Ymweld ag Eryri

Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

alt=

Llechi a Chopr

Nifer o Filltiroedd: 39 milltir / 62.1 KM (Taith Gylch)

Man Cychwyn: Canolfan Groeso Betws y Coed (SH 794 566)

Man Gorffen: Canolfan Groeso Betws y Coed (SH 794 566)

Capel Curig

Capel Curig (© Kevin Richardson)

Y Daith

1. Gan gychwyn o Ganolfan Groeso Betws y Coed (SH 795 565) , dilynwch yr A5 allan o’r pentref, i gyfeiriad Capel Curig (SH 725 585), gan fynd heibio’r Rhaeadr Ewynnol. Mae modd i chi stopio yma ac ymweld â’r Rhaeadr, gan fod llwybr hygyrch yn arwain ato erbyn hyn. Dwy filltir yn bellach i lawr yr A5, mi fyddwch yn pasio Tŷ Hyll.

2. Wrth i chi gyrraedd pentref Capel Curig, edrychwch i fyny i’r chwith er mwyn mwynhau golygfeydd o Foel Siabod. Wrth deithio ar hyd y lôn yma, byddwch yn profi golygfeydd anhygoel o foelni hudol tirwedd Eryri.

3. Yng nghanol pentref Capel Curig, trowch i’r chwith ar y groesffordd, gan ddilyn yr A4086 am Borthmadog a mynd heibio Canolfan Plas y Brenin a Llynnau Mymbyr. Mae Pedol yr Wyddfa i’w weld yn glir o’ch blaen.

4. Pan ddowch at y cyffordd ger Gwesty Pen y Gwryd (lle arhosodd aelodau’r tîm a fu’n dringo Eferest, gan lofnodi eu henwau ar nenfwd y bar), trowch i’r dde a dilynwch yr A4086 am 2 filltir am Ben y Pas. Mae yna fannau parcio Bathodyn Glas yn y maes parcio ym Mhen y Pas, yn ogystal â thoiledau hygyrch a chaffi.

5. Parhewch ar yr A4086 am Nant Peris. Ym mynwent eglwys Nant Peris, mae bedd y Parch. Raymond Starr, a fu farw ar lethrau’r Wyddfa. Fo oedd un o’r naturiaethwyr cyntaf i ymweld ag Eryri er mwyn ymchwilio’r llystyfiant yno. Nid yw llwybrau y fynwent yn hygyrch. Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol doiled hygyrch a maes parcio ‘grasscrete’ ar gyrion Nant Peris.

6. Yna, byddwch yn mynd heibio Castell Dolbadarn, a godwyd gan Llywelyn Fawr ar ddechrau’r G13. Ewch ymlaen trwy Bentre Castell i Lanberis. Llanberis (SH 575 605) yw man cychwyn y trên i gopa’r Wyddfa. (Bydd y trên ond yn rhedeg tri chwarter y ffordd i’r copa, i stesion ‘Clogwyn’ tra fo’r gwaith adeiladu ar y copa yn parhau).

7. Yn Llanberis, ceir siopau amrywiol, gyda nifer ohonynt yn arbenigo ar offer mynydda. Mae nifer o’r palmentydd yn hygyrch, a cheir cyfle i ddilyn llwybr hygyrch at, ac o amgylch, Llyn Padarn, sydd yn gorwedd yng nghysgod yr Elidir Fawr. Mae canolfan ymwelwyr ‘Y Mynydd Gwefru’ hefyd yn hygyrch, ac oddi yno mae modd i chi ymweld â Phwerdy Dinorwig. Mae yna gyfleusterau i bawb ar yr ymweliad hwn.

8. Gadewch Lanberis ar yr A4086, gan yrru i gyfeiriad Caernarfon. Pan gyrhaeddwch cyffordd yr A4244, trowch i'r dde, ac yna wrth y cyffordd cyntaf i'r dde, trowch am bentref Brynrefail.

9. Cymrwch y tro cyntaf ym mhentref Brynrefail, am Bont Penllyn. O’r fan hon, mi welwch olygfeydd trawiadol o’r Wyddfa, Castell Dolbadarn, Llyn Padarn a Chwarel Dinorwig. Mae yna banel ar y bont ei hun, gyda cherddi gan Gillian Clarke ac Iwan Llwyd sydd yn cyfleu naws yr ardal. Mae siâp rhan uchaf y panel yn cyfleu tirwedd y dyffryn ac mae testun y cerddi wedi’i osod mewn ysgrifen a godwyd. Craig yr Undeb yw’r graig ar y dde, ac os ewch chi drwy’r giât sydd nesaf at y gamfa, mi gewch ddarllen am hanes enw’r graig ac am y cythrwfl a effeithiodd yr ardal hon yn ystod cyfnod mwyaf llewyrchus y chwareli lleol.

10. Ewch yn ôl i’r brif lôn, a chymrwch yr ail dro i’r dde am bentref Deiniolen. Trowch i’r chwith gan ddilyn y ffordd i fyny at y cyffordd, lle mae angen troi i’r chwith unwaith eto lle mae’r arwydd ar gyfer ‘Mynydd Llandygai’. Bydd y lôn hon yn mynd â chi tros y mynydd i bentref Mynydd Llandygai. Byddwch yn pasio coedwig o goed coniffer, a rhostir maith, lle gewch flas pellach ar foelni yr ardal. Ar y dde, mi welwch Chwarel Lechi’r Penrhyn, a ddaeth yn enwog iawn am ei Streic Fawr ym 1900-03. Wrth edrych i’r pellter, tua’r môr, mi welwch Gastell y Penrhyn, sef cartref Arglwydd Penrhyn, perchennog y chwarel. Sylwch ar ysblander y castell a thlodi bythynnod y chwarelwyr yn y pentrefi cyfagos.

11. Wedi i chi basio’r rhostir, cymrwch y tro cyntaf i’r chwith, ac ewch lawr yr allt heibio Eglwys y Santes Ann i’r B4409. Ar waelod yr allt, trowch i’r dde, ac yna trowch i’r chwith am yr A5.

12. Dilynwch yr A5 i fyny am Nant Ffrancon, ac ym mhen uchaf y Nant, mae Canolfan Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Ceir maes parcio gyda mannau parcio Bathodyn Glas, toiledau hygyrch a chaffi yma.

13. Ewch ymlaen ar hyd yr A5 i fyny Nant y Benglog, heibio Llyn Ogwen ar y chwith a Thryfan ar y dde, trwy bentref Capel Curig ac yn ôl i Fetws y Coed.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)