd y plwyf yn gofalu am y trigolion – roedd buwch y plwyf yn cael ei chadw yn ardal Cyffty i roi llaeth i fabis y fro, a hefyd mul y plwyf ar gael i bwy bynnag oedd angen ei fenthyg.

Ar eich ffordd tuag at Bwynt 4 fe welwch Gaer-gai y soniwyd amdano eisoes ar y chwith. Mae’r hanes sy’n gysylltiedig â’r safle hwn yn mynd ym mhell bell yn ôl, yn llawer pellach na chyfnod Cromwell. Yn wreiddiol, hen gaer Rufeinig oedd ar y safle yma – mae hen ffordd Rufeinig yn mynd heibio iddi a daethpwyd o hyd i olion hen fynwent a baddondy Rhufeinig gerllaw. Ty fferm sydd ar y safle heddiw ond mae ychydig o olion yr hen gaer i’w gweld heddiw.

Rhoddwyd yr enw Caer-gai ar y safle ar ôl yr arwr chwedlonol Cai fab Cynyr sy’n cael ei gysylltu â chwedlau Arthuraidd gan gynnwys Culhwch ac Olwen a’r Tair Rhamant. Mae cyfeiriadau ato yng ngwaith beirdd yr uchelwyr hefyd, sy’n cyfeirio at Gaer-gai fel ei gartref.

« Ffeil Sain 4
Pwynt 4 yw’r Weirglodd Wen, cartref y Parch. Michael Jones a Mary Jones. Arferai’r Weirglodd Wen fod yn rhan o stad Ganllyn a phan fu farw ei gwr arhosodd Mary Jones yno. Ym 1859 cynhaliwyd etholiad agored ac roedd y meistri tir yn cadw golwg ar sut roedd eu tenantiaid yn pleidleisio. Taflwyd Mary Jones allan o’i chartref gan y meistr tir Torïaidd oherwydd bod ei mab, Michael D Jones wedi bod yn annog y tenantiaid eraill i bleidleisio i’r ymgeisydd Rhyddfrydol.

Mae Michael D Jones yn gymeriad pwysig yn hanes ardal y Bala. Roedd yn bennaeth ar Goleg Diwinyddol y Bala, a chwaraeodd ran fawr wrth geisio sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia yn yr 1860au, lle byddai’r Gymraeg yn iaith crefydd, llywodraeth, masnach ac addysg.

« Ffeil Sain 5
Pan gyrhaeddwch Bwynt 5 byddwch wedi gorffen eich taith. Yma mae cofeb i dad a mab – Syr O M Edwards, a Syr Ifan ab O M Edwards o Lanuwchllyn. Roedd Syr O M Edwards yn olygydd, yn llenor ac yn addysgwr brwd a blaengar, ac roedd o’n teimlo’n gryf dros ledaenu balchder tuag at iaith a thraddodiadau Cymru. Yn yr 1890au fe lansiodd gylchgronau o’r enw Cymru a Cymru’r Plant, gan dorri cwys newydd ym myd llenyddiaeth i blant.

Parhaodd ei fab, Syr Ifan ab Owen Edwards, â gwaith da ei dad, a bu’n gyfrifol am sefydlu’r mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru. Ar y dechrau roedd pobol ifanc o bob cwr o Gymru yn dod i aros i wersyll yr Urdd yn Llanuwchllyn - yng ngardd y sylfaenydd yn Neuadd Wen y lleolwyd y gwersyll cyntaf, ond yna symudodd i safle mwy yng Nglan-llyn. Yn dilyn sefydlu’r gwersyll hwn sefydlwyd gwersyll arall yn Llangrannog, ac yn fwy diweddar - Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ac mae miloedd o blant Cymru yn parhau i fynd i aros i’r gwersylloedd bob blwyddyn. Mae’r mudiad yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn trefnu llu o ddigwyddiadau ar gyfer pobl ifanc - yn Eisteddfodau, chwaraeon, theatrau a llawer mwy. Mae’r digwyddiadau hyn yn sicrhau bod plant Cymru yn parhau i fwynhau eu hiaith a’u diwylliant a bod yn falch ohono - ac yma yn Llanuwchllyn y cychwynnodd y cyfan!

Bala a Llyn Tegid

Bala a Llyn Tegid (© APCE)

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)