Llwybr Llanfairfechan
Mae'r daith gylch hon yn wledd archaeolegol ac yn mynd â chi at odre'r Carneddau sy'n llawn nodweddion archaeolegol yn dyddio'n ôl i Oes y Cerrig, cyn eich arwain yn ôl ar hyd y Ffordd Rufeinig. Tybed a welwch chi Gerrig Saethau neu Fwrdd Chwarae Nantwll?

Pellter: 4.5 milltir (7.5km)
Amser: Tua 4 awr
Gradd: Llwybr Hamdden Canolig
Dechrau / Diwedd: Maes parcio Teiryd, Llanfairfechan (SH 698 736)
Côd Post: LL33 0ER
Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)
Cyfleusterau: Maes parcio
Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.
Safon y llwybr:
- Rhai darnau serth
- Mae'r llwybr yn arwain dros dir fferm, tir corsiog, llwybrau cyhoeddus garw, traciau a ffyrdd tarmac
- Mae rhywfaint o giatiau a chamfeydd ar hyd y daith a bydd angen i chi groesi nentydd ar gerrig camu
Nodweddion arbennig:
- Golygfeydd trawiadol o arfordir gogledd Cymru
- Nodweddion archaeolegol o Oes y Cerrig
- Ffordd Rufeinig
- Arwyddion cyfeirio i'ch helpu ar eich taith
- Gwarchodfa Natur Leol Nant y Coed gerllaw
Gwybodaeth ddefnyddiol:
- Gwisgwch esgidiau cerdded cryfion a dillad addas, ac edrychwch beth yw rhagolygon y tywydd
- Am fwy o wybodaeth ynghylch y daith hon cysylltwch â'n Warden Ardal, Alan Pritchard ar 01248 602 080 neu e-bost wardenogwen@hotmail.com
- Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cynhyrchu pamffled cynhwysfawr sydd â chyfarwyddiadau clir ar gyfer y daith hon. Gallwch gael copi am bris bychan o Ganolfan Groeso Conwy neu'n uniongyrchol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - ffoniwch 01492 575 290 neu e-bostiwch cg.cs@conwy.gov.uk
- Am wybodaeth ynghylch cludiant cyhoeddus ewch i www.traveline-cymru.org.uk neu ffoniwch 0871 200 22 33 (nid oes gwasanaeth cludiant cyhoeddus o Lanfairfechan at ddechrau'r daith, sydd tua hanner milltir o'r pentref) Cadwch gŵn dan reolaeth dynn

Llwybr Llanfairfechan (© APCE)
Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)