Cynllunio

Dyffryn Ogwen

Beddgelert

Dynodiadau Cadwraeth Natur

Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl)

Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn cael eu dynodi gan Awdurdodau Lleol. Maent yn ardaloedd o nodweddion bywyd gwyllt neu ddaearegol o ddiddordeb lleol arbennig. Maent yn darparu cyfleoedd i astudio neu fwynhau natur.

Gwarchodfeydd Natur Lleol o Fewn, neu yn Rhannol yn, Eryri:

  • Nant y Coed (Rhan)

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNC)

Mae GNC yn cynnwys esiamplau o’r ecosystemau rhannol naturiol tiriogaethol ac arfordirol mwyaf pwysig ym Mhrydain. Maent yn cael eu rheoli i warchod eu cynefinoedd neu i ddarparu cyfleoedd arbennig ar gyfer astudiaeth wyddonol o gymunedau cynefinol a’r rhywogaethau a gyflwynir ynddynt.

Mae GNC yn cael eu datgan gan yr asiantaethau cadwraeth cefn gwlad statudol o dan y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949 a’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol o Fewn, neu yn Rhannol yn, Eryri:

  • Allt y Benglog
  • Berwyn (Rhan)
  • Cader Idris
  • Ceunant Cynfal
  • Ceunant Llennyrch
  • Coedydd Aber
  • Coed Cymerau
  • Coed Dolgarrog (Rhan)
  • Coed Ganllwyd
  • Coed Gorswen
  • Coedydd Maentwrog
  • Coed Rhygen
  • Coed Tremadog (Part)
  • Cwm Idwal
  • Cwm Glas Crafnant
  • Dyfi Estuary (Rhan)
  • Hafod Garregog
  • Morfa Dyffryn
  • Morfa Harlech
  • Rhinog
  • Yr Wyddfa

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (AoDdGA)

Mae’r gyfres AoDdGA wedi datblygu ers 1949 fel y swît cenedlaethol ar gyfer darparu diogelwch ar gyfer yr enghreifftiau gorau o fflora, ffawna neu nodweddion daearyddol neu ffisiograffigol yn y DG. Hefyd mae’r safleoedd hyn yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer dynodiadau cadwraeth natur cenedlaethol neu ryngwladol. Mae’r rhan fwyaf o AoDdGAu dan berchnogaeth neu reolaeth breifat; mae rhai eraill dan berchnogaeth neu yn cael eu rheoli gan gyrff cyhoeddus neu sefydliadau di-lywodraeth.

Wedi eu nodi yn wreiddiol o dan y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949, mae AoDdGAu wedi cael eu hail nodi o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Cafodd darpariaethau gwell ar gyfer diogelu a rheoli AoDdGAu eu cyflwyno gan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (yng Nghymru a Lloegr).

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o Fewn, neu yn Rhannol yn, Eryri:

  • Aber Mawddach/Mawddach Estuary
  • Aberdunant
  • Afon Conwy Pastures
  • Afon Dyfi ger Mallwyd
  • Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd
  • Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn
  • Amnodd-Bwll Stream Section
  • Arthog Hall Woods
  • Bedd y Coedwr and Tyddyn Gwladys River Sections
  • Berwyn
  • Broadwater
  • Chwarel Bryn Glas
  • Bryn y Gwin Isaf
  • Bryn-Llin-Fawr
  • Cadair Idris
  • Cae'r Felin
  • Caeau Bwlch
  • Caerau Uchaf
  • Castell Prysor
  • Chwarel Cefn Coch
  • Cefndeuddwr
  • Ceunant Aberderfel
  • Ceunant Cynfal
  • Ceunant Dulyn
  • Ceunant Llennyrch
  • Chwarel Cwm Hirnant
  • Chwareli Gelli-Grin
  • Clogwynygarreg
  • Coed Aber Artro
  • Coed Afon Pumryd
  • Coed Cae-awr
  • Coed Camlyn
  • Coed Cors y Gedol
  • Coed Dolgarrog
  • Coed Ganllwyd
  • Coed Gorswen
  • Coed Graig Uchaf
  • Coed Llechwedd
  • Coed Lletywalter
  • Coed Merchlyn
  • Coed Tremadog
  • Coed y Gofer
  • Coed y Rhygen
  • Coedydd Aber
  • Coedydd Abergwynant
  • Coedydd Beddgelert a Cheunant Aberglaslyn
  • Coedydd Dyffryn Ffestiniog (Gogleddol)
  • Coedydd Dyffryn Wnion
  • Coedydd Nanmor
  • Coedydd Nantgwynant
  • Cors Barfog
  • Cors Geuallt
  • Cors Graianog
  • Cors y Sarnau
  • Craig y Benglog
  • Craig yr Aderyn (Bird's Rock)
  • Craig-y-Don
  • Craig-y-Garn
  • Cregennen a Pared y Cefn Hir
  • Cutiau
  • Cwm Cynfal
  • Cwm Dwythwch
  • Dolorgan Barn
  • Dyfi
  • Eidda Pastures
  • Eryri
  • Fairy Glen Woods
  • Ffriddoedd Garndolbenmaen
  • Foel Gron Stream Sections
  • Foel Ispri
  • Gwaith Copr Glasdir
  • Glaslyn
  • Glyn Cywarch
  • Glynllifon
  • Cors Copr Hermon
  • Llafar River Section
  • Llwyn-Iarth
  • Llyn Bychan
  • Llyn Goddionduon
  • Llyn Gwernan
  • Llyn Tegid
  • Llyn Ty'n y Mynydd
  • Llynnau Bodgynydd
  • Maes Meillion a Gefail-y-Cwm
  • Migneint-Arenig-Dduallt
  • Moel Hebog
  • Moelwyn Mawr
  • Morfa Dyffryn
  • Morfa Harlech
  • Mosshill
  • Mwyngloddia Wnion a Eglwys Sant Marc
  • Mwyngloddiau a Chreigiau Gwydyr
  • Mwyngloddiau Llanfrothen
  • Ogof Ddu
  • Pandora Reservoirs
  • Pant y Panel
  • Parc Dolmelynllyn a Glasdir
  • Penmaenuchaf Hall
  • Pont Bancog
  • Rhinog
  • Sychnant Pass
  • Trychiad Ffordd Craig Fach
  • Trychiad Ffordd Moel Hafod Owen
  • Yr Arddu

Safleoedd Ramsar

Dynodir safleoedd Ramsar o dan y Confensiwn ar Wlypdiroedd o Bwysigrwydd Cenedlaethol, a gytunwyd yn Ramsar, Iran, yn 1971. Y bwriad gwreiddiol oedd diogelu safleoedd o bwys fel cynefinoedd adar dŵr, mae’r Confensiwn wedi ehangu ei gwmpas a’i ddefnydd doeth, gan gydnabod gwlypdiroedd ac ecosystemau sy’n bwysig iawn ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yn gyffredinol ac er lles cymunedau dynol.

Mae’r Confensiwn yn mabwysiadu diffiniad eang o wlypdir, sef, "meysydd corsiog, ffen, mawndir neu ddŵr, boed yn naturiol neu’n artiffisial, yn barhaol neu dros dro, gyda dŵr sy’n statig neu’n rhedeg, yn ffres, yn hallt, neu gan gynnwys ardaloedd sy’n ddyfnder dŵr morol lle nad yw’n mesur llai na chwe medr ar lanw isel ". Gall gwlypdiroedd “ymgorffori parthau dyfrol neu arfordirol gerllaw gwlypdiroedd, ac ynysoedd neu gyrff o ddŵr morol sy’n ddyfnach na chwe medr ar lanw isel o fewn gwlypdiroedd ".

Safleoddd Ramsar Sites o Fewn, neu yn Rhannol yn, Eryri:

  • Afon Dyfi – Cors Fochno (Rhan)
  • Llyn Idwal
  • Llyn Tegid

Ardaloedd o Warchodaeth Arbennig (AWA)

Mae AWA yn cael eu dosbarthu gan Lywodraeth y DG o dan y Cyfarwyddyd Adar CE. AWA yw’r cynefinoedd mwyaf pwysig am adar prin ymfudol (a restrir ar Atodiad I o’r Cyfarwyddyd) ac adar mudol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae AWAu mewn mannau tiriogaethol a dyfroedd morol tiriogaethol allan 200 o filltiroedd morol yn cael eu dosbarthu o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Ardaloedd o Warchodaeth Arbennig o Fewn, neu yn Rhannol yn, Eryri:

  • Afon Dyfi (Rhan)
  • Berwyn (Rhan)
  • Craig yr Aderyn
  • Migneint Arenig Dduallt

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)

Mae ACAu yn cael eu dynodi o dan Gyfarwyddyd Cynefinoedd CE. Mae ACA yn ardaloedd sydd wedi cael eu hadnabod fel lleoedd sy’n cynrychioli’r ystod ac amrywiaeth orau o fewn yr UE o gynefinoedd a rhywogaethau (ddim adar) a restrir yn Atodiadau I a II o’r Cyfarwyddyd. Mae ACAu mewn mannau tiriogaethol a dyfroedd morol tiriogaethol allan 200 o filltiroedd morol yn cael eu dosbarthu o dan y Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) Rheoliadau 1994 (fel y’i diwygiwyd).

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig o Fewn, neu yn Rhannol yn, Eryri:

  • Afon Dyfrdwy and Llyn Tegid (Rhan)
  • Glynllifon (Rhan)
  • Rhinog
  • Morfa Dyffryn & Morfa Harlech
  • Afon Eden - Cors Goch
  • Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn (Rhan)
  • Berwyn
  • Cadair Idris
  • Coedydd Aber
  • Coedydd Derw a Ystlumod Meirion
  • Corsydd Eifionydd (Rhan)
  • Eryri (Rhan)
  • Migneint - Arenig - Dduallt
  • Mwyngloddiau Fforest Gwydir (Rhan)
  • Pen Llyn a'r Sarnau

Source: www.jncc.gov.uk

Natura 2000

Natura 2000 yw’r enw ar y rhwydwaith ar draws yr Undeb Ewropeaidd o safleoedd cadwraeth natur a sefydlwyd o dan Erthyglau 3 – 9 o Gyfarwyddyd 2/43/EEC ar Gadwraeth Cynefinoedd naturiol a Ffawna a Fflora Gwyllt – y ‘Cyfarwyddyd Cynefinoedd’. Bydd y rhwydwaith yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAu) ac Ardaloedd Arbennig a Ddiogelir (AADd).