Cynllunio ar gyfer Eryri
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol. Mae dyletswydd statudol arno i baratoi Cynllun Datblygu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 2004.
Wrth i Awdurdod y Parc Cenedlaethol (APC) gyflawni ei ddyletswyddau cynllunio statudol, rhaid iddo ystyried cyfrifoldebau statudol a swyddogaeth reolaethol awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol fel y’i nodir o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Ei bwrpas yw:
- Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc.
- Hyrwyddo cyfle i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc.
Mae dyletswydd ar y Parc Cenedlaethol hefyd i:
- Feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol yn y Parc.
Y cynllun datblygu llawn ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri yw'r Cynllun Datblygu Lleol (dyddiad terfynu 2022)a gafodd ei fabwysiadu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 13 Gorffennaf, 2011. Nod y cynllun yw mynegi pwrpasau a dyletswyddau'r Parc yn nhermau polisïau cynllunio a datblygu sydd a wnelo defnydd tir.
Ffurflenni Cais
Os hoffech wneud cais cynllunio, gallwch un ai gwneud cais ar-lein gan ddefnyddio gwefan y Porth Cynllunio neu lawrlwytho a llenwi un o’n ffurflenni cais.
« mwy o fanylionCanllawiau Dylunio
Er mwyn cynnal cymeriad adeiladau unigol ac ardaloedd cadwraeth o fewn y Parc, rydym wedi cynhyrchu cyfres o enghreifftiau o ddyluniadau yn gymorth i ddatblygwyr ac unigolion.
« mwy o fanylion