Ogwen

Llyn Ogwen

alt=

Hanes Daearegol

Dechreuad Eryri – 625 miliwn o flynyddoedd yn ôl: Gogledd Cymru Cyn-Gambriaidd

Mae hanes daearegol Eryri, yn ôl y creigiau sy’n brigo o’i bryniau ac ar hyd ei dyffrynnoedd, yn cwmpasu dros 625 miliwn o flynyddoedd o amser daearegol. Dechreua’r hanes ym mhell yn Hemisffer y De, pan oedd yr hyn sydd heddiw’n ‘Gymru’ yn gyfres wasgaredig o ynysoedd folcanig ar hyd ymyl gogleddol y cyfandir hynafol Gondwana, a eisteddai dros begwn y de. Erbyn dechrau’r gorgyfnod Paleosöig, 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd yr ynysoedd hyn wedi dod at ei gilydd i ffurfio micro-gyfandir a adnabyddir gan ddaearegwyr fel Afalonia.

Y Cyfnod Cambriaidd – 542- 485 miliwn o flynyddoedd yn ôl: Basn Morol Cymru

Mae’r Gorgyfnod Paleosöig wedi ei rannu i chwe chyfnod o amser daearegol, ac i’r ddau gyntaf - sef y Cambriaidd a’r Ordofigaidd y perthyn creigiau Eryri iddi bron iawn yn gyfan gwbl. Erbyn dechrau’r Cyfnod Cambriaidd, roedd y rhan o Afalonia sydd heddiw’n ffurfio gogledd a gorllewin Cymru yn ymsuddo ac roedd y môr wedi llifo i mewn, gan nodi dechreuad esblygiad y basn morol - Basn Cymru - a fyddai yn nodwedd ddaearegol allweddol yr ardal am y 150 miliwn o flynyddoedd i ddod. Cariai afonydd waddodion i’r basn; ar adegau roedd lefelau’r môr yn isel ac ymestynnai deltâu allan ar draws y basn, gan ddyddodi gwaddodion bras fel tywodfeini caregog (llun 1). Ar adegau eraill, pan fyddai lefelau’r môr yn uwch, gadawyd dyddodion dŵr bas, gyda rhai ohonynt yn cynnwys ffosiliau’r creaduriaid (llun 2) a drigai yn yr amgylchedd hynafol hwn. Mewn dyfroedd dyfnach, dyddodwyd haen ar ben haen o laid a mwd mewn haenau rhythmig gan gerhyntau tanddwr lleidiog, ac yn achlysurol torrwyd y cyflenwad o waddodion bron yn gyfan gwbl gan beri i gerrig llaid duon gronni wrth i ronynnau mân yn y dŵr setlo. Arweiniodd cyfnod anarferol o waddodiad yn y Cyfnod Cambriaidd Isaf at ddyddodiad, fel gwaddod cemegol, haenau o fwyn manganîs (llun 3).

Y Cyfnod Ordofigaidd – 485-444 miliwn o flynyddoedd yn ôl: Oes y Llosgfynyddoedd

Ffurfia creigiau gwaddodol ran helaeth o strata Eryri, ond ar adegau, yn enwedig yn ystod y Cyfnod Ordofigaidd Canol, ymyrrwyd ar y llonyddwch gan episodau ffyrnig o weithgarwch folcanig ffrwydrol. Echdorrai cyfeintiau helaeth o lafa a lludw - trigain cilomedr ciwb mewn un achos, o losgfynyddoedd a oedd yn aml iawn o dan y dŵr, ond weithiau oedd wedi codi yn ynysoedd. Datgela’r tyffiau (llun 4), a ddyddodwyd gan lifoedd pyroclastig, a’r brecia-lafa (llun 5) lle chwalwyd creigiau a oedd eisoes yn bod gan y ffrwydradau, brawf o natur ffrwydrol yr echdoriadau. Echdorrodd y lafâu rhiolit bandog llawn silica (llun 6) ar yr wyneb, ond yn ddwfn o dan y ddaear, oerodd a chrisialodd rhywfaint o’r magma yn y fan a’r lle gan ffurfio mewnwthiadau, fel dolerit a’r micro-wenithfaen (llun 7) sydd heddiw’n brigo ger Ogwen, Blaenau Ffestiniog ac mewn mannau eraill. Mae creigiau igneaidd yn dueddol o fod yn llawer caletach na chreigiau gwaddodol fel cerrig llaid, ac felly’n ffurfio tir mwy creigiog Eryri.

Y Cyfnod Silwraidd - 444-419 miliwn o flynyddoedd yn ôl: diflaniad môr

Ni ddaeth Darwin ar draws creigiau o’r Cyfnod Silwraidd ar ei daith. Mae’n debygol iawn eu bod yno ar un adeg, gan y gellir dod o hyd iddynt mewn ardaloedd cyfagos yng Nghymru, ond yn y rhan o Eryri y troediodd Darwin roeddent wedi erydu ymaith amser maith yn ôl. Dengys tystiolaeth o greigiau Silwraidd rhanbarthau cyfagos bod môr Basn Cymru mewn bodolaeth nes yn hwyr yn y Cyfnod Silwraidd, nes iddo lenwi â llaid. Mae’n debyg bod y rhanbarth wedi parhau fel tir byth ers hynny.

Y Cyfnod Defonaidd – 419-359 miliwn o flynyddoedd yn ôl: gwrthdrawiad cyfandirol

Yn ystod y Cyfnod Defonaidd, ymunodd Afalonia â Lawrensia (Gogledd America, Yr Alban a Gogledd Iwerddon), a thua’r de, torrodd microgyfandiroedd eraill oddi ar Gondwana a symud i fyny tua’r gogledd, gan achosi gwrthdrawiadau pellach. Perodd y pwysau tectonig a gynhyrchwyd gan y digwyddiadau hyn i greigiau Gogledd Cymru blygu: mae un o’r enghreifftiau gorau o blygiant o’r fath yn ffurfio cefnlen ysblennydd Cwm Idwal. Cymaint oedd y pwysau ar y creigiau fel yr ail-grisialwyd llawer o’r gronynnau oedd yn eu ffurfio. Dyma’r achos mewn mannau eraill o Eryri gyda cherrig llaid yn arbennig, lle galluoga eu hadeiledd ail-risialedig - neu holltedd - iddynt gael eu hollti i haenau tenau. Ac felly y ffurfiwyd y llechen Gymreig (llun 8) enwog, gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl.

Y Cyfnod Cwaternaidd – 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw: siapio terfynol tirwedd heddiw

Cerfiwyd tirwedd garw Eryri gan rewlifoedd a dyfai drosodd a throsodd yn y mynyddoedd yn ystod ‘oesoedd ia’ y Cyfnod Cwaternaidd. Symudai rhewlifoedd hefyd trwy’r ardaloedd lle mae Môr yr Iwerydd a Bae Ceredigion heddiw, gan gafnu creigiau a mwd o wely’r môr a’u cludo tua’r de. Mae’r gwaddodion rhewlifol hyn yn cynnwys clogfeini a cherigos gwenithfaen, gneis a mathau eraill o greigiau nodedig a ddaethai yma yr holl ffordd o’r Alban, yr Iwerddon ac Ardal y Llynnoedd (llun 9). Gellir dod o hyd i glogfeini calchfaen (llun 10) o’r Cyfnod Jwrasig Cynnar a Chanol (201-168 miliwn o flynyddoedd yn ôl) ar hyd yr arfordir i’r de o Abermaw, lle cawsant eu gadael gan rew a symudai tua’r de. Dim ond trwy ddrilio yn ystod y 1970au y daethpwyd o hyd i darddiad y calchfeini hyn - ar wely Bae Ceredigion. Gellir dod o hyd i glogfeini y mathau o greigiau y ceir hyd iddynt yn y mynyddoedd ar yr arfordir hefyd. Fe’u cludwyd yma gan y rhew mynyddig Cymreig a symudai tua’r gorllewin.

  • Tywodfeini caregog

    1. Tywodfeini caregog

  • Ffosiliau

    2. Ffosiliau

  • Haenau o fwyn manganîs

    3. Haenau o fwyn manganîs

  • Tyffiau

    4. Tyffiau

  • Brecia-lafa

    5. Brecia-lafa

  • Rhiolit bandog

    6. Rhiolit bandog

  • Micro-wenithfaen

    7. Micro-wenithfaen

  • Llechen Gymreig

    8. Llechen Gymreig

  • Clogfeini egsotig

    9. Clogfeini egsotig

  • Calchfaen

    10. Calchfaen

  • Tywodfeini caregog

    1. Tywodfeini caregog

  • Ffosiliau

    2. Ffosiliau

  • Haenau o fwyn manganîs

    3. Haenau o fwyn manganîs

  • Tyffiau

    4. Tyffiau

  • Brecia-lafa

    5. Brecia-lafa

  • Rhiolit bandog

    6. Rhiolit bandog

  • Micro-wenithfaen

    7. Micro-wenithfaen

  • Llechen Gymreig

    8. Llechen Gymreig

  • Clogfeini egsotig

    9. Clogfeini egsotig

  • Calchfaen

    10. Calchfaen

Header image - Cwm Idwal (© Crown copyright (2014) Visit Wales)