Cipolwg ar Eryri
Mae'r teithiau hyn wedi'u cynllunio er mwyn rhoi blas i chi ar yr hyn sydd yn gwneud Eryri yn arbennig. Mae pedair taith car yma gyda chyfarwyddiadau syml ar gyfer cyflawni y teithiau, gan gynnwys rhifau ffyrdd. Darperir lluniau o'r hyn a fyddwch yn ei weld ar y teithiau ac rydym wedi cynnwys peth gwybodaeth am y lleoedd y byddwch yn mynd heibio ar y daith.
Am fwy o wybodaeth am y llefydd ar y teithiau, galwch heibio un o'n Canolfannau Croeso.
Mae’r daith yn cychwyn gyda’r llwybr at y Rhaeadr ym mhentref Abergwyngregyn (SH 655 725). Ceir dau faes parcio ger y llwybr, ac yn y maes parcio uchaf, mae yna gyfleusterau hygyrch (toiled cyhoeddus a bwrdd picnic). Mae mynedfa mwy hygyrch at y llwybr trwy’r giât yn y maes parcio uchaf.
Distance: 14.4 milltir (un ffordd)
« mwy o fanylionCychwynnwch eich taith ym mhentref Aberdyfi, ar yr A493, gan basio drwy Tywyn. Parhewch i deithio ar hyd yr arfordir i gyfeiriad Dolgellau. Byddwch yn gweld Craig yr Aderyn yn y pellter ar y dde. Enwir y graig yn 'Graig yr Aderyn' gan ei bod yn fan nythu poblogaidd ar gyfer y bili dowcar. Mae gan y graig hon siâp adnabyddus, ac mae’n gyrchfan poblogaidd ar gyfer dringwyr. Nid yw’r llwybr i ben y graig yn hygyrch.
Distance: 67 milltir / 107.8 KM (Taith Gylch)
« mwy o fanylionGan gychwyn o Ganolfan Groeso Betws y Coed (SH 795 565) , dilynwch yr A5 allan o’r pentref, i gyfeiriad Capel Curig (SH 725 585), gan fynd heibio’r Rhaeadr Ewynnol. Mae modd i chi stopio yma ac ymweld â’r Rhaeadr, gan fod llwybr hygyrch yn arwain ato erbyn hyn. Dwy filltir yn bellach i lawr yr A5, mi fyddwch yn pasio Tŷ Hyll.
Distance: 39 milltir / 62.1 KM (Taith Gylch)
« mwy o fanylionCychwynnwch eich taith o Lyn Cwellyn (SH 564 551), a saif rhwng pentrefi Rhyd Ddu (SH 565 535) a Betws Garmon (SH 545 565). Mae yna lwybr pren drwy’r goedlan ar lan y llyn, sef Llwybr Ianws, sydd yn hygyrch ac yn gyfle i brofi rhai o olygfeydd mwyaf bendigedig Eryri. Ceir cyfleusterau sydd yn addas i bawb ger y Llyn, a bydd y llwybr yn cael ei ymestyn yn ystod Gaeaf 2007-8.
Distance: 21 o filltiroedd
« mwy o fanylionHeader image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)