Ymweld ag Eryri

Beddgelert

alt=

Bala

Situated on the north east shore of Llyn Tegid is the unique market town of Bala. Surrounded by the Aran, Arenig and Berwyn mountains this little town in the National Park is a stronghold of the Welsh language and Welsh culture.

Tref hanesyddol

Mae tref y Bala ei hun yn hen iawn – y domen Normanaidd, Tomen y Bala, sydd dafliad carreg o ben gogledd-ddwyreiniol y Stryd Fawr yw’r arwydd cynharaf o anheddiad yma.

Yn dilyn derbyn siarter ym 1324 dan frenhiniaeth Edward II gwnaethpwyd y Bala’n fwrdeistref rydd. Golyga hyn bod gan y dref hawl ethol maer a dau feili, cynnal marchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol, a bod â charchar. Mae’r farchnad wythnosol a’r ffeiriau blynyddol yn parhau i gael eu cynnal hyd heddiw.

Amaethyddiaeth oedd prif ddiwydiant yr ardal ers y dechrau, ond yn ystod hanner olaf y ddeunawfed ganrif fe dyfodd y dref yn ganolfan fasnach sanau o bwys, ac roedd dynion a merched y dref i gyd wrthi’n gwau sannau a menig. Roedd y Brenin Siôr III hyd yn oed yn gwisgo sannau o’r Bala er mwyn lleddfu ei gryd cymalau. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y Bala’n gorfod cystadlu yn erbyn ffatrïoedd gwlân Canolbarth Lloegr, ac yn araf bach daeth y diwydiant sannau i ben.

Enwogion di-rif

Wrth gerdded trwy Stryd Fawr y Bala daw’n gwbl amlwg bod y dref yn llawn hanes – mae yma gofgolofnau, capeli, eglwysi a hen wyrcws, a Choleg Diwinyddol y Bala’n eistedd yn urddasol ar ben y bryn – ac mae amryw o unigolion enwog yn gysylltiedig â hwy.

Y tu allan i Gapel Tegid mae cofgolofn i’r Parch. Thomas Charles, arweinydd pwysig yn y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru ac ef a fu’n bennaf gyfrifol am sefydlu’r Gymdeithas Feiblau. Cafodd ei ysbrydoli i sefydlu’r gymdeithas wedi iddo gwrdd â merch ifanc 16 oed o Lanfihangel y Pennant, Mari Jones ym 1800. Roedd Mari Jones am gael copi ei hun o’r Beibl, ac wedi iddi gynilo ei harian am amser maith dechreuodd ar ei thaith 25 milltir o’i chartref i’r Bala yn droednoeth i brynu Beibl ganddo. Pan gyrhaeddodd gartref Thomas Charles cafodd newyddion drwg – roedd pob un copi o’r Beibl wedi ei werthu ac fe dorrodd Mari Jones ei chalon. Roedd yn gas gan Thomas Charles weld Mari Jones mor ddigalon felly fe roddodd ei gopi ef iddi.

Ar y Stryd Fawr mae cofgolofn Thomas Ellis - Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Feirion. Yr oedd yn un o feddylwyr politicaidd mwyaf gwreiddiol a blaenllaw ei ddydd ac yn weithiwr diwyd dros yr iaith Gymraeg. Yma yn y Bala y rhoddodd ei araith enwog yn galw am Senedd i Gymru.

Ar ben y bryn saif adeilad Coleg y Bala a gafodd ei adeiladu ym 1867. Coleg Diwinyddol i fechgyn ydoedd yn wreiddiol ond erbyn heddiw mae’n gartref i Ganolfan Gweithgareddau Ieuenctid Presbyteriaid. Un o Benaethiaid y Coleg diwinyddol oedd Michael D Jones o’r Weirglodd Wen yn Llanuwchllyn. Chwaraeodd Michael D Jones ran flaenllaw wrth sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn y 1860au, gyda’r weledigaeth y byddai’r Gymraeg yn iaith crefydd, llywodraeth, masnach ac addysg.

Dynes mawr ei chlod sydd â chysylltiad â’r Bala yw Betsi Cadwaladr. Fe’i ganwyd yn y Bala ym 1789 a threuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd yn gweini ar deuluoedd. Ym 1835 hyfforddodd fel nyrs yn Ysbyty Guy’s yn Llundain, ac ym 1854, a hithau’n 65 oed, penderfynodd fynd i helpu’r milwyr a oedd wedi eu hanafu yn Rhyfel y Crimea. Cyrhaeddodd Ysbyty Scutari lle roedd Florence Nightingale yn gweithio, ond nid oedd Florence Nightingale yn fodlon iddi weithio gyda’r cleifion felly bu’n glanhau a thrwsio dillad, ond buan iawn y blinodd Betsi ar hyn. Roedd yn cymryd 6 diwrnod i filwyr clwyfedig ddod o’r Crimea i’r ysbyty felly penderfynodd Betsi ac ychydig o nyrsus eraill fynd drosodd i’r Crimea atyn nhw. Bu’n gweithio’n galed mewn ysbyty yn Balaclava dan amgylchiadau anodd iawn, ond o fewn blwyddyn aeth Betsi ei hun yn sâl a bu’n rhaid iddi ddychwelyd i Lundain.

Ym mhentref Llanuwchllyn sydd ar ben deheuol Llyn Tegid mae cilfach goffa i goffau tad a mab adnabyddus dros ben – Syr O M Edwards a’i fab Syr Ifan ab O M Edwards. Roedd Syr O M Edwards yn olygydd, yn llenor ac yn addysgwr brwd a blaengar, ac roedd o’n teimlo’n gryf dros ledaenu balchder tuag at iaith a thraddodiadau Cymru. Yn yr 1890au fe lansiodd gylchgronau o’r enw Cymru a Cymru’r Plant, gan dorri cwys newydd ym myd llenyddiaeth i blant.

Parhaodd ei fab, Syr Ifan ab Owen Edwards, â gwaith da ei dad, a bu’n gyfrifol am sefydlu’r mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru. Ar y dechrau roedd pobol ifanc o bob cwr o Gymru yn dod i aros i wersyll yr Urdd yn Llanuwchllyn - yng ngardd y sylfaenydd yn Neuadd Wen y lleolwyd y gwersyll cyntaf, ond yna symudodd i safle mwy yng Nglan-llyn. Yn dilyn sefydlu’r gwersyll hwn sefydlwyd gwersyll arall yn Llangrannog, ac yn fwy diweddar - Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ac mae miloedd o blant Cymru yn parhau i fynd i aros i’r gwersylloedd bob blwyddyn. Mae’r mudiad yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn trefnu llu o ddigwyddiadau ar gyfer pobl ifanc - yn Eisteddfodau, chwaraeon, theatrau a llawer mwy. Mae’r digwyddiadau hyn yn sicrhau bod plant Cymru yn parhau i fwynhau eu hiaith a’u diwylliant a bod yn falch ohono.

Canolfan chwaraeon dŵr o'r radd flaenaf

Yn 4 milltir o hyd, ¾ milltir o led a hyd at 43 metr o ddwfn, Llyn Tegid yw llyn naturiol mwyaf Cymru. Mae'r gwyntoedd de-orllewinol sy'n hyrddio trwy ei dyffryn yn ei wneud yn fan perffaith ar gyfer ymgymryd â phob math o chwaraeon dŵr, o hwylio neu hwylfyrddio i bysgota. Mae yma 14 rhywogaeth o bysgod yn cynnwys y Gwyniad (Coregonus lavaretus), sy'n unigryw i Lyn Tegid (ni chaniateir pysgota am y Gwyniad). Mae Llyn Tegid ym meddiant Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy'n ei reoli fel adnodd hamdden. Mae'r Awdurdod hefyd yn gwarchod y llyn a'i fioamrywiaeth arbennig. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Lyn Tegid.

Ar droed neu ar drên

Mae gwe o lwybrau cyhoeddus o amgylch Llyn Tegid sy'n darparu golygfeydd godidog o'r llyn a'r mynyddoedd amgylchynol. Os nad yw cerdded yn mynd â'ch bryd - beth am fwynhau'r golygfeydd ysblennydd oddi ar y trên bach o'r Bala i Lanuwchllyn sy'n arwain ar hyd glan deheuol y llyn.

Chwedloniaeth Gymreig

Mae llawer iawn o chwedlau yn gysylltiedig ag ardal y Bala – rhai ohonynt yn adrodd hanes creu Llyn Tegid, ac eraill yn adrodd hanes cymeriadau chwedlonol a lled-chwedlonol sy’n gysylltiedig â’r ardal.

Enwyd Caer-gai, sydd dafliad carreg o Lyn Tegid, ar ôl yr arwr chwedlonol Cai fab Cynyr. Mae Cai’n gymeriad amlwg mewn chwedlau Arthuraidd yn cynnwys Culhwch ac Olwen a’r Tair Rhamant i enwi dim ond rhai, tra’r oedd yr arglwydd chwedlonol Gronw Pebyr, a gynllwyniodd gyda’i gariad Blodeuwedd i lofruddio ei gŵr Lleu Llaw Gyffes yn y chwedl Math fab Mathonwy, yn arglwydd ar Benllyn.

Chwedl Tegid Foel
Amser maith yn ôl, yn y man lle mae Llyn Tegid heddiw, roedd dyffryn llydan hardd gyda hen dref y Bala ar ei gwaelod. Yn y dref roedd palas mawr crand Tegid Foel, tywysog cas a oedd yn greulon iawn wrth ei denantiaid. Er iddo gael ei rybuddio sawl gwaith y byddai dial arno am ei greulondeb, anwybyddu’r rhybuddion a wnaeth.

Pan aned ŵyr cyntaf Tegid Foel gwahoddwyd holl gyfeillion y tywysog, a oedd yr un mor greulon ag ef, i wledd fawr yn y palas i ddathlu’r achlysur. Roedd yno ddigonedd o fwyd a diod, a thelynor gorau’r wlad yn darparu adloniant. Yn ystod y wledd, clywodd y telynor lais yn dweud “Daeth dial!”. Wrth droi i weld o le daeth y llais gwelodd aderyn bychan wrth ei ochr, ac fe hudodd yr aderyn y telynor allan o’r palas ac i fyny i’r bryniau, lle cysgodd tan y bore. Drannoeth, deffrodd y telynor i weld bod hen dref y Bala wedi ei boddi, ac wrth gerdded at lan y llyn gwelodd ei delyn yn arnofio ar y dŵr. Enwyd y llyn ar ôl y tywysog creulon ac yn ôl y sôn, weithiau, mae adeiladau hen dref y Bala i’w gweld o dan y dŵr hyd heddiw…

Ffynnon Gower
Mae chwedl arall sy’n adrodd hanes creu Llyn Tegid yn adrodd yr hanes am Ffynnon Gower yn hen dref y Bala. Roedd y ffynnon hon yn un hynod o werthfawr a châi ei gwarchod gan waliau a chaead. Roedd gwarchodwr y ffynnon yn gyfrifol am roi’r gorchudd ar y ffynnon bob nos – os na fyddai’n gwneud hynny byddai ysbrydion drwg, neu hyd yn oed y diafol ei hun, yn meddiannu’r dŵr.

Un noson, anghofiodd y gwarchodwr roi’r caead ar y ffynnon a dechreuodd y dŵr godi a llifo dros ei waliau. Parhaodd y dŵr i ffrydio o’r ffynnon ac ymhen dim roedd llyn wedi ffurfio a hen dref y Bala wedi diflannu o dan y dŵr a’i thrigolion yn sefyll ar ei glannau wedi dychryn am eu bywydau. Ymhen amser, adeiladwyd tref newydd y Bala, ond ni anghofiodd y bobl leol am y noson drychinebus honno byth.

Chwedl Taliesin
Amser maith yn ôl roedd Tegid Foel a’i wraig Ceridwen yn byw ger Llyn Tegid ym Mhenllyn. Roedd gan Tegid Foel a Ceridwen dri o blant - Ceirwy, Morfran ac Afagddu. Roedd Afagddu yn eithriadol o hyll, ac er mwyn gwneud yn iawn am hynny, penderfynodd Ceridwen y byddai’n rhoi’r ddawn o wybodaeth iddo.

Byddai Afagddu’n cael y ddawn o wybodaeth trwy yfed diod arbennig a wnaethpwyd o lysiau, ond ni fyddai’r diod yn barod am flwyddyn a diwrnod. Roedd hen ŵr o’r enw Morda yn gyfrifol am gadw’r tân o dan y crochan, a Gwion Bach yn gyfrifol am droi’r gymysgedd.

Pan roedd y gymysgedd bron yn barod, tasgodd tri diferyn o’r crochan ar law Gwion Bach. Ar unwaith rhoddodd Gwion Bach ei law yn ei geg er mwyn lleddfu’r boen, ac ar yr adeg honno sylweddolodd Ceridwen fod Gwion Bach wedi derbyn yr wybodaeth a fwriadwyd ar gyfer ei mab.

Dechreuodd Ceridwen ei ymlid felly newidiodd Gwion Bach ei ffurf yn ysgyfarnog er mwyn rhedeg yn gynt na hi - ond newidiodd Ceridwen yn filgi. Neidiodd Gwion i’r afon a throi ei hun yn frithyll, ond trodd Ceridwen ei hun yn ddyfrgi. Trodd Gwion ei hun yn aderyn, a Ceridwen yn hebog yn ei erlid. Pan yr oedd Ceridwen bron iawn a’i ddal gwelodd Gwion bentwr o wenith ar lawr ysgubor ac fe drodd ei hun yn ronyn o wenith. Trodd Ceridwen ei hun yn iâr a bwyta pob un gronyn o’r gwenith.

Ar ôl bwyta’r gwenith aeth Ceridwen yn feichiog, ac ymhen naw mis ganwyd iddi fachgen bach. Gwyddai Ceridwen mai Gwion Bach ydoedd ond roedd mor dlws nid oedd ganddi’r galon i’w ladd, felly fe’i rhoddodd mewn sach a’i daflu i’r môr.

Ar draeth rhwng Afon Dyfi ac Aberystwyth roedd gored bysgod, ac un diwrnod yr oedd cymeriad o’r enw Elffin, wrthi’n tynnu’r gored i weld a oedd pysgod ynddi. Doedd dim yn y gored ond sach lledr gyda’r baban ynddo. Cododd Elffin y baban a dywedodd wrth ei was “Llyma dal iesin” (dyma dalcen teg). Wedi hynny rhoddwyd yr enw Taliesin arno, ac aeth Elffin ag ef adref i’w fagu gan ei wraig.

GoBala

Croeso i’n safle sef adnodd i’ch cynorthwyo wrth ddarganfod prydferthwch ardal y Bala a’r cylch. Darganfyddwch y llwybrau/teithiau sydd ar gael yn y rhan yma o Barc Cenedlaethol Eryri.

www.gobala.org

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)