Ogwen

Llyn Ogwen

alt=

Gwneuthuriad Cwm Idwal

Yng Nghwm Idwal mae creigiau gwaddod ac igneaidd a ffurfiwyd yn ystod y cyfnod Ordofigaidd tua 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Cafodd y creigiau hyn eu ffurfio trwy brosesau dyddodi ar waelod y môr yn ogystal a prosesau folcanig oedd yn cynhyrchu haenau o lwch lludw a llifoedd lafa. Roedd yr haenau hyn yn ffurfio mewn pentwr ar waelod y môr a grymoedd cywasgu yn cael dylanwad arnynt. Yn ddiweddarach, tua 40 miliwn o flynyddoedd yn ôl, plygodd a cywasgodd y grymoedd hyn yr haenau ymhellach wrth i blatiau tectoneg wrthdaro a chreu ffurf tonnau plygiedig yn y graig.

Gelwir gwaelodion y plygiadau hyn yn synclinau, a gwelir plyg synclin Idwal yn rhedeg i fyny'r Twll Du yng nghefn y cwm. Ni fuasai'n bosib gweld trawstoriad o synclin Idwal oni bai am ddylanwad rhewlifoedd Oes y Iâ, rhwng 10,000 a 13,000 o flynyddoedd yn ôl.

Cwm Idwal dan eira (© APCE)

Cwm Idwal dan eira (© APCE)

Yn ystod Oes y Iâ, roedd haen drwchus o rew yn ymestyn dros ardal eang o Eryri. Casglai'r rhewlifoedd hyn yng nghymoedd megis Cwm Idwal, Cwm Cneifion a Chwm Clyd ac wrth iddynt symud i lawr llethrau'r mynydd roeddent yn plicio cerrig o waliau cefn y cymoedd ac yn sgrafellu'r gwaelod gan adael hafnau tyfn ar eu holau.

Wrth i'r rhewlifoedd gilio, gadawyd tomenni fel y bryniau bychan ger Llyn Idwal a elwir yn 'Beddau Milwyr Ynys Prydain', a cheir un marian hir sydd, ynghyd a'r graig galed ym mhen gogledd y cwm, yn ffurfio'r ymylon sy'n dal dŵr Llyn Idwal rhag dianc. Wedi i Oes yr Iâ ddod i ben y dylanwad mwyaf ar dirlun Cwm Idwal yw patrymau hinsoddol a dynol.

Header image - Cwm Idwal (© Crown copyright (2014) Visit Wales)