Darlith Goffa Merfyn Williams
Sefydlwyd y gyfres o Ddarlithoedd Coffa Merfyn Williams ym mis Hydref, 2008.
Roedd Merfyn Williams (1949-2007) yn ddarlithydd a chyn bennaeth ar Blas Tan y Bwlch. Rhoddodd oes weithgar o wasanaeth i hybu dealltwriaeth o Eryri a chefn gwlad Cymru ac i ymgyrchu dros yr amgylchedd, cymunedau a threftadaeth.
Cynhelir y darlithoedd trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg bob yn ail flwyddyn er mwyn sicrhau amrywiaeth mor eang â phosib o themâu a chyfranwyr.
Os hoffech archebu copi o unrhyw ddarlith flaenorol cysylltwch a staff Plas Tan y Bwlch ar 01766 772600
Darlith 2008: ‘Y Llenor a’i Fro Gynefin’ gan yr Athro Gwyn Thomas
Darlith 2009: ‘Ironworking in Meirioneth from prehistory to the 18th century’ gan Peter Crew
Darlith 2010: ‘Mewn Gwasgod o Fynydd - Hanes Twristiaeth yn Eryri’ gan Bob Morris
Darlith 2011: ‘The Archaeology of Gwynedd Slate - Flesh on the Bone’ gan Michael Lewis
Darlith 2012: ‘Enwau Lleoedd yn ein Barddoniaeth’ gan Ieuan Wyn
Darlith 2013: ‘Anjou & Gwynedd - Slate Landscapes’ gan David Gwyn
Darlith 2014: ‘Rhai o Feirdd Gwlad Eryri’ gan Bleddyn Huws
2015: Dim darlith
Darlith 2016: 'Straeon Rygbi Gogledd-Orllewin Cymru' gan Arthur Tomos