Gwirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i gyfarfod pobl, dysgu sgiliau newydd a helpu i warchod yr hyn sy’n gwneud Eryri yn le mor arbennig.
Beth bynnag yw eich diddordebau mae lle i chi yma i roi help llaw i ni. Nid ni fydd yr unig rai i gael budd o’ch gwaith gwirfoddol. Byddwch chithau’n elwa hefyd - sgiliau newydd a chael profiadau defnyddiol, dysgu mwy am Eryri, cyfarfod ffrindiau, ymarfer corff a’r boddhad o wybod eich bod yn gwneud rhywbeth i helpu.
Fel un o’n gwirfoddolwyr byddwch yn ein cynorthwyo i weithredu ein pwrpasau sef:
- gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal;
- hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig
- meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau
Gallwch fod yn hyderus y byddwch yn:
- ymwneud â gwaith sy’n helpu eraill i fwynhau a chael budd o’r Parc Cenedlaethol.
- cael hyfforddiant ac offer angenrheidiol
- gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr eraill a staff yr Awdurdod
- cael eich gwarchod gan reoliadau iechyd a diogelwch yr Awdurdod
- cael costau teithio yn unol ag Egwyddorion Gwirfoddoli’r Awdurdod

Gwirfoddoli a phriosect Google Trekker (© APCE)

Rheoli Jac y Neidiwr gyda Wardeiniaid y Bala (© APCE)
Dyma rai o’r cyfleoedd sydd i wirfoddoli hefo’r Awdurdod.
Plas Tan y Bwlch
- Dod yn aelod o Gyfeillion Plas Tan y Bwlch
- Garddio
- Helpu yn y caffi
Yr Ysgwrn
- Gweithio yn yr ardd
- Gweithio yn y caffi
- Arwain ymwelwyr o amgylch y tŷ ac/neu o amgylch y fferm
- Croesawu ymwelwyr
- Gyrru cerbyd yr Ysgwrn
- Glanhau adeiladau
- Gwaith cadwraeth – glanhau celfi a chreiriau
- Ymchwilio i hanes yr Ysgwrn
Wardeiniaid/ Mynediad
- Wardeiniaid yr Wyddfa
- Gwaith cynnal a chadw llwybrau
- Wardeiniaid ifanc
- Arolygu llwybrau
- Arolygon Twristiaeth
- Arwain teithiau cerdded
- Tywys pobl gyda nam ar y golwg ar deithiau cerdded
- Helpu hefo canolfan wybodaeth ym Mlwch Signal yn Llyn Penmaen
- Casglu sbwriel
- Chwalu carneddau di-angen ar y mynyddoedd
Adran Cadwraeth, Coed ac Amaeth
- Rheoli rhywogaethau ymledol e.e. Jac y Neidiwr
- Defnyddio ‘ap’ i fapio planhigion ymledol.
- Arolygon bioamrywiaeth
- Mesur Awyr Dywyll

Adfer gerddi Plas Tan y Bwlch (© APCE)

Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa (© APCE)
Gwybodaeth bellach
Gellir llenwi cais trwy glicio ar y ddolen isod neu trwy sganio'r côd QR:
Ffurflen Gais Gwirfoddoli
Am fwy o wybodaeth am wirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri cysylltwch â ni ar 01766 770 274
parc@eryri.llyw.cymruMae Cymdeithas Eryri yn cynnig llawer o gyfleoedd gwirfoddoli hefyd - ceir rhagor o wybodaeth ar eu gwefan https://www.snowdonia-society.org.uk/cy/gwirfoddoli/