Gofalu

Coed Cymysg

alt=Parc Cenedlaethol Eryri

Adfer a Rheoli

Mae'r prosiect yn cynnal rhaglen fawr o waith i adfer mawndiroedd ledled Cymru. Mae cyfran fawr o'r 90,000 hectar o bridd mawn a geir yng Nghymru mewn cyflwr anffafriol, felly mae prosiect Mawndiroedd Cymru yn gweithio gyda llu o sefydliadau cadwraeth, tirfeddianwyr a chontractwyr medrus i fynd i'r afael â'r mawndiroedd hyn. Gyda'n gilydd rydym wedi bod yn gweithio ar fawndiroedd ledled y wlad i weithredu'n gadarnhaol ar lawr gwlad.

Bydd y gwaith hwn yn helpu i osod y cynefinoedd hyn ar y trywydd tuag at fod mewn cyflwr da, gan ddarparu ystod o fuddion pwysig i gymdeithas a'r amgylchedd. Mae mawndiroedd iach yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd trwy storio llawer iawn o garbon. Maent hefyd yn hidlo ein dŵr, yn helpu i leihau risg o lifogydd, ac yn darparu cartrefi ar gyfer bywyd gwyllt prin ac unigryw.

Dyma ychydig o enghreifftiau o'r hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud:

Cloi carbon

Mae mawn agored yn rhyddhau llawer iawn o garbon: mae'n cael ei sychu gan yr haul, ei olchi i ffwrdd gan y glaw a'i erydu gan y rhew. Mae mawn i fod yn wlyb - mae'n ffurfio o dan amodau anaerobig (dim ocsigen) ac felly dim ond dadelfennu'n rhannol fydd yn ei wneud. Cyn gynted ag y bydd yn sychu ac yn cyflwyno ocsigen i'r system, mae'r mawn yn cael ei ddadelfennu gan ficro-organebau, gan ryddhau nwyon tŷ gwydr. Mae erydiad dŵr a rhew hefyd yn arwain at golledion carbon i gyrsiau dŵr, gyda goblygiadau ar gyfer costau trin dŵr.

Yn y prosiect hwn hyd yn hyn, mae dros 5000 metr o 'fignenni' mawn sy'n erydu (cloddiau fertigol o fawn noeth) ar fynyddoedd y Carneddau, a 7000 metr arall ym Mannau Brycheiniog wedi'u hail-broffilio ac fe ail gyflwynwyd llystyfiant yno i leihau erydiad a chadw'r carbon wedi'i gloi yn y ddaear.

Arafu'r llif

Mae llawer o fawndiroedd yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU wedi cael eu draenio'n artiffisial, yn bennaf yng nghanol yr 20fed ganrif mewn ymateb i'r galw amaethyddol a choedwigaeth. Mae draeniad helaeth yn sychu cyrff mawn trwy ostwng y lefel trwythiad, a gall arwain at ddŵr ffo dalgylch mwy ‘fflachlyd’ ac erydiad rhwydweithiau draenio naturiol (‘ffosdyllau’) yn ardaloedd yr ucheldir. Gall ffosydd draenio ag ochrau serth hefyd fod yn risg i ddiogelwch da byw.

Rydym yn gwrthdroi effeithiau draenio artiffisial gan ddefnyddio ystod o dechnegau a fydd yn helpu i sefydlogi byrddau dŵr a chynnal amodau dirlawn (llawn dŵr), sy'n ffurfio mawn. Dyma rai o’r pethau rydyn ni wedi’u gwneud i ‘arafu’r llif’ ar ein mawndiroedd:

  • Mae muriau arafu mawnog (peat “baffles”) wedi cael eu creu ar hyd bron i 6000 metr o ffosdyllau ar Fynyddoedd y Carneddau, a thua 500m o ffosdyllau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Argaeau bach yw ffosdyllau sy'n ymestyn yn rhannol ar draws ffosdyllau, gan beri i'r dŵr droelli i lawr y sianeli naturiol hyn. Trwy wneud hyn, maent yn arafu llif y dŵr ac yn lleihau erydiad rhwydweithiau draenio.
  • Mae 1100 metr o 'fyndiau' cyfuchlin lefel isel wedi’u hadeiladu ar gors uchel ar iseldir aber yr afon Dyfi, trwy weithio gyda'r RSPB i adfer cynefin hanfodol. Mae byndiau yn ffosydd wedi'u cloddio sy'n cael eu hail-bacio a'u codi â mawn gwlyb i greu sêl ar hyd llinell gyfuchlin allanol cromen y gors, gan atal colli dŵr.
  • Gosodwyd tunnell o fyrnau grug gan wirfoddolwyr gweithgar ar benwythnos ‘Gwneud Gwahaniaeth’ 2019 Cymdeithas Eryri, gan greu argaeau i ail-wlychu ardal o gors flanced ar y Migneint yn Eryri.

Muriau arafu mawnog ar y Carneddau

'Bynd' Covert Coch

Rheoli llystyfiant

Mae mawndiroedd yn elwa o lefelau pori ysgafn, sy'n helpu i gadw golwg ar rywogaethau goresgynnol fel grug a glaswellt porffor (Molinia), gan ganiatáu ar gyfer cymuned o lystyfiant naturiol amrywiol sy'n gynefin gwych i rywogaethau adar, mamaliaid a phryfed pwysig. Gall pori hefyd gefnogi'r broses adfer trwy atal ailsefydlu coed neu brysgwydd ar safleoedd a adnewyddwyd yn ddiweddar neu a adferwyd.

Gwartheg ar y Berwyn

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod planhigfeydd conwydd yn meddiannu 10% o ardaloedd mawn dwfn, a phlannwyd llawer ohonynt yn y 1970au a'r 80au ar gyfer pren masnachol. Er bod plannu coed yn bwysig i'r amgylchedd ac i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ystyrir yn gyffredinol bod buddion amgylcheddol plannu mawn dwfn yn cael eu gorbwyso gan y difrod a achosir i storfeydd carbon mawndir a hydroleg.

Dyma rai o'r pethau rydyn ni wedi'u gwneud i reoli llystyfiant ar fawndiroedd:

  • Mae 10,000 o goed conwydd wedi cael eu cwympo neu eu tynnu o safleoedd mawn dwfn ar draws Parc Cenedlaethol Eryri er mwyn atal y coed rhag sychu'r mawn a rhyddhau tunelli o garbon wedi'i storio.
  • Mae pori gwartheg ar gyfradd lefel isel wedi cael ei gyflwyno ar 85 hectar o fawndir ledled Cymru, gan weithio gyda thirfeddianwyr preifat a phorwyr i reoli Molinia ac ail-gynhyrchu conwydd, a chefnogi cytrefiad llystyfiant naturiol sy'n ffurfio mawn.
  • Mae 10 hectar o lystyfiant prysgwydd wedi’i dynnu o fawndir iseldir yn Llyn Llech Owain, gan weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i helpu i adfer llystyfiant naturiol y mawndir.

Oeddech chi'n gwybod y gall adfer mawndir arwain at ollyngiadau mesuradwy mewn allyriadau a all gael eu gwerthu ar y farchnad garbon wirfoddol? Ewch i weld ein tudalen Cynlluniau Carbon am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â ni.