Ymweld ag Eryri

Beddgelert

alt=

Harlech

Yn swatio ar odre'r Rhinogydd, tref fechan hardd yn edrych dros Fae Ceredigion yw Harlech. Yng nghysgod ei bryniau a'i chastell canoloesol, mae Harlech yn un o drysorau cudd Eryri.

Castell Harlech

Adeiladwyd y castell gan Edward 1 ym 1283, ac yn hwyrach ymlaen ym 1404 roedd yn llys i Owain Glyndŵr, gwladgarwr a gwleidydd Cymreig. Hwn hefyd oedd y castell diwethaf i ddisgyn i ddwylo'r Seneddwyr yn y Rhyfel Cartref.

« Mwy o Fanylion

Castell Harlech

Castell Harlech (© Kevin Richardson)

Traeth

Mae Harlech yn enwog am ei thraeth euraid hir a'i moroedd glân, sydd wedi derbyn Gwobr Arfordir Gwyrdd. Yn Harlech hefyd mae un o'r esiamplau gorau o system dwyni tywod naturiol, gyda rhai twyni'n 30 troedfedd o uchel!

Golff

Mae Clwb Golff Dewi Sant yn enwog yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn un o'r cyrsiau traddodiadol pencampwriaeth gorau yn y byd. Mae'r clwb wedi cynnal nifer o gystadlaethau rhyngwladol amatur a phroffesiynol ac mae digwyddiadau o'r fath yn parhau i gael eu cynnal yma.

Theatr

Mae Theatr Ardudwy yn un o'r prif atyniadau lleol sydd â rhaglen lawn trwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhaglen yn cynnwys theatr byw, sioeau dawns, cyngherddau, ffilmiau ac arddangosfeydd o waith artistiaid lleol.

Siopau, Caffis a Bwytai

Mae nifer o siopau bach diddorol yn Harlech - lle da i brynu anrhegion i ffrindiau a theulu. Os mai creiriau bric a brac sy'n mynd â'ch bryd, ni chewch eich siomi. Wedi'r holl siopa, cewch ymlacio a mwynhau paned yn un o'r Ystafelloedd Te, neu brofi cynnyrch lleol yn y bwytai, bistros neu dafarndai lleol.

Cerdded

Mae digonedd o leoedd i fynd am dro yn Harlech a'r cyffiniau. Dysgwch am hanes y dref trwy ddilyn Llwybr Hanes Harlech, neu fwynhau'r golygfeydd ar lwybr Branwen. Ewch i Gwm Bychan i'r de o Harlech, neu gerdded Bwlch Tyddiad. Am fwy o fanylion cysylltwch â'n Canolfan Groeso yn Harlech.

Chwedloniaeth Gymreig

Harlech yw lleoliad un o chwedlau'r Mabinogion, "Branwen Ferch Llŷr". Drwy'r oesoedd, trosglwyddwyd y chwedlau Celtaidd hyn ar lafar gan chwedleuwyr hyd iddynt gael eu cofnodi mewn llawysgrifau gan fynaich yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Dchreua'r chwedl epig hon o frad a chenfigen gyda dyfodiad Matholwch, Brenin yr Iwerddon i Harlech i geisio Branwen yn wraig iddo. Cafodd y wledd briodas ar Ynys Môn ei difetha gan falais hanner brawd Branwen, Efnisien. Roedd yn flin am nad oedd Bendigeidfran y cawr, sef brawd Branwen, wedi ymgynghori ag ef ynghylch y briodas, felly aeth ati i anafu ceffylau'r Brenin Gwyddelig.

Yn ddiweddarach, wedi i Branwen ymgartrefu yn yr Iwerddon a geni mab, cafodd ei chosbi am yr hyn a wnaeth Efnisien. Fe'i diraddiwyd yn forwyn a byddai'n cael bonclust bob dydd.

Mewn anobaith, anfonodd Branwen nodyn dan adain Drudwen i'w brawd yn ceisio cymorth ganddo. Ar unwaith, aeth y Brythoniaid drosodd i'r Iwerddon yn eu llongau, a cherddodd Bendigeidfran trwy'r môr, gan na allai unrhyw long ei gario.

Fel iawn am driniaeth Branwen yn Iwerddon, enwyd Gwern, mab ifanc Branwen yn Frenin Iwerddon ond darganfu Efnisien gynllwyn bradwrus i ladd y Brythoniaid yn ystod gwledd y coroni. Yn fwriadol, taflodd Gwern i'r tân a dechrau brwydr hyd farwolaeth rhwng y ddwy fyddin. Yn y diwedd, dim ond 7 Brython oedd ar ôl - lladdwyd Bendigeidfran hyd yn oed - ac fe ddychwelsant i Ynys Môn gyda Branwen. Yno, fe fu farw o dor-calon oherwydd bod y ddwy deyrnas wedi'u dinistrio o'i hachos hi.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)