Ogwen

Llyn Ogwen

alt=

Taith Darwin trwy Eryri

Darpara wal Darwin, sydd wedi ei lleoli o flaen canolfan ymwelwyr Ogwen ar droed Cwm Idwal, gofnod daearegol o daith Charles Darwin ar draws Eryri ym 1831. Aeth i fyny Nant Ffrancon i Ogwen, o gwmpas Cwm Idwal ac yna ymlaen i Ffestiniog heibio Capel Curig, ac yna ar draws y Rhinogydd at yr arfordir gan orffen yn Abermaw. Nid yw union fanylion ei daith gyfan ar gael, ond mae’r creigiau yn y Wal yn cynrychioli’r rhai a groesodd, aeth yn agos iddynt, ac mewn rhai achosion, rhai a archwiliodd.

Clogfeini tua 30-40cm mewn maint oedd y creigiau a gasglwyd yn wreiddiol. Fe’u casglwyd o ochrau ffyrdd, chwareli, traciau coedwig a thraethau. Bu Welsh Slate, Cyfoeth Naturiol Cymru a First Hydro yn garedig iawn yn caniatáu mynediad i gerbyd i rai mannau anghysbell, gan fod o gymorth mawr wrth gyflawni tasg a oedd yn un llafurus ar y gorau.

Wedyn, aethpwyd â’r cerrig i weithdy cwmni Cerrig ym Mhwllheli. Yma fe’u torrwyd, eu caboli a’u gosod yn y darnau sy’n ffurfio top y wal, a godwyd gan Maentwrog Masonry. Efallai y sylwch fod rhai mathau o greigiau yn ymddangos sawl gwaith ar hyd y wal: gwneir hyn er mwyn egluro’r ffaith bod y plygiadau a’r ffawtiau daearegol a geir trwy’r ardal gyfan yn golygu y bydd unrhyw drawstaith hir debyg i’r un a ymgymerwyd gan Darwin yn gweld trefn yr haenau yn cael eu hail-adrodd mewn mannau.

Wal Darwin, Ogwen

Wal Darwin, Ogwen (© APCE)

Wal Darwin, Ogwen

Wal Darwin (© APCE)

Adeiladwyd y gwahanol rannau o ochr y wal gan ddefnyddio cerrig sy’n lleol i’r gwahanol rannau o Eryri a groeswyd yn ystod taith Darwin: maent yn dangos sut y dylanwadodd y ddaeareg amrywiol ar ymddangosiad waliau cerrig ar draws y rhanbarth.

Dechreuad Eryri – 625 miliwn o flynyddoedd yn ôl: Gogledd Cymru Cyn-Gambriaidd

Mae hanes daearegol Eryri, yn ôl y creigiau sy’n brigo o’i bryniau ac ar hyd ei dyffrynnoedd, yn cwmpasu dros 625 miliwn o flynyddoedd o amser daearegol. Dechreua’r hanes ym mhell yn Hemisffer y De, pan oedd yr hyn sydd heddiw’n ‘Gymru’ yn gyfres wasgaredig o ynysoedd folcanig ar hyd ymyl gogleddol y cyfandir hynafol Gondwana, a eisteddai dros begwn y de. Erbyn dechrau’r gorgyfnod Paleosöig, 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd yr ynysoedd hyn wedi dod at ei gilydd i ffurfio micro-gyfandir a adnabyddir gan ddaearegwyr fel Afalonia.

Llwybr Darwin drwy Eryri

Llwybr Darwin drwy Eryri

Key

 Cleiau, siltiau, tywod a graean Cainosöig i’r gorllewin o brif ffawt Mochras
 Tywodfeini ac amryfeini Silwraidd Canol Dyffryn Conwy
 Cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini Silwraidd Isaf Dyffryn Conwy
 Cerrig llaid a cherrig silt Ordofigaidd Uchaf Dyffryn Conwy
 Creigiau igneaidd mewnwthiol ffelsig o’r Cyfnod Cambriaidd hwyr hyd y Cyfnod Ordofigaidd hwyr
 Creigiau igneaidd mewnwthiol mafig o’r Cyfnod Cambriaidd hwyr hyd y Cyfnod Ordofigaidd hwyr
 Creigiau igneaidd ffrwydrol mafig o’r Cyfnod Ordofigaidd Uchaf – y Ffurfiant Pyroclastig Haenog
 Creigiau igneaidd ffrwydrol ffelsig o’r Cyfnod Ordofigaidd yn cynnwys prif dyffiau rhyolitig yr Wyddfa a Chwm Idwal
 Y Cyfnod Ordofigaidd Uchaf: Ffurfiant Cwm Eigiau yn cynnwys tywodfeini ffosilifferaidd
 Y Cyfnod Ordofigaidd Canol: Ffurfiant Nant Ffrancon, wedi ei ddominyddu gan gerrig llaid yn cynnwys llechi Blaenau Ffestiniog
 Y Cyfnod Ordofigaidd Isaf: tywodfeini yn cynnwys amryfaen Grit y Garth
 Y Cyfnod Ordofigaidd cynharaf: cerrig llaid a cherrig silt ffosilifferaidd
 Y Cyfnod Cambriaidd Uchaf: cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini
 Y Cyfnod Cambriaidd Canol: tywodfeini ac amryfeini yn cynnwys Gritiau Bronllwyd
 Y Cyfnod Cambriaidd Canol: cerrig llaid, gerrig silt a thywodfeini
 Y Cyfnod Cambriaidd Isaf: tywodfeini ac amryfeini yn cynnwys cerrig grit y Rhinogydd
 Y Cyfnod Cambriaidd Isaf: cerrig llaid a cherrig silt yn cynnwys llechi enwog Llanberis
 Y Cyfnod Neoproterosöig hwyr (Grw^p Arfon): tywodfeini a thyffiau folcanig llai
 Y Cyfnod Neoproterosöig hwyr (Grw^p Arfon): Ffurfiant Tyff Arfon – creigiau folcanaidd ffelsig

Atgynhyrchwyd gyda chaniatad yr ‘Arolwg Daearegol Prydeinig © NERC. Cedwir pob hawl. [CP14/023]
Noder bod lliwiau’r map wedi eu newid o Baled Lliw safonol yr ADP.

  • Un o sawl taith i gasglu samplau – argae Stwlan

    Un o sawl taith i gasglu samplau - argae Stwlan (© APCE)

  • Yr ymdrech olaf, y cerrig yn barod i fynd i gael eu torri

    Yr ymdrech olaf, y cerrig yn barod i fynd i gael eu torri (© APCE)

  • Torri a chaboli

    Torri a chaboli (© APCE

  • Samplau yn barod i’w gosod yn y wal

    Samplau yn barod i’w gosod yn y wal (© APCE)

Header image - Cwm Idwal (© Crown copyright (2014) Visit Wales)