Côd Ymddygiad
Er bod gan feicwyr hawl i feicio ar hyd llwybrau ceffyl, dylai beicwyr gymryd sylw o'r ffaith fod y Gyfraith (Adran 30, Deddf Cefn Gwlad 1968) yn nodi bod rhaid iddynt ildio i gerddwyr a marchogwyr ar bob cyfrif.
Mae hyn yn hynod bwysig ar Yr Wyddfa ble mae nifer eithriadol o uchel o gerddwyr yn defnyddio llwybrau Llanberis, Rhyd Ddu a Cwellyn.
Mae beicio oddi ar y ffordd yn weithgaredd cymharol newydd a all beri gwrthdaro rhwng tirfeddianwyr a defnyddwyr cefn gwlad. Fel cerdded a marchogaeth, gall arwain at niwed ac erydiad ar ucheldir bregus, yn enwedig pan fo'r ddaear yn wlyb, neu pan fo nifer fawr o feicwyr. Gall beicwyr ddychryn cerddwyr a marchogion, yn enwedig wrth deithio'n gyflym.
A fyddech cystal ag osgoi'r problemau trwy ddilyn y canllawiau syml a ganlyn:

Coed y Brenin (© Aneurin Philips)
Edrychwch ar ôl eich hun
- Sicrhewch bod eich beic yn ddiogel a byddwch yn barod am argyfwng.
- Gwisgwch helmed a defnyddiwch ddefnyddiau sy'n adlewyrchu ar eich beic a'ch dillad.
- Defnyddiwch olau ar ôl iddi dywyllu.
- Cofiwch eich bod yn cludo rhyw dystiolaeth o bwy ydych chi bob amser.
- Dywedwch wrth rywun ble rydych yn mynd, a rhowch wybod iddynt pan fyddwch yn dychwelyd.
- Dysgwch egwyddorion sylfaenol Cymorth Cyntaf.
- Sicrhewch bod eich beic o dan reolaeth ar arwynebau gwlyb neu anwastad, yn enwedig wrth feicio i lawr allt, pan fo damweiniau difrifol yn gallu digwydd.
Edrychwch ar ôl eraill
- Beiciwch yn unig lle mae Hawl Tramwy a chadwch at yr Hawl Tramwy bob amser.
- Rhowch wybod i gerddwyr a marchogion eich bod yno ac ildiwch iddynt. Os ydych yn teithio o'r tu ôl iddynt, cyfarchwch hwy.
- Cymerwch ofal rhag dychryn anifeiliaid.
- Cymerwch ofal arbennig wrth deithio trwy ffermydd.
- Beiciwch mewn grwpiau bychan; mewn un rhes lle bo angen. Peidiwch â chlystyru, a chofiwch bod rasio'n anghyfreithlon.
Edrychwch ar ôl y Parc Cenedlaethol
- Dewiswch eich taith yn ofalus, yn enwedig pan fo'r ddaear yn wlyb, i leihau erydiad.
- Osgowch rhag brecio'n sydyn, yn enwedig ar arwynebau gwelltog, sy'n cael eu niweidio'n hawdd.
- Dilynwch y Côd Cefn Gwlad.
Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)