Bwlch Drws Ardudwy
Yr hiraf o ddwy daith yn yr ardal, mae’r gylchdaith yma (taith hamdden gymhedrol) yn eich arwain tuag at Fwlch Drws Ardudwy, sef bwlch rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach. Mae’r daith yma yn rhoi’r cyfle i chi brofi amgylchedd unigryw Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Rhinogydd cyn eich arwain yn ôl at goedtir Graigddu. Mae amryw yn dweud bod y Rhinogydd yn un o gwylltiroedd olaf Cymru, ac wedi cyrraedd yno mae’n hawdd gweld pam.
Gair o rybudd – gan fod yr ardal yn Warchodfa Natur Genedlaethol sy’n enwog am ei bywyd gwyllt nid oes marcwyr ar y llwybr a gall fod yn wlyb iawn o dan draed. Bydd rhaid cario map a gwisgo esgidiau cryfion gwrth-ddŵr os am ddilyn y llwybr yma.
Sut i gyrraedd yno
Wrth deithio i’r de lawr yr A470 trowch i’r dde ½ milltir (1 km) ar ôl troad Bronaber.
Wrth deithio i’r gogledd ar yr A470, trowch i’r chwith 2 filltir (3 km) ar ôl yr arwydd i droi i’r dde am ganolfan Coed y Brenin.
Dilynwch y ffordd gul am ychydig dros 2 filltir (3.5 km) trwy ddwy giât a pharcio yn y maes parcio benodedig. Cofiwch gau’r giatiau bob tro.
Pellter: 4 milltir - 7 km (taith gylch)
Amser: Tua 2 awr
Gradd: Llwybr Cymhedrol
Tirwedd: Rhostir mynyddig a rhai darnau garw a gwlyb. Gwisgwch esgidiau pwrpasol.
Dechrau/Diwedd: Maes parcio Coed Graigddu
Parcio: Maes parcio am ddim
Côd Post: LL45 2PL
Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL18 (Harlech, Porthmadog a Bala)
Manylion Llwybr
**Byddwch gystal ȃ nodi bod darn o'r llwybr wedi ei ddifrodi gan dywydd garw. Mae'n bosibl pasio'r darn yma, ond gofynnir i chi gymryd pwyll. Bydd gwaith atgyweirio yn cael ei gynnal yn y dyfodol.
1. Dechreuwch eith taith drwy ddilyn yr arwydd i’r dde allan o’r maes parcio ar hyd y ffordd raean.
2. O gwmpas 200m, ewch i’r chwith ar y cyffordd cyntaf ar y ffordd raean.
3. Byddwch yn ymwybodol o’r anifeiliaid wrth fynd heibio Graigddu Isaf ar eich dde. Parhewch i’r chwith o’r ffermdy a chroesi’r bont yn syth o’ch blaen.
4. Yn fuan mi welwch arwydd ar eich dde tuag at Bwlch Tyddiad, parhewch i ddilyn llwybr Bwlch Drws Ardudwy.
5. Ar ôl 200m pellach, dilynwch y llwybr i’r dde gan fynd heibio’r giât.
6. Ar ôl ychydig ewch syth ymlaen gan basio’r troad ar eich dde.
7. Parhewch ar y trac am oddeutu 1km.
8. Ar y groesffordd nesaf ewch i’r chwith gan ddilyn arwydd Bwlch Drws Ardudwy.
9. Ar ôl 200m trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Bwlch Drws Ardudwy.
10. Parhewch ar y llwybr am oddeutu 350m.
11. Ewch trwy’r giât i Warchodfa Natur Genedlaethol y Rhinogydd. Mae’r tirwedd yn fwy garw ac yn wlypach dan draed yma.
12. Ar ôl tua 600m, trowch i’r dde tua 50m o’r wal gerrig.
13. Parhewch i fyny’r bwlch yn y gefnen.
14. Ar ben yr allt, dilynwch y llwybr i lawr ac ar ôl tua 750m, dringwch dros y ffens gan ddefnyddio’r gamfa a ddarparwyd.
15. Dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y blanhigfa cyn cyrraedd camfa, ewch drosdi a dilyn y llwybr i’ch chwith.
16. Parhewch ar y llwybr drwy’r blanhigfa am 500m nes dod at gyffordd. Trowch i’r chwith i ddilyn trac llydan.
17. Yn fuan mi ddewch ar draws gyffordd, cymerwch y troad i’r dde a cherdded y llwybr lawr sy’n dilyn yr afon.
18. Ar ôl 500m mi ewch heibio rhaeadr fechan ar eich chwith (Pistyll Gwyn). Ar ôl 500m pellach mi gyrhaeddwch cyffordd-T, trowch i’r chwith a dilyn y llwybr yn ôl i’r maes parcio.