Adeiladau Rhestredig
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru lunio rhestr o adeiladau o ddiddordeb arbennig archeolegol neu hanesyddol. Defnyddir y rhestrau i gynorthwyo awdurdodau cynllunio i wneud penderfyniadau gyda diddordebau'r amgylchedd hanesyddol wedi'u hadnabod yn glir. Ymgymerir â'r gwaith o lunio'r rhestr gan Cadw, yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Las Ynys Fawr, Harlech (© APCE)
Sut mae'r rhestrau yn cael eu sefydlu?
Fel rheol mae adeiladau yn cael eu rhestru yn dilyn arolwg o'r ardal ond weithiau gall eiddo gael eu - 'rhestru ar hap' – os ydynt dan fygythiad datblygiad. Fe all adeilad gael ei restru yn dilyn rhybudd gan awdurdod cynllunio lleol.
Sut mae adeiladau yn cael eu dewis?
Asesir adeiladau gyferbyn â'r meini prawf a ganlyn:
- Diddordeb archeolegol: adeiladau sy'n bwysig i'r genedl oherwydd eu dyluniad archeolegol, addurniad a'u crefftwaith; a hefyd mathau penodol o adeiladau a dulliau (er enghraifft, adeiladau sy'n dangos arloesedd technolegol neu rinweddau) a ffurfiau cynllun arwyddocaol.
- Diddordeb hanesyddol: adeiladau sy'n dangos agweddau pwysig o hanes cymdeithasol, diwylliannol neu filwrol y genedl. * Cysylltiadau hanesyddol clos gyda phobl neu ddigwyddiadau o bwys i Gymru.
- Cysylltiadau hanesyddol clos gyda phobl neu ddigwyddiadau o bwys i Gymru.
- Gwerth grŵp: yn enwedig lle mae adeiladau'n cynnwys undod archeolegol neu hanesyddol neu esiampl dda iawn o gynllunio (er enghraifft, sgwariau, terasau neu bentrefi model).
Pa eitemau a restrir?
Mae rhestru'n berthnasol i du mewn a thu allan adeilad, unrhyw beth neu strwythur sy'n osodedig arno ac unrhyw strwythur o fewn ei gwrtil sy'n ffurfio rhan o'r tir a hynny ers cyn y 1af o Orffennaf 1948.
Beth yw'r graddfeydd a ddefnyddir?
Dosberthir adeiladau rhestredig mewn graddfeydd i ddangos eu pwysigrwydd perthynol. Y graddau yw:
I - Adeiladau o ddiddordeb eithriadol, yn genedlaethol fel rheol. Ar hyn o bryd, mae llai na dau y cant o adeiladau yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y raddfa hon.
II* - Adeiladau o bwysigrwydd arbennig gyda mwy nag un diddordeb arbennig iddynt.
II - Adeiladau o ddiddordeb arbennig, sy'n haeddu pob ymdrech i'w gwarchod.
Beth mae rhestru yn ei olygu yn ymarferol?
Yn ogystal â darparu cyfeirnod parod o adeiladau o bwysigrwydd i dreftadaeth y genedl, mae rhestru'n rhoi lefel ychwanegol o warchodaeth. Mae hyn ar ffurf trefn gynllunio arbennig a adwaenir fel caniatâd cynllunio. Mae'n drosedd cyflawni unrhyw waith (mewnol neu allanol) a fyddai'n effeithio ar gymeriad adeilad unwaith y bydd hwnnw wedi'i restru oni bai fod caniatâd adeilad rhestredig wedi cael ei dderbyn gan yr awdurdod cynllunio lleol. Mae gwaith cynnal a chadw rheolaidd neu atgyweirio tebyg am debyg, yn eithriedig, fel rheol o ran rheoliadau adeiladu. Gall eich awdurdod lleol roi arweiniad mewn unrhyw achos penodol ac fe ddylid ymgynghori â hwy cyn i unrhyw waith ddechrau. Am ragor o fanylion ynghylch gweithdrefnau adeiladau rhestredig, cyfeiriwch at lyfryn Cadw o dan Caniatâd Adeilad Rhestredig.
Efallai y bydd nifer cyfyngedig o adeiladau yn gymwys am grant gan Cadw i gynorthwyo gyda gwaith atgyweirio, ond nid yw hyn yn digwydd yn awtomatig. Mae'r meini prawf cymhwyso yn mynd y tu hwnt i feini prawf rhestru. Am fanylion ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael cyfeiriwch at daflen Cadw Grantiau Adeiladau Hanesyddol & Grantiau Ardaloedd Cadwraeth.
Pa wybodaeth sydd wedi'i gynnwys o fewn y rhestrau?
Mae'r rhestrau yn cynnwys disgrifiad o bob adeilad. Pwrpas hyn yn bennaf yw cynorthwyo i adnabod yr adeilad. Nid oes grym statudol iddo. Bydd y disgrifiad yn egluro pam fod yr adeilad wedi cael ei ddethol i'w restru ac yn cyfeirio at nodweddion pwysig. Nid yw absenoldeb unrhyw nodwedd o'r rhestr yn golygu nad yw o ddiddordeb nac ychwaith y gellid ei symud neu ei addasu heb ganiatâd. Mae pob cofnod yn y rhestr yn cynnwys y wybodaeth a ganlyn:
- Y stryd, enw neu rif yr adeilad;
- Ei radd;
- Rhif cyfeirnod a'r Cyfeirnod Grid Cenedlaethol;
- Disgrifiad byr o'r adeilad, hanes a materion eraill o ddiddordeb;
- Cyfeiriad, pan fo hynny'n berthnasol, at wybodaeth arall a gyhoeddwyd ynghylch yr adeilad a'i bwysigrwydd.
Beth yw swyddogaeth yr awdurdodau lleol wrth restru?
Ymgynghorir gyda'r awdurdod lleol cyn rhestru unrhyw adeilad ac fe'i gwahoddir i ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol fel caniatâd cynllunio sydd mewn bodolaeth. Pan gaiff adeilad ei restru, bydd Cadw'n hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol sy'n cyflwyno hysbysiad i'r perchennog a'r deiliad.
A oes modd apelio yn erbyn rhestru?
Nid oes unrhyw hawl statudol i apelio, ond dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol am adeilad ei hanfon at Cadw a gofyn i'r rhestriad gael ei ail ystyried. Dylid seilio apêl ar wybodaeth sy'n gysylltiedig â diddordeb pensaernïol neu hanesyddol yr adeilad ac nid ar effeithiau diogelwch statudol ar gynigion datblygu. Byddai ffactorau o'r fath yn briodol i gais am adeilad rhestredig.