Trefnu Digwyddiadau a Chystadlaethau
Eryri yw’r pedwerydd Parc Cenedlaethol mwyaf o fewn teulu’r DU ac mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddo gyflawni dau bwrpas statudol:
- Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal.
- Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.
Mae gennym hefyd ddyletswydd i geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y Parc.
Mae diddordeb yn a’r amrywiaeth o weithgareddau digwyddiadau her elusennol, hamdden a threfniadol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae nifer fawr o sefydliadau ac elusennau yn gwneud defnydd llawn o’r awyr agored yn Eryri - yn enwedig ar Yr Wyddfa ei hun. Bydd y ddogfen hon yn cynnig cyngor ymarferol i drefnwyr digwyddiadau ar sut i ymgymryd â’r gweithgareddau hyn mewn ffordd ddiogel, gyfrifol, gynaliadwy ac effeithlon fel nad ydynt yn niweidiol i bwrpasau’r Parc Cenedlaethol ac er mwyn sicrhau bod y rhinweddau arbennig hyn yn cael eu cynnal.
Am fwy o wybodaeth ynglyn a threfnu digwyddiad yn Eryri cysylltwch gyda Peter Rutherford ar 01766 772258 neu peter.rutherford@eryri.llyw.cymru neu am drefnu digwyddiad ar Yr Wyddfa cysylltwch â Bethan Wynne Jones ar 01286 872555 neu bethan.jones2@eryri.llyw.cymru
Gall rhain fod o ddefnydd i chi:Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)