Ymweld ag Eryri

Harlech Castle

alt=

Gwybodaeth fewnol - rhai o hoff leoedd ein staff yn Eryri

Does dim i guro ychydig o wybodaeth leol ynghylch y lleoedd gorau i ymweld â nhw yn Eryri! Yma yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol mae gennym dîm angerddol ac ymroddgar o staff, a phan nad ydynt wrth eu gwaith yn helpu i ofalu am y rhan arbennig yma o Gymru – yn aml iawn byddant hwythau yn mynd allan i fwynhau rhinweddau arbennig Eryri.

Dyma ddetholiad bychan o hoff leoedd ein staff yn Eryri…

Geraint Evans, Swyddog Cynllunio

Hoff le?

Rhaeadr Fawr, Abergwyngregyn

Mae’r cyfuniad o brydferthwch y rhaeadr, y tirlun, a’r hanes sy’n gysylltiedig â Thywysogion Cymru yn gwneud y lle yma’n arbennig i mi. Mae’r dyffryn coediog y rhed yr Afon Goch drwyddi yn frith o olion aneddiadau ein cyndeidiau fu’n byw yma ar un adeg. Ond heddiw, natur sy’n ffynnu yma, a gall pawb fwynhau taith at droed y Carneddau, lle bydd yr Afon Goch yn rhuthro dros ymyl y graig.

Am ragor o wybodaeth ynghylch mynediad i’r Rhaeadr Fawr ewch i  https://www.eryri-npa.gov.uk/cym/visiting/walking/accessible-walks/Aber-Falls-Path?name=

Iwan Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Hoff le?

Moel Ysgyfarnogod a Bryn Cader Faner

Dyma un o fy hoff leoedd yn Eryri oherwydd y tawelwch, ac amrywiaeth yr olygfa a geir o gopa Moel Ysgyfarnogod (SH 658 346)– gyda Bae Ceredigion tua’r gorllewin, plwyf Trawsfynydd a’r Arenig tua’r dwyrain, a’r Wyddfa a mynyddoedd geirwon gogledd Eryri tua’r gogledd. Gellir cerdded i’r copa o ochr Trawsfynydd neu Dalsarnau, ond os parciwch ym Moel Geifr (SH 629 342) uwchben Talsarnau, gallwch gynllunio taith sy’n galw heibio safle hen domen gladdu Bryn Cader Faner (SH 647 352).

Zara Roberts, Uwch Gynorthwy-ydd Gweinyddol, Plas Tan y Bwlch

Hoff le?

Rhaeadr Cynfal, Llan Ffestiniog

Fy hoff le yn Eryri yw Rhaeadr Cynfal ar gyrion Llan Ffestiniog gan ei fod yn le hardd gyda dim ond sŵn y rhaeadr i’w glywed. Mae’n lle hudolus iawn, yn enwedig yn y gwanwyn a’r hydref. Bob tro byddaf yn mynd yno bydd yn dod â llawer o atgofion yn ôl i mi o sawl taith gerdded gyda’r ysgol yno pan oeddwn yn fach.

Am ragor o wybodaeth ynghylch taith gerdded i Raeadr Cynfal ewch i https://www.eryri.llyw.cymru/visiting/walking/leisurely/cynfal-falls-walk

Marion Chapman, Cynorthwy-ydd Cyllid

Hoff le?

Tomen y Mur, ger Gellilydan (SH 705 386)

Fy hoff le yn Eryri, a’r lle byddaf yn ymweld yn aml ar ôl diwrnod yn y swyddfa yw’r ardal lle cefais fy magu, sef Sychnant, sy’n ffinio â mynydd Migneint a hen gaer Rufeinig Tomen y Mur.  Mae’r olygfa o ben y domen hon yn hollol ogoneddus - gellir gweld tuag at Ben Llŷn ar ddiwrnod hollol braf a chlir. Mae’r coed a’r caeau'n wyrdd, ac mae llyn bach gerllaw lle gwelir gwyddau gwyllt, ac sy'n dal atgofion melys o fynd yno i bysgota pan yn blentyn.

Am wybodaeth ynghylch taith gerdded i Domen y Mur ewch i https://www.eryri.llyw.cymru/visiting/things-to-do/historic-sites/tomen-y-mur?name=

Nia Roberts, Pennaeth Systemau Gwybodaeth

Hoff le?

Y  Moelwynion a'i hen chwareli (SH 669 455)

Yn ogystal â bod yn lle sy’n cynnig llonyddwch a phrydferthwch gwyllt, mae’r Moelwynion a’i hen ddiwydiant llechi yn agos iawn i’m calon. Yn chwarel Wrysgan ar Foel yr Hydd yr arferai fy nhaid weithio pan oedd ond 13 mlwydd oed. Wrth edrych draw am yr arfordir tua’r de orllewin o ben uchaf hen inclen chwarel Wrysgan, byddaf wastad yn meddwl amdano yn gorfod gadael ei gartref yn Llanbedr i fynd i’w waith, gan aros yn y barics yng Nghwm Orthin yn ystod yr wythnos.

Peter Rutherford, Swyddog Mynediad

Hoff le?

Dolgoch, Abergynolwyn (SH 651 044)

Mae ceunant Dolgoch ar ymyl dyffryn Tal y Llyn yn ne’r Parc Cenedlaethol yn lle hynod hudolus! Llifa Nant Dolgoch, sy’n tarddu ar fryniau’r Darren uwchben, i lawr dros gyfres o raeadrau prydferth i ymuno â’r Afon Fathew, ac yna Afon Dysynni. Mae’r rhaeadrau yn creu amgylchedd llaith o fewn y ceunant, sy’n golygu bod pob mathau o redynnau, mwsoglau a llysiau’r afu yn ffynnu yno. Mae llwybr yn arwain trwy’r ceunant gan ddringo at y rhaeadr uchaf, ond mae rhan cyntaf y llwybr at y rhaeadr cyntaf yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae yno faes parcio (talu ac arddangos) yng nghaffi Dolgoch.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)