Ymweld ag Eryri

Harlech Castle

alt=

Castell Harlech

Castell Harlech

Castell Harlech (© Kevin Richardson)

Caiff James o St George ei adnabod fel pensaer a pheiriannydd milwrol mwyaf blaenllaw ei gyfnod ac mae’n debyg mai ef oedd y grym ymenyddol y tu ôl i adeiladu cestyll Edward I yng Nghymru ym mlynyddoedd olaf G13. Roedd gwychder pensaernïol y cestyll hyn yn atgyfnerthu grym Edward I, ac yn tanlinellu ei fuddugoliaeth dros un o elynion pennaf coron Lloegr: Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf). Cymaint fu’r bri ar waith James o St George yn Harlech, nes y penodwyd ef yn gwnstabl Castell Harlech yn 1290, gan Edward I, a daeth y castell yn gartref iddo.

Pwrpas adeiladu cestyll gan Edward I oedd i arddangos grym y goron mewn ardaloedd a gipiwyd gan Dywysogion Cymru. Eryri oedd cadarnle’r Tywysogion, ac felly roedd ennill brwydrau yn yr ardal honno yn eithriadol o bwysig. Arweiniodd Edward I ddwy ymgyrch yn erbyn y Tywysogion: y cyntaf yn 1276-77 a’r ail yn 1282-83. Felly, lleolwyd cestyll Edward I ar safleoedd strategol, ger afonydd neu’r arfordir, er mwyn hwyluso’r drefn o ddanfon cyflenwadau o fwyd ac arfau i’r cestyll, ar longau. Roedd dyluniad y cestyll hyn yn wirioneddol arloesol.

Bu Castell Harlech dan fygythiad gan sawl ymgyrch tros y blynyddoedd: gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294-95, a gwrthryfel Glyndŵr (yng Nghastell Harlech y cynhaliwyd Senedd Glyndŵr rhwng 1404 a 1408) ond erbyn 1409, roedd y castell yn eiddo i’r goron Seisnig unwaith eto. Yn 1468, daeth y castell yn faes un o frwydrau Rhyfel y Rhosynnod. Cefnogwyd achos y Lancastriaid gan gwnstabl Castell Harlech, gan sbarduno’r Brenin Iorcaidd, Edward IV i yrru byddin dan arweinyddiaeth yr Arglwydd William Herbert i Gastell Harlech, i geisio’i adennill. Parhaodd y frwydr am lai na mis, ac yn ôl traddodiad, y frwydr hon ysbrydolodd gân Gwŷr Harlech. Yn y blynyddoedd yn dilyn y frwydr hon, bu statws y castell yn dirywio’n araf, nes cyfnod teyrnasiad Elisabeth I, pan ddefnyddiwyd y castell fel llys barn.

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr yn y G17, ymosodwyd ar Gastell Harlech gan fyddin Oliver Cromwell, gan fod y castell yn cefnogi’r brenin, Siarl I. Castell Harlech oedd cadarnle olaf cefnogwyr y brenin i syrthio i rym y Seneddwyr.

Erbyn y G18-19, roedd Castell Harlech yn safle poblogaidd iawn ymysg artistiaid, ac erbyn 1914, fe’i trosglwyddwyd o eiddo’r Goron i eiddo’r wladwriaeth.

Yn 1987, dynodwyd Castell Harlech yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO (sef Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig).