Ymgynghoriad Adnau – CDLl Eryri
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol Eryri (2016-2031) diwygiedig bellach wedi'i fabwysiadu. I weld y Cynllun Datblygu Lleol (2016-2031) Mabwysiedig yr Awdurdod, cliciwch yma. Nid yw'r tudalen isod bellach yn gyfredol, mae ar gyfer dibenion cyfeirio yn unig.
Mae'r dogfennau isod wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng y 5/07/2017 a'r 30/08/2017. Isod mae rhestr o gynnwys pob dogfen.
- Cynllun Datblygu Lleol Eryri Diwygiedig Adnau (Datganiad Ysgrifenedig)– Mae’r ddogfen hon yn dangos y diwygiadau i’r CDLl ac mae’r holl newidiadau wedi eu nodi fel newidiadau trac. Mae’r holl newidiadau hefyd wedi eu dangos yn y ddogfen Mewnosod a Dileu isod. Mae’r Awdurdod yn gwahodd sylwadau ar y diwygiadau arfaethedig yn unig, ni ellir ystyried sylwadau ar rannau o’r Cynllun fydd yn aros heb eu newid.
- Fersiwn Adnau – Dogfen Mewnosod a Dileu – Mae’r ddogfen hon yn dangos y mewnosod a’r dileu a gynigir ar gyfer fersiwn ddiwygiedig Cynllun Datblygu Lleol Eryri. Dangosir mewnosod mewn gwyrdd a dileu mewn coch. Diwygiadau i’r Cynllun yn unig a ddangosir yn y ddogfen hon a’r rhai hyn yw’r diwygiadau y mae’r Awdurdod yn gwahodd sylwadau arnynt. Dangosir hefyd y rhesymau am y diwygiadau yn y ddogfen hon.
- Map Rhyngweithiol (diwygiadau) - Mae’r map rhyngweithiol yn dangos y newidiadau a gynigir i fapiau Cynigion a Mewnosod y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’n bwysig eich bod yn clicio ar y botwm ‘newidiadau a gynigir’ ar ochor dde y map er mwyn gweld y newidiadau. Mae’r Awdurdod yn gwahodd sylwadau ar y newidiadau a gynigir yn unig. Mae’n bwysig hefyd darllen y rhesymau dros y newidiadau.
- Fersiwn Adnau Mapiau Cynigion a mapiau mewnosod (diwygiadau) Mae’r ddogfen mapiau pdf hon yn dangos y newidiadau a gynigir i fapiau Cynigion a Mewnosod y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen y rhesymau dros y newidiadau – mae’r rhai hyn i’w gweld a’r waelod pob tudalen.
Hefyd, fe groesawyd sylwadau ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd (AC), Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) a’r Adroddiad Ymgynghoriad Cychwynnol.
- Asesiad Amgylcheddol Strategol / Gwerthusiad Cynaladwyedd (SEA/SA) Cyf 1 – Proses yw SA sydd yn asesu effaith cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol unrhyw gynllun ac mae’n anelu at sicrhau bod datblygu cynaladwy yn ganolog yn y broses o lunio cynlluniau. Mae’r awdurdod hefyd wedi paratoi crynodeb (heb fod yn dechnegol) o’r SEA/SA.
- Asesiad Amgylcheddol Strategol / Gwerthusiad Cynaladwyedd (SEA/SA) Cyf 2 – Atodiadau perthnasol i Gyfrol 1.
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) – mae’n gyfrifoldeb ar APCE i ystyried effeithiau posibl y CDLl ar safleoedd Ewropeaidd. Gelwir y broses hon yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA). Mae’r atodiad HRA yn egluro sut mae diwygiadau i’r CDLl wedi cael eu hasesu o dan y Rheoliadau Cynefinoedd.
- Adroddiad Ymgynghoriad Cychwynnol – mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r modd y mae’r awdurdod wedi trefnu i aelodau’r cyhoedd gyfrannu ac ymgynghori ar y gwaith o baratoi fersiwn ddiwygiedig Cynllun Datblygu Lleol Eryri.
Sylwadau ar y Cynllun
Cliciwch isod i lawrlwytho crynodeb o’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori:
Crynodeb Swyddog o’r Sylwadau a dderbyniwyd ar y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2016-2031.
Mae copiau papur o’r crynodeb o’r cynrychioliadau ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio am ddim yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, mewn llyfrgelloedd yn Abermaw, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau, Penygroes, Tywyn, Porthmadog, Y Bala, Cerrigydrudion, Llanrwst, Llanfairfechan, Penmaenmawr, Conwy a Chanolfan Croeso ym Metws y Coed, yn ystod oriau agor arferol.
Mae copiau papur o’r holl gynrychioliadau gwreiddiol a dderbyniwyd ar Gynllun Datblygu Lleol Eryri 2016-2031, hefyd ar gael i’r cyhoedd eu gweld yn Swyddfa'r Awdurdod, ym Mhenrhyndeudraeth os y gofynnwch am gael eu gweld.
Dogfennau Cefnogol
Mae’r cyfan o’r dogfennau cefnogol sydd yn berthnasol i baratoi fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Datblygu Lleol Eryri wedi eu cynnwys isod. Cliciwch ar unrhyw un o’r dogfennau hyn i gael golwg arni.
Adroddiad Adolygu – Mae’r Adroddiad Adolygu yn egluro’r materion sydd wedi eu hystyried fel rhan o’r adolygiad, yn nodi’r diwygiadau sydd eu hangen a’u goblygiadau i weddill y cynllun. Mae hefyd yn nodi mai adolygiad ffurf fer yw’r ffordd fwyaf addas ymlaen.
Safleoedd ymgeisiol: *MAE’R COFRESTR HWN YN GOFRESTR O’R SAFLEOEDD SYDD WEDI EU CYFLWYNO I’R AWDURDOD GAN DDATBLYGWYR, TIRFEDDIANWYR, CYNGHORAU CYMUNED AC AELODAU O’R CYHOEDD YN UNIG, AR GYFER YSTYRIAETH YN YSTOD CYFNOD PARATOI’R CYNLLUN.
Papur Cefndir 1 – Amaeth, Arallgyfeirio Amaethyddol ac Economi Wledig
Papur Cefndir 2 – Arfordirol a Morol
Papur Cefndir 3 – Amgylchedd Hanesyddol
Papur Cefndir 4 – Asesiad o Dir Cyflogaeth
Papur Cefndir 5 – Ynni
Papur Cefndir 6 – Lletamau Gwyrdd
Papur Cefndir 7 – Tai
Papur Cefndir 7a – Tai
Papur Cefndir 8 – Tirwedd
Papur Cefndir 9 – Mwynau
Papur Cefndir 10 – Mannau Agored, Rhan 1, Rhan 2, Rhan 3, Rhan 4
Papur Cefndir 11 – Hamdden a Mynediad
Papur Cefndir 12 – Asesiad Mân-werthu
Papur Cefndir 13 – Astudiaeth Maint Anheddau
Papur Cefndir 14 – Strategaeth Datblygu Gofodol
Papur Cefndir 15 - Adroddiad Cyflwr y Parc
Papur Cefndir 16 – Twristiaeth
Papur Cefndir 17 – Cludiant & Rhwydweithiau
Papur Cefndir 18 - Astudiaeth Tai Fforddiadwy
Papur Cefndir 19 – Gwastraff
Papur Cefndir 20 – Yr Iaith Gymraeg
Papur Cefndir 21 – Parthau Dylanwad
Papur Cefndir 22 – Asesiad Ynni Adnewyddadwy
Papur Cefndir 23 – Papur yn amlinellu’r berthynas rhwng y Cynllun Datblygu Lleol a’r Nodau Llesiant
Papur Cefndir 24 – Asesiad Effaith Ieithyddol yr Iaith Gymraeg
Papur Cefndir 25 - Asesiad Effaith Cydraddoldeb
Papur Cefndir 26 – Asesiad Effaith Iechyd
Adroddiad Monitro Blynyddol
Isod mae linc i adroddiad Monitro Blynyddol 2017. Mae data y blynyddoedd blaenorol i gyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwn.