Cynllunio

Capel Curig a Llyn Mymbyr

Beddgelert

Mwynau a Gwastraff

Mineralau

Er bod ffin y Parc Cenedlaethol wedi’i llunio’n benodol i eithrio ardaloedd ble roedd cloddio a chwarelydda ar raddfa fawr yn digwydd, mae amrywiaeth o fwynau megis llechi, craig galed a metelau, yn cynnwys aur, copr a phlwm, wedi cael eu gweithio yn Eryri. Mae’n rhaid i’r galw am y deunyddiau hyn gael eu mesur yn erbyn yn angen i warchod Eryri, a mae polisi cenedlaethol fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru (PCC) (Argraffiad 10 Rhagfyr 2018) yn datgan y ni ddylai datblygiad mwynau ddigwydd o fewn Parc Cenedlaethol, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol. Felly mae’n rhaid i bob cais sydd a wnelo mwynau fod yn ddarostyngiedig i’r mesurau archwilio mwyaf llym a dylai pob datblygiad mwynau mawr ddangos eu bod er budd y cyhoedd cyn iddynt gael caniatâd i fynd yn eu blaen.

Chwarel Tonfannau

Chwarel Tonfannau (© APCE)

Gwastraff

Yr unig ffordd mae datblygu cynaladwy yn bosib yw os bydd deunyddiau ac adnoddau yn cael eu defnyddio yn gyfrifol. Gallwn gyflawni hyn drwy leihau’r gwastraff sydd yn cael eu gyrru i dirlenwi drwy ail-ddefnyddio, ail-gylchu ac adfer deunyddiau a ffynonellau egni. Er bod y gofyniad i Awdurdodau Lleol i weithio gyda’i gilydd i baratoi Cynlluniau Gwastraff RHanbarthol wedi dod i ben gyda chyhoeddiad yr NCT 21 diwygiedig yn 2014, mae’r dogfennau hyn yn cynnwys gwybodaeth gefndir ddefnyddiol, gan gynnwys Ardaloedd Chwilio Mapio sydd yn mynegi na fydd disgwyl i Barciau Cenedlaethol dderbyn safleoedd ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff ar raddfa rhanbaethol neu isranbarthol (byddai cyfleuster graddfa ranbarthol yn darparu gwasanaeth ar gyfer holl awdurdodau lleol gogledd Cymru, byddai cyfleuster isranbarthol yn darparu cyfleusterau ar gyfer grwpiau llai o awdurdodau lleol).