Twristiaeth
Ffigurau Pennawd Steam 2015
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ymfalchïo ei bod yn rhan arbennig o'r wlad lle mae pobl yn dod i ymlacio a mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden mewn amgylchedd ysblennydd. Mae twristiaeth a hamdden wedi dod yn un o'r prif gyfranwyr at yr economi a chyflogaeth o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r ddau yn agweddau hanfodol o'r dyfodol ar gyfer economi a lles y Parc.
Gwariant Twristiaid
Yn ôl y ffigurau STEAM 2015 (a gynhyrchwyd ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri), cyfanswm y gwariant twristiaid oedd £475.69 miliwn (prisiau mynegai).
Mae'r ffigwr hwn wedi cynyddu'n sylweddol ers 2012, er bod y ffigur 2015 yn is na'r lefel brig o £493m a welwyd yn 2011. Gwelwyd gostyngiad yn 2012; tuedd a welir hefyd yn y setiau data penodol twristiaeth eraill yn y rhan hon. Gallai rhesymau posibl am y gostyngiad cyflym gynnwys y ffaith bod mis Ebrill a mis Mehefin 2012 ymysg y misoedd gwlypaf ers i gofnodion ddechrau, gyda llifogydd led led Cymru yn ystod mis Mehefin. Yn ogystal, roedd mis Gorffennaf yn is o ran lefelau cyfartalog o heulwen a lefelau uwch na'r cyfartaledd o law.
Roedd cynnydd bychan (5.5%) yng ngwariant ymwelwyr rhwng 2014 a 2015.
Gwariant twristiaid yn ôl Categori
Mae’r siart isod yn rhoi dadansoddiad o wariant twristiaid ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae’n dangos mai’r sector dwristiaeth fwyaf gwerthfawr yw’r sector siopa. Canlyniad hyn oedd gwariant o tua £105 miliwn yn 2015, a oedd yn gynnydd o 4.8% o ffigyrau 2014.
Mae’r dadansoddiad o gategorïau gwariant o fewn y Parc Cenedlaethol ar gyfer 2015 yn cael ei ddangos isod.
Categori | Gwir gyfanswm (£ miliwn) | Cynnydd / Gostyngiad o 2014 |
---|---|---|
Gwariant anuniongyrchol | £121.7 miliwn | +5.1% |
Siopa | £105.35 miliwn | +4.8% |
Bwyd & Diod | £73.7 miliwn | +5.8% |
TAW | £59.0 miliwn | +5.6% |
Llety | £50.1 miliwn | +2.1% |
Cludiant | £37.1 miliwn | +7.9% |
Hamdden | £28.7 miliwn | +11.9% |
Er nad y sector hamdden oedd y sector gros uchaf, fe welwyd y twf canrannol uchaf rhwng ei lefelau perthnasol yn 2014 a 2015 gyda chynnydd o 11.9%. Byddai’n rhesymau posibl am hyn yn gallu bod yn sgil y cynnydd mewn lefelau o weithgareddau hamddena ar gael sydd ar gael bellach i dwristiaid yn ac o gwmpas y Parc (er enghraifft Bounce Below, Zip World, Tree Top Adventures, Surf Snowdonia, llwybrau beicio mynydd newydd ayyb).