Ystafell De Dwyryd a'r Gerddi
Mae Ystafell De Dwyryd wedi ei leoli yn heulfan ein teras, oddi yma mae golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Ffestiniog i fyny at y coedwigoedd a’r mynyddoedd uwch ei phen.
Mae rhai o’r rhododendron trawiadol sy’n fframio’r afon droellog islaw bron yn 200 mlynedd oed.
Mae'r Ystafell De yn ddiweddglo perffaith i’ch ymweliad i’r gerddi, a pham lai ymestyn eich aros er mwyn cael edrych o gwmpas y tŷ a’r stablau a chanfod mwy am hanes Plas Tan y Bwlch ac ychydig am waith Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Golygfa o du allan i'r Ystafell De (©APCE)

Golygfa o erddi Plas Tan y Bwlch yn edrych dros y Ddwyryd (©APCE)
Mae’r Ystafell De ar agor yn ddyddiol o’r Pasg hyd at fis Hydref, ac yn gweini dewis o gacenni cartref, detholiad o de a choffi gwahanol yn ogystal a brechdanau ffres.
Oriau Agor
Gerddi: Yn ddyddiol, rhwng 10yb hyd 5yh.
Mynediad: Am ddim! £2 y pen am daith dywys
Cŵn: Mae hawl i gŵn fod ar dennyn yn y gerddi cyn belled bod y perchennog yn gwaredu unrhyw faw.
Ystafell De: Ar gau tan Pasg 2020.
Tŷ: Amseroedd yn amrywio. Cysylltwch ymlaen llaw.