Angen trafod Mater Cynllunio yn y Parc Cenedlaethol
5 Tachwedd 2014
Mi fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnal Cymhorthfa Cynllunio ym Mart Dolgellau ar y 21ain o Dachwedd rhwng 10.00yb a 2.00yh.
Mi fydd swyddog cynllunio o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnal Cymhorthfa Cynllunio ym Marchnad Fermwyr Dolgellau ar y 21ain o Dachwedd rhwng 10.00yb a 2.00yh. Os oes gennych unrhyw fater cynllunio yr hoffech drafod, dewch i’n gweld, nid oes angen gwneud apwyntiad.

Marchnad Fermwyr Dolgellau (© APCE)