Ogwen

Llyn Ogwen

alt=

Charles Robert Darwin (1809-1882)

Ganwyd Charles Robert Darwin i deulu adnabyddus yn yr Amwythig, Swydd Amwythig yn 1809. Roedd ei daid ar ochr ei dad, Erasmus Darwin yn un o ddeallusion mwyaf blaenllaw y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a feistrolodd sgiliau mewn meysydd gwyddonol eang, megis daeareg, cemeg, ffiseg, bioleg a thywyddeg ac mi luniodd o ddamcaniaethau ar esblygiad oddeutu 70 o flynyddoedd cyn ei ŵyr, Charles. Serch hynny, fel meddyg yr enillodd o ei fara a’i fenyn. Josiah Wedgwood, sefydlydd y cwmni serameg byd-enwog, ‘Wedgwood’ oedd ei daid ar ochr ei fam.

Wedi iddo adael Ysgol yr Amwythig, cofrestrodd Darwin ar gwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Caeredin, ond yn fuan iawn, sylweddolodd nad oedd arno eisiau dilyn gyrfa fel meddyg – yn bennaf oherwydd ei atgasedd tuag at edrychiad gwaed a’r ffaith fod llawdriniaethau yn cael eu perfformio yn ddi-anesthetig. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaeredin, fodd bynnag, cafodd gyfle i ddatblygu ei ddiddordeb mewn hanes naturiol trwy astudio’r bywyd gwyllt ym Moryd Forth. Newidiodd ei gwrs a chofrestrodd ei hun ar gwrs BA Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt yn hytrach, gan ennill ei radd BA ym mis Ionawr 1831. Er mai fel biolegydd y caiff Darwin ei gofio yn bennaf, fel daearegydd yr oedd o fwyaf adnabyddus, hyd 1850 ac mi fu’n cynnal astudiaeth daearegol ar fwrdd llong HMS Beagle, yn ogystal ag arsylwi rhywogaethau o anifeiliaid.

Charles Darwin

Charles Robert Darwin

Yn Haf 1831, ymunodd Charles Darwin gydag Adam Sedgwick, ei Athro Daeareg yng Nghaergrawnt, ar ei daith ddaearegol flynyddol i ogledd Cymru. Teithiodd y ddau drwy Langollen, Corwen a Rhuthun, ac yna i Ynys Môn, lle gwahanodd y ddau. Teithiodd Sedwick ymlaen i Iwerddon tra theithiodd Darwin i Fangor cyn gadael am Gapel Curig a Chwm Idwal ac yna ymlaen tuag Abermaw. Teithiodd Darwin ymlaen i Abermaw gan ymweld â Chwm Idwal ar ei ffordd. Yn ystod y daith hon, datblygodd Darwin sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd daearegol, e.e. arsylwi cemegol ac mi fu’r sgiliau hyn yn werthfawr iawn iddo wrth ddatblygu ei ddamcaniaeth ar ddethol naturiol. Cyfeiria Michael Roberts at y daith hon yn 1831 fel “one of the most formative aspects of Darwin’s scientific development”.

Ar Awst 29ain, dychwelodd Darwin i’r Amwythig, lle’r oedd llythyrau gan John Stevens Henslow a George Peacock yn ei wahodd i ymuno â mordaith HMS Beagle, ar daith arolwg i ynysoedd y Galapagos yn y Môr Tawel. Mi fu gwaith daearegol Darwin yng ngogledd Cymru, gyda Sedgwick yn allweddol i’w ymchwil ddaearegol ar fwrdd y Beagle, e.e. ar Quail Island. Yr ymweliad hwn i’r Galapagos ffurfiodd sail ymchwil a damcaniaeth Charles Darwin ar esblygiad (‘Theory of Evolution).

Yn Ewrop y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd consensws mai Duw greodd y byd mewn saith niwrnod, yn ôl yr hyn a gafwyd yn llyfr Genesis yn y Beibl, ond wrth ddarllen gwaith Charles Lyell, Principles of Geology ar fwrdd HMS Beagle, sef gwaith a ddamcaniaethodd fod ffosiliau yn dystiolaeth o fywyd a fodoloai filiynau o flynyddoedd yn ôl, teimlai Darwin fod y ddamcaniaeth yn cefnogi bodolaeth y cyfoeth o fywyd gwyllt a’r ddaeareg unigryw a welodd ar ei daith. Wedi iddo gyrraedd Ynysoedd y Galapagos, cadarnhawyd syniadau Darwin, wrth weld bod pob ynys yn gartref i fath wahanol o bila, oedd oll yn perthyn i’r un rhywogaeth ond yn meddu nodweddion gwahanol.

Ennynodd y syniadau hyn chwilfrydedd Darwin ac wedi iddo ddychwelyd i Brydain yn 1836, ymhelaethodd ar ei ddamcaniaethau ar sut fydd rhywogaethau yn esblygu. Dan ddylanwad gwaith Malthus, daeth Darwin i’r casgliad fod esblygiad yn digwydd trwy gyfrwng dethol naturiol wrth i’r bodau sy’n gweddu orau i’w cynefin fod yn fwy tebygol o atgenhedlu na’r rhai sydd ddim yn gweddu cystal i’w cynefin, a’u bod, yn eu tro, yn pasio’r nodweddion â’u galluogodd i oroesi ac atgenhedlu ymlaen i’r genhedlaeth nesaf, gan addasu’r rhywogaeth tros amser.

Yn y 1830au, roedd hi’n ras boeth am bwy fyddai’n cyhoeddi eu syniadau ar esblygiad a dethol naturiol yn gyntaf, ac felly cyhoeddodd Charles Darwin a’r naturiaethwr Alfred Russel Wallace, a fu hefyd yn datblygu ei ddamcaniaeth esblygiad ei hun, eu syniadau ar y cyd yn 1858. Yn 1859, cyhoeddodd Darwin ei waith enwocaf, On the Origin of Species by Means of Natural Selection.

Roedd hwn yn waith eithriadol o heriol o ystyried confensiynau crefyddol a chymdeithasol y dydd. Ymosodwyd yn ffïaidd ar waith Darwin, yn enwedig gan yr Eglwys, gan ei fod, mewn gwirionedd yn awgrymu mai anifeiliaid oedd bodau dynol a’i fod yn bosib eu bod nhw eu hunain wedi esblygu – o’r epa mae’n debyg.

Cyhoeddwyd hunangofiant Charles Darwin yn 1887. Ar y pryd, fe’i ganfyddwyd yn gyhoeddiad dadleuol iawn, ac o’r herwydd, sensoriwyd rhannau o’r gwaith. Roedd y sensoriaeth yma’n ganlyniad uniongyrchol o gyhoeddiad ‘On the Origin of Species’ yn 1859 a’r cythrwfl a ddeilliodd ohono. Yn sicr, mi fu’r cyhoeddiad hwnnw yn ergyd ddifrifol i feddylfryd y gymdeithas Fictorianaidd a’r gred ddi-ffael mai Duw greodd y byd.

Rhwygwyd teulu Darwin gan ddatganiadau Darwin am ei gredoau crefyddol. Francis Darwin, mab Charles oedd golygydd yr hunangofiant ac roedd o o blaid cyhoeddi atgofion ei Dad yn eu cyfanrwydd. Credai aelodau eraill o’r teulu na ddylid gwneud hynny gan na fwriadodd Charles Darwin eu cyhoeddi yn y lle cyntaf ac y byddai canlyniadau cyhoeddi’r holl atgofion yn niweidiol i etifeddiaeth Darwin a’i enw da.

Roedd y rhwyg hwn rhwng y teulu yn bwysig gan ei fod y Darwiniaid yn deulu agos ac unedig ar y cyfan. Amlygwyd y rhwyg wrth i rai o blant Charles Darwin ddangos cydymdeimlad â natur wyddonol eu Tad ac i eraill gydymdeimlo ag ymroddiad crefyddol eu Mam.

Wrth edrych yn ôl tros y 150 o flynyddoedd ers cyhoeddi ‘On the Origin of Species’, mae’n anodd iawn gwerthfawrogi’r cynddaredd â sbardunodd y cyhoeddiad ymysg y gymdeithas Fictorianaidd. Caiff esblygiad ei led-dderbyn erbyn heddiw, ond bu datblygu’r ddamcaniaeth yn waith hir a llafurus ar ran Darwin, ac mi fu’n rhaid iddo argyhoeddi ei hun o bosibilrwydd esblygiad, trwy ddadansoddi llithoedd o dystiolaeth, cyn iddo fedru argyhoeddi ei gyfoedion.

Bu farw Darwin yn 1882 ac fe’i gladdwyd yn Abaty San Steffan.

Ffynonellau:

‘The Autobiography of Charles Darwin 1809-1882: the First Complete Version’, Gol.Nora Barlow, Collins, St.James’ Place, London, pp.11-15.
‘The Survival of Charles Darwin: a Biography of a Man and an Idea’, Ronald W.Clark, Weidenfeld & Nicolson, Llundain (1984).
‘Just Before the Beagle: Charles Darwin’s Geological Fieldwork in Wales, Summer 1831’, Michael Roberts, pp. 33-37.
‘Darwin’s dog-leg: the last stage of Darwin’s Welsh field trip of 1831’, Michael Roberts. Archives of Natural History (1998) 25 (1), pp.59-73.
‘Darwin at Llanymynech: the evolution of a geologist’, Michael Roberts.

Header image - Cwm Idwal (© Crown copyright (2014) Visit Wales)