Cynllunio

Dyffryn Ogwen

Beddgelert

Rhywogaethau a Warchodir a Rhywogaethau â Blaenoriaeth

Mae Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 4, Chwefror 2011) yn datgan:
““mae presenoldeb rhywogaethau sydd wedi’u diogelu o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd neu’r DU yn ystyriaeth berthnasol pan fo awdurdod cynllunio lleol yn ystyried cynnig datblygu a fyddai, pe bai’n cael ei dderbyn, yn debygol o darfu ar neu beri niwed i’r rhywogaethau neu eu cynefinoedd”.

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop yw’r planhigion a’r anifeiliaid hynny a ddiogelir gan y gyfraith o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r rhain yn cael eu rhestru yn Atodiadau II ac IV o Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop. Mae’r Gyfarwyddeb yn mynnu bod gwladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd yn diogelu’r rhywogaethau a restrir, a disgwylir iddynt ddynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer rhai rhywogaethau. Mae adar yn cael eu diogelu ar wahân o dan y Gyfarwyddeb Adar a dynodiad Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA).

Brown Hare

Y Sgwarnog Lepus europeaus (© Kieth O'Brien)

Y Grugiar Ddu

Black Grouse Tetrao tetrix (© Kieth O'Brien)

Serch hynny, mae nifer o rywogaethau nad ydynt yn Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop yn cael eu diogelu gan wladwriaethau unigol, er enghraifft, yn y Deyrnas Unedig, mae rhai rhywogaethau penodol yn cael eu diogelu gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Rhaid i unrhyw un sy’n cyflwyno cais cynllunio gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaethau statudol dros ddiogelu rhywogaethau sy’n effeithio ar y safle dan sylw, a dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) cyn rhoi caniatâd cynllunio.

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop yn berthnasol p’un a ydynt yn cael eu canfod ar safle a ddynodwyd ai peidio. Efallai y bydd angen arolwg ecolegol rhagarweiniol i gadarnhau a oes rhywogaeth a warchodir yn bresennol, ac asesiad o effaith debygol y datblygiad ar y rhywogaeth, er mwyn helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniad cynllunio.

Mae dyletswydd ar ACLl i ystyried gofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd wrth arfer eu swyddogaethau. Er mwyn rhoi caniatâd cynllunio am ddatblygiadau a fyddai’n amharu ar ddiogelu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, rhaid sicrhau rhanddirymiad ar ffurf trwydded gan Lywodraeth Cymru. Caniateir trwydded ddim ond pan nad oes dewis arall boddhaol yn lle’r datblygiad arfaethedig, ac os na fyddai’n amharu ar gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn ei chynefin naturiol. Rhaid i’r datblygiad, petai’n cael ei ganiatáu, gael ei wneud er mwyn cadw “iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, neu am resymau hanfodol eraill sy'n drech na budd y cyhoedd”, (IROPI) gan gynnwys rhai sydd o natur gymdeithasol neu economaidd a chanlyniadau buddiol sydd o bwysigrwydd sylfaenol i’r amgylchedd.

At hynny, mae Adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr i ystyried, wrth gynnal ei swyddogaethau, y diben o warchod bioamrywiaeth. Pwrpas allweddol y ddyletswydd hon yw sicrhau bod ystyried bioamrywiaeth yn rhan annatod o wneud penderfyniadau a llunio polisïau yn y sector cyhoeddus.

O dan y gofyniad yn adran 42 o’r Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o’r organebau byw (a’r mathau o gynefinoedd) sydd, ym marn y Llywodraeth, o’r pwys pennaf i’r diben o warchod bioamrywiaeth yng Nghymru.