Ymweld ag Eryri

Harlech Castle

alt=

Castell y Bere

Castell y Bere

Castell y Bere (© APCE)

Yn sgîl marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1282, ceisiodd ei frawd, Dafydd sicrhau annibyniaeth oddi wrth goron Lloegr, ond yn annisgwyl, parhaodd Edward I â’i ryfel yn erbyn Gwynedd. Gorfodwyd Dafydd ap Gruffudd i ffoi o Gastell Dolwyddelan i Gastell y Bere, ond roedd byddin Edward I, o 5400 o filwyr ar ei ôl ac fe’i orfodwyd i ddiengyd oddi yno i Gastell Dolbadarn.

Serch hynny, parhaodd Gastell y Bere yn nwylo Tywysogion Gwynedd tan fis Ebrill 1283, pan gafodd ei oresgyn gan fyddinoedd Edward I, a hwn oedd y diwethaf o’r cestyll Cymreig i ddisgyn i’r Saeson. Yn sgîl hynny, atgyweiriwyd y castell i raddau ac adeiladwyd anheddiad Seisnig wrth droed bryncyn y castell.

Yn 1294-5, arweiniodd Madog ap Llywelyn ymgyrch i geisio adennill y castell i’w deulu, ond methiant fu hynny ac ni ddefnyddiwyd y castell eto wedi hynny, a gadawyd yr anheddiad gerllaw yn ogystal.

Mae nifer o nodweddion y castell wedi goroesi, gan gynnwys ei ddau dŵr siap ‘D’ yn y steil Cymreig. Mae gan y castell agoriad sydd wedi’i amddiffyn gan ffosydd, ‘gatetowers’ a ‘drawbridge’. Mae cynllun y castell yn ymdebygu i gastell Chateau Rouillard yn ardal Normandi, Ffrainc, sef siâp a bennwyd oherwydd siâp y graig oddi tano.

Nid oes unrhyw gofnod hanesyddol o’r castell rhwng 1294 a 1851, pan gliriwyd y safle gan ddod o hyd i grochenwaith ac arian Rhufeinig yn strwythur y ffynnon.

Castell y Bere, 1997 – Iwan Llwyd

Mae boncyffion y coed yn cofio
sodlau’r milwyr yn gorymdeithio:
mae pob cam yn atseinio’n y co’:

yma, a Chadair Idris yn gwarchod,
mae’n bosib dewis anghofio am gyfnod
y cymylau terfysg i gyfeiriad y môr:

mae’r hen risiau yn dal yno
lle bu breninesau’n dringo,
a’r tir hwn dan nenfwd un tro:

ffermwr yn cyfarth Cymraeg ar ei gwn,
a’r defaid mor styfnig ag erioed, a swn
llif gadwyn o gyfeiriad Llanfihangel y Pennant:

mae Afon Cader yn dal i lifo
a dwyn cyfrinachau’r bryniau heibio,
a mawl y fwyalchen yn deffro’r fro:

tyr crac awyren dros Graig y Deryn
ac o’r ochor bella i’r dyffryn,
am y tro cyntaf eleni clywaf watwar y gog.

Iwan Llwyd (1957-2010)

Enillodd y Prifardd, Iwan Llwyd goron Eistedd Genedlaethol Cwm Rhymni yn 1990, am ei gyfrol ‘Gwreichion’. Ers hynny, bu’n adnabyddus iawn yng Nghymru fel bardd, awdur a cherddor hynod dalentog. Mae llawer o’i gerddi yn cysylltu Cymru â gweddill y byd, ac mae themâu America a’r Dwyrain Canol yn amlwg iawn yn ei waith, ond roedd o hefyd yn angerddol iawn am hanes Cymru a’r iaith Gymraeg ac ymfalchïai yn ei wreiddiau a’i gynefin yng Nghymru.