Ystafelloedd Cyfarfod
Erbyn heddiw, Plas Tan y Bwlch yw Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri. Yn ogystal â chroesawu dros 5,000 o bobl ar gyrsiau yma bob blwyddyn, mae hefyd yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau, seminarau, priodasau, dathliadau, cyrsiau, a chyfarfodydd. Yn ddiweddar, mae’r Plas wedi datblygu’n gyrchfan gwyliau poblogaidd a daw ymwelwyr o bedwar ban y byd yma i aros.
Mae trefnu cyfarfodydd a chynadleddau yn gallu bod yn broses anodd ac yn dasg ddi-ddiolch. Ond mae’n staff yma yn barod i’ch cynorthwyo a’ch cynghori gan sicrhau’r trefniant gorau i chi.
Cofiwch fod modd i ni gynnig pecyn arlwyo ar eich cyfer, gallwn ddarparu amryw o adnoddau ychwanegol fel rhan o bris yr ystafell, ac mae gennym wifi rhad ac am ddim yma hefyd.
Cofiwch gysylltu â ni os ydych eisiau pecyn gwybodaeth a manylion llawn am y cyfleusterau yn y Plas neu lawrlwythwch yma.

Ystafell Oakeley (© Kristina Banholzer)