Llety
Gellir darparu llety i hyd at 60 o bobl mewn ystafelloedd en-suite sydd â lle i 1 – 4 o bobl gysgu, ac 8 ystafell safonol sydd â chawodydd, toiledau ac ystafelloedd ymolchi wrth law.
Ceir mynediad hawdd at dair ystafell ar y llawr gwaelod ac mae un ohonynt yn gwbl hygyrch.
Mae cyfleusterau gwneud te a choffi ar gael i’r gwesteion mewn lolfa gyfforddus yn barhaus, yn ogystal â WiFi am ddim, Bar ac Ystafell Sychu.

Llety ystafell wely (© Kristina Banholzer)

Ystafell Ymolchi (© Kristina Banholzer)
Yn ogystal â hyn, darperir y cyfleusterau canlynol yma yn y Plas:
- bar
- lolfeydd
- teledu
- cyfarpar clyw-weledol
Gwesteion Gwely a Brecwast
Pan fydd lle ar gael, gellir gwneud archebion unigol am ginio, gwely a brecwast ym Mhlas Tan y Bwlch heb gymryd rhan yn ein cyrsiau.
Prisiau tan Mawrth 31, 2018
Gwely a Brecwast
£41.00– sengl
£82.00– dwbl/dau wely
£51.00 – sengl en-suite
£92.00 – dwbl/dau wely en-suite
Cinio, Gwely a Brecwast
£60.00 – sengl
£120.00 – dwbl/dau wely
£70.00 – sengl en-suite
£130.00- dwbl/dau wely en-suite