Ogwen

Llyn Ogwen

alt=

Fflora

Un o nodweddion gwerthfawr Garchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal yw’r planhigion sy’n perthyn i’r dosbarth arctic alpaidd. Fel sy’n amlwg o enw’r dosbarth mae’r planhigion yma wedi ymgartrefu mewn hinsoddau oer iawn fel a geir yn yr Arctig, mynyddoedd uchel yr Alpau, a Cwm Idwal. Mae ardaloedd o fewn Cwm Idwal yn gynefin delfrydol ar gyfer rhai o’r planhigion yma, sydd wedi addasu yn berffaith ar gyfer byw yn y fath le. Rhai o nodweddion y planhigion arctig-alpaidd yw fod y planhigion blodeuol yn tyfu mewn matiau neu ‘glustogau’ isel sydd gyda tymor blodeuo byr, mae hyn yn eu diogelu rhag yr elfennau eithafol sydd i’w cael yn yr ardaloedd yma.

Tormaen Borffor

Un o’r planhigion arctig-alpaidd cyntaf i flodeuo yng Nghwm Idwal yw’r Dormaen borffor, neu’r Dormaen gyferbynddail, neu i roi ei enw Lladin, y Saxifraga oppositifolia. Yn y Saesneg ‘Purple saxifrage’ a’i gelwir. Mae’r Dormaen Borffor fel arfer yn blodeuo o tua Mis Chwefror drwy Mis Ebrill, ond mae’r tymor blodeuo yn newid yn ddibynol ar y tywydd gaeafol a gawn yng Nghwm Idwal. Prin yw’r cyfle I weld y Dormaen Borffor yn blodeuo ar ol y pasg.

Ydi’r enw ‘Tormaen Borffor’ yn addas ar gyfer y math yma o Dormaen y cawn yng Nghwm Idwal? Mae blodau gwyn a phinc i’w cael ar y Dormaen ‘borffor’ yng Nghwm Idwal, ond nid oes gwahaniaeth ennynol rhwng Y Dormaen Borffor gyda blodau porffor, a’r Dormaen Borffor gyda blodau gwyn!

Yn Norwy gelwir y Dormaen Borffor yn rødsildre, sef y Dormaen Goch, gan fo blodau mwy coch i’w cael yno, ond yr un planhigyn ydio, a hwnnw gawn yng Nghwm Idwal.

Tormaen Borffor (© APCE)

Tormaen Borffor (© APCE)

Chwys yr Haul (© APCE)

Chwys yr Haul (© APCE)

Chwys yr Haul

Un o’r planhigion rhyfeddol a ellir ei weld yng Nghwm Idwal yw’r Gwlithlys, neu Chwys yr haul (Drosera rotundifolia). Fel mae’r enw yn ei hawgrymu, gellir ei adnabod trwy ei ddiferion gludiog llawn neithdar, sy’n cael ei ddefnyddio i ddal pryfaid! Fel Tafod y gors, sydd hefyd yn tyfu yn y Cwm, mae’r planhigion hyn yn dal a threulio pryfaid bychan. Mae hyn yn ffordd o gael y mwynhau angenrheidiol mae’r planhigion angen i dyfu, gan fo’r planhigion fel arfer yn byw mewn mannau corsiog gyda diffyg nitrogen (sy’n angenrheidiol ar gyfer tyfiant planhigion).

Yn ogystal â bod yn gynefin addas ar gyfer pryfaid, mae’r Cwm hefyd gyda ardaloedd eang o briddoedd asidig, sy’n darparu amodau ffafriol ar gyfer y Gwlithlys. Gan fo llethrau uchel Cwm Idwal yn cynnwys creigiau ‘llai sur’, a mannau lle nad yw’n bosib i ddŵr gronni mewn corsydd, rydych yn llawer llai tebygol o ganfod y Gwlithlys yn y mannau uchel, serth hyn. Yn ôl pob sôn, gellir defnyddio’r planhigyn i drin unrhyw beth o ddafadennau a chyrn i asthma a broncitis – ond cofiwch beidio â niweidio unrhyw blanhigion yn y gwyllt, os gwelwch yn dda.

Mae’n bosib darganfod amrywiadau o’r planhigyn yma ledled y byd, heblaw yr Antarctig (‘sgwn i pam?). Ynn Ngorllewin Awstralia mae un rhywogaeth yn tyfu hyd at 10m o uchder! Yn ffodus i ni, dim ond i ryw daldra o bum modfedd mae’r rhai yng Nghwm Idwal yn tyfu. Gellir gweld y gwlithlys mewn ambell fan corsiog yn y Cwm ar hyn o bryd, ond bydd rhaid chwilio yn dda amdano – a chael eich traed yn wlyb!

Lili'r Wyddfa (© APCE)

Lili'r Wyddfa (© APCE)

Lili'r Wyddfa

Rhywogaeth sydd i’w weld i droi yn erbyn rheolau cyffredin planhigion Artig-Alpaidd yw’r enwocaf ohonynt i gyd yn Eryri, sef Lili’r Wyddfa, neu Brwynddail y Mynydd (Gagea Serotina). Dyma un o blanhigion pwysicaf Cwm Idwal, yn bennaf oherwydd ei fod yn un o’r unig blanhigion Artig-Alpaidd sydd hefyd yn bodoli yn ucheldiroedd yr Alban. Er hyn mae i’w ganfod mewn ucheldiroedd eraill yn hemisffer y gogledd ond yn dueddol if od ar lethrau gleision ac nid yn tyfu ar greigiau fel mae’n gwneud yma yn Eryri. Mae’r tyfiant agosaf o Lili’r Wyddfa o Gwm Idwal i’w canfod gannoedd o filltiroedd i ffwrdd ym mynyddoedd yr Alpau, sy’n gofyn y cwestiwn sut yn y byd y cyrrhaeddodd Eryri yn y lle cyntaf!

Un esboniad yw mai at Eryri lledaenwyd y planhigyn yng nghyfnod yr oes Iâ ddiwethaf a bod mentro i dywydd oerach y gogledd yn amhosib. Esboniad arall yw bod y planhigyn wedi mentro ymhellach ac wedi gallu ffynnu yng nghreigiau cysgodol Eryri drwy symudiadau rhewlifol a’i bod wedi methu ym mynyddoedd yr Alban.

Beth bynnag yw’r rheswm, mae’r gwahaniaeth genetig yn ein poblogaeth ni a rhai yr Alpau yn dangos bod rhanniad clir wedi digwydd ers miloedd o flynyddoedd. Trysor i’w warchod yn bendant!

Header image - Cwm Idwal (© Crown copyright (2014) Visit Wales)