Ogwen

Llyn Ogwen

alt=

Cwm Idwal Dros Amser

Mae tystiolaeth o bobl yn byw yng Nghwm Idwal o’r cyfnod Mesolithic hwyr. Y ddamcaniaeth yw fo’r bobl hyn yn byw mewn grwpiau ac yn defnyddio a siapio cerrig oeddent yn darganfod ar y safle i wneud offer ar gyfer hela. Mynd a dod fyddai’r rhan fwyaf o’r helwyr hyn gan amlaf yng Nghwm Idwal, yn dilyn patrwm cyffredinol y cyfnod.

Mae nifer o olion cytiau crwn, ac mae adfail hen hafod ar y safle. Wedi astudio’r hafod yn fanylach mae’n debyg fod corn simdde ar yr hafod sy’n awgrymu fod pobl yn byw ynddo drwy’r flwyddyn, ac yn llosgi mawn. Mae rhai o’r mannau cyfagos hefyd yn edrych fel eu bod wedi eu hamgau gan ffens, o bosib i dyfu cnydau, cadw ieir neu foch.

Dyma’n harwain at y cyfnod Neolithig, sef cyfnod mwy sefydlog lle gwelwyd patrymau amlycach yn nhechnegau amaethu. Byddai ein cyndeidiau yn dal i hela ceirw, baedd gwyllt ac ati, ond mae tystiolaeth yn dangos eu bod nhw’n dechrau aros yn yr un ardaloedd dros gyfnod. Dyma gyfnod ble byddai newid cynnar ym mioleg ein cynefinoedd. Byddai rhai planhigion yn dirywio oherwydd cawsant eu casglu fel bwyd i anifeiliaid dôf a dyma ddechrau ffurfiad blancedi mawndir ar yr ucheldir o ganlyniad i dorri coedlannau.

Gwyddwn fod defaid a gwartheg wedi eu cadw yn yr ardal ers canrifoedd. Ceir tystiolaeth yng Nghwm Idwal a Nant Ffrancon fod cadw gwartheg hynafol wedi bod yn draddodiad yma oherwydd yr enwau lleoedd, er enghraifft, Cwm Bual, Clogwyn y Tarw ac yn y blaen.

Mae cadw defaid allan o'r warchodfa yn golygu bod Chwys yr Haul yn ffynnu (© APCE)

Mae cadw defaid allan o'r warchodfa yn golygu bod Chwys yr Haul yn ffynnu (© APCE)

I ddod yn nes at ein cyfnod ni, gwelwyd gor-boblogi anifeiliaid ar ôl y Ddau Ryfel Byd. Talwyd grantiau er mwyn cadw mwy o anifeiliaid yn y cwm oherwydd prinder bwyd. Ddim tan yn ddiweddar iawn bu newid meddylfryd, a rhoi pwyslais ar gynlluniau amaeth mwy amgylcheddol er mwyn gwarchod cynefinoedd naturiol megis Cwm Idwal. Mae’r cwm wedi bod yn ddi-ddafad ers 1998, yn bennaf er mwyn gwarchod y planhigion Artig-Alpaidd ac mae bugeiliaid yn cael eu cyflogi hyd heddiw i gadw anifeiliaid allan.

Bu dyn yn siapio ac yn amharu ar gynefin Cwm Idwal, ers miloedd o flynyddoedd. Er bod graddfa ymwelwyr yn llawer uwch rwan nag erioed, mae’r cynlluniau amgylcheddol yn rhoi cyfle gwell i lystyfiant naturiol yr ardal ffynnu unwaith eto!

Header image - Cwm Idwal (© Crown copyright (2014) Visit Wales)