Ymweld ag Eryri

Beddgelert

alt=

Ffestiniog

Gyda mynyddoedd mawreddog y Moelwynion yn llenwi'r tirlun, a thomenni gwastraff llwydlas y chwareli yn gyferbyniad llwyr rhwng natur a diwydiant - mae gan y gongl hon o Eryri gymeriad arbennig ei hun...

Blaenau Ffestiniog - dinas y llechi!

Blaenau Ffestiniog (neu 'Blaenau' yn lleol) yw prif dref ardal Ffestiniog. Tref weddol ifanc ydyw, a ddatblygodd o ganlyniad i ffyniant diwydiant llechi'r ardal o ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen. Ar un adeg roedd Blaenau Ffestiniog yn un o ganolfannau llechi mwya'r byd, ac yn darparu llechi toi i'r pedwar ban.

Pan aethpwyd ati i lunio ffin y Parc Cenedlaethol yn ôl ym 1950, gadawyd Blaenau Ffestiniog ei hun allan o'r Parc gan and oedd y chwareli a'r tomenni llechi yn bodloni'r maen prawf o harddwch golygfaol eithriadol. Erbyn heddiw, rydym â blachder mawr ym Mlaenau Ffestiniog a'i diwydiant, ac rydym am sicrhau bod diwylliant arbennig y dref a'r ardal yn cael ei ddathlu a'i werthfawrogi, ac yn cael ei weld yn rhan annatod o gymeriad arbennig Eryri.

Sut i gyrraedd yma?

Mae bysus rheolaidd yn rhedeg rhwng Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, Llandudno a Dolgellau, a gwasanaeth bws CLIPA Blaenau yn mynd o gwmpas y dref. Mae trenau yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Blaenau a Llandudno (trwy Gyffordd Llandudno sy'n cysylltu â'r rhwydwaith reilffordd genedlaethol). Am fwy o wybodaeth ac am amseroedd trenau a bysus ewch i www.traveline-cymru.info neu ffoniwch 0871 200 22 33. Gellir cael copi o amserlenni bysus a threnau o unrhyw Ganolfan Groeso lleol neu Bwyntiau Gwybodaeth penodol hefyd.

Ardal hanesyddol

Er mai tref weddol ifanc yw Blaenau Ffestiniog, mae rhan arall o'r plwyf sef Llan Ffestiniog yn dyddio'n ôl rai canrifoedd. Yr oedd Llan Ffestiniog yn fan aros i'r porthmyn ar eu taith tua'r dwyrain i farchnadoedd Lloegr, a byddent yn torri syched yn nhafarn y pentref cyn cario ymlaen ar eu taith dros y gweunydd.

Mae yna safleoedd cynhanesyddol yn yr ardal hefyd - mae bryngaer Bryn y Castell sy'n dyddio o Oes yr Haearn tua 1½ milltir i'r gogledd ddwyrain o Lan Ffestiniog, a Thomen y Mur - hen gaer Rufeinig gyda llu o nodweddion milwrol - tua 2 filltir i'r de. Yn rhedeg heibio'r ddau safle mae'r ffordd Rufeinig - Sarn Helen, sy'n arwain rhwng Aberconwy yng Ngogledd Cymru, a Chaerfyrddin yn y de.

Gweithgareddau awyr agored

Cerdded
Mae ardal Ffestniog ('Stiniog yn lleol) yn le gwych os ydych am dreulio'ch amser yn crwydro cefn gwlad - mae yma gymysgedd dda o lwybrau o bob math sy'n cynnig golygfeydd arbennig o'r ardal. Gallwch fentro i fyny i gopaon y Moelwynion neu'r Manod, trwy geunant arallfydol Cynfal a'i rhaeadrau hardd, neu trwy goedlannau derw hynafol Dyffryn Maentwrog. Gellir canfod mwy o lwybrau ar wefan Blaenau Ffestiniog.

Dringo
Ystyrir bod creigiau deheuol y Moelwynion ymysg y creigiau gorau i'w dringo ym Mhrydain. Gan fod y creigiau'n fras maent yn ddelfrydol pan fydd hi'n llaith, a chan eu bod yn wynebu'r de, maen nhw'n sychu'n sydyn.

Pysgota
Os ydych yn mwynhau pysgota, ni fyddwch yn brin o ddewis yn Ffestiniog! Mae digonedd o lynnoedd ac afonydd sy'n arbennig am frithyll brown yn yr ardal. Mae Llyn Tanygrisiau yn le da i bysgota am frithyll seithliw a brithyll brown, ac yn addas i bobl o bob gallu. Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfleoedd pysgota yn ardal Ffestiniog ewch i www.cambrianangling.com.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)