Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Llwybr Glyn Aran, Dolgellau

Mae hon yn daith gylch, o dref farchnad hanesyddol Dolgellau, lle gall y cerddwr fwynhau golygfeydd o'r dref ac o lethrau gogleddol Cader Idris. Mae'n dilyn trac gweddol serth i ddechrau cyn ymuno â ffordd wledig ac yna i lawr dros y caeau yn ôl i'r dref.

Er nad yw'r daith hon yn mynd ymhell o'r dref, cewch y teimlad eich bod yng nghanol cefn gwlad Cymru - a Pharc Cenedlaethol Eryri â'i waliau cerrig, ffermydd mynydd, mân gaeau, mynyddoedd yn y pellter a chyfoeth o flodau gwyllt, coedlannau ac adar. Gallwch fwynhau taith Glyn Aran unrhyw adeg o'r flwyddyn.

Pam Glyn Aran?

Dyma enw'r glyn coediog wrth lan afon Aran. Mae'r afon yn awr yn llifo'n rhydd ond bu unwaith yn pweru'r melinau pannu (neu 'pandai') y diwydiant gwlân pwysig a ffynnai yma. Ers yr unfed ganrif ar bymtheg roedd y diwydiant gwlân yr un mor bwysig â ffermio yn y bryniau hyn, pan oedd nifer fawr o'r trigolion yn nyddu ac yn gwehyddu yn eu cartrefi. Byddai disgwyl i ddynes gribo a nyddu hyd at 18 pwys (8 kilo) o wlân mewn dydd. Roedd 16 pandy ar hyd afon Aran yn unig. Ar ôl cael ei drin yn un o'r pandai hyn, byddai'r brethyn cartref yn cael ei werthu i'r fasnach caethweision dros Fôr yr Iwerydd ac i'r fyddin.

I'w weld o'r llwybr mae ffermdy Bryn Mawr. Yn yr ail ganrif ar bymtheg, hwn oedd cartref Rowland Ellis, y Crynwr. Er mwyn osgoi erledigaeth leol arweiniodd grŵp o'i gyd-gredinwyr ym 1686 i Bennsylvania i ddilyn ôl traed William Penn. Yno, adeiladodd dŷ wedi'i fodelu ar Fryn Mawr. Ar ôl y tŷ hwn fe enwyd tref a choleg adnabyddus i ferched ifainc a sefydlwyd "er mwyn iddynt gael yr un cyfle â dynion".

Pellter: tua 2½ milltir (4 km)
Amser: tua 2 awr
Gradd: Llwybr Hamdden Canolig
Dechrau / Diwedd: O ganol tref Dolgellau (mae digon o leoedd parcio ar gael)
Côd Post: LL40 1UU
Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 23 (Cadair Idris a Llyn Tegid)

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Y Llwybr

1. O ganol Dolgellau, croeswch bont Aran a throwch i'r dde a dilyn y nant. Wrth y tanerdy, trowch i'r dde a dilynwch y trac gweddol serth i fyny'r bryn.

2. Mae'r trac yn gwastatáu ac ar un ochr ceir clawdd traddodiadol - clawdd o gerrig a phridd, coed cyll, drain ac ynn. Oddi yma cewch eich golygfa gyntaf o un o gopaon mynyddoedd Cader Idris (2,927tr/893m).

3. Wrth Blas Brithdir (sylwch ar yr hen simnai fawr draddodiadol yn dyddio o'r 18fed ganrif) ymunwch â'r ffordd darmac sy'n dringo'n serth drwy geunant goediog Aran. Cymerwch ofal rhag y traffig.

4. Ar ben y bryn, dilynwch y ffordd i'r dde dros y grid gwartheg. Dim mwy o ddringo! Mae'r ¾ milltir (1km) nesaf yn hawdd ac yn dilyn ffordd wledig heb ei ffensio gyda golygfeydd o lechweddau Cader Idris. Efallai bydd defaid o'ch cwmpas, felly cadwch eich cŵn o dan reolaeth.

5. Wrth yr ail dŷ (Esgeiriau), mae trac i'r chwith yn arwain at Fryn Mawr, ffermdy sy'n dyddio o'r 16eg ganrif wrth odre Cader Idris. Dyma oedd cartref teulu Rowland Ellis, y Crynwr enwog a arweiniodd grŵp o bobl i'r Unol Daleithiau i ddianc rhag cael eu herlid.

6. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd darmac hyd at y bont gerrig. Trowch yn syth i'r dde i gae a dilynwch y llwybr. Ar ôl cyrraedd llecyn agored, ceir golygfa o'r mynyddoedd o'ch blaenau, o'r chwith i'r dde mae'r Diffwys, Y Garn a Rhobell Fawr ac Aran Fawddwy ac Aran Benllyn i'r dwyrain. Os trowch yn eich hunfan fe welwch bum copa Cader Idris.

7. Croeswch i lawr drwy'r cae, gan gadw i'r chwith a mynd drwy giât haearn yn y wal gerrig a dilynwch y llwybr. Bydd gennych olygfa ragorol o dref farchnad fach Dolgellau gyda'i thoeau llechi a cherrig igneaidd yr adeiladau wrth i chi ddisgyn yn serth i lawr y strydoedd culion i ganol y dref.

Glyn Aran, Dolgellau

Glyn Aran, Dolgellau (© APCE)

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)