Cyflwr yr Parc

Dolgellau

alt=Yr olygfa o Gopa'r Wyddfa

Tai

Ail Dai a Prisiau Tai a Werthwyd

Yn ôl data a dderbyniwyd o Gronfa Ddata Prisiau a Dalwyd y Gorfrestrfa Tir, gwerthwyd 413 o dai ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn 2016.

Categoriau Tai a Werthwyd 2016

Nifer
Nifer a werthwyd413
Nifer o dai 'sengl' a werthwyd162
Nifer o dai 'pâr' a werthwyd78
Nifer o 'fflatiau' a werthwyd13
Nifer o dai 'teras' a werthwyd138
Arall22

Roedd hyn ychydig yn uwch na’r ffigwr a welwyd yn 2015 sef 406. Pris tŷ ar gyfartaledd yn 2016 oedd £178,331, tra’r cyfartaledd ar gyfer 2015 oedd £174,931

Categoriau Tai a Werthwyd 2015

Nifer
Nifer a werthwyd406
Nifer o dai 'sengl' a werthwyd182
Nifer o dai 'pâr' a werthwyd78
Nifer o 'fflatiau' a werthwyd13
Nifer o dai 'teras' a werthwyd120
Arall3

Roedd ardal deheuol y Parc (ardal sydd yn cynnwys Llangelynin, Bryn-crug / Llanfihangel, Corris/Mawddwy, Tywyn, Aberdyfi) â’r cyfartaledd pris tai a werthwyd uchaf o fewn y Parc yn 2016 a hynny’n £217,177. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd ar gyfer yr ru’n un ardal yn 2015, sef £184,554.

Fforddiadwyedd

Asesiad Lles PSB Gwynedd a Môn 2017

Mae canolrif pris eiddo Gwynedd o £144,000 ychydig yn uwch na chanolrif Cymru, sydd yn £141,000. Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Ngwynedd yn £22,240, ond mae angen £27,714 er mwyn fforddio eiddo ar bris lefel mynediad y farchnad. Mae hyn yn golygu fod 60% o aelwydydd wedi eu prisio allan o’r farchnad. Mae’r canran yn amrywio o le i le, o’r canran uchaf ym Mhen Llyn, ble mae 73% wedi eu prisio allan o’r farchnad, i’r isaf yn Ffestiniog sydd yn 42%.

Asesiad Llesiant Lleol 2017 – PSB Conwy a Sir Ddinbych

Ym mis Ebrill 2016, y pris cyfartalog ar gyfer ty yng Nghonwy oedd £145,450. Mae hyn yn 6.1 gwaith yr incwm cartref cyfartalog o £23,750. Mae hyn yn awgrymu bod cael mynediad i’r farchnad dai fel perchennog cartref allan o gyrraedd yr aelwyd cyffredin.

Cyd Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai Parc Cenedlaethol Eryri

BlwyddynNifer a gwblhawydUnedau fforddiadwy (Rhan o'r cyfanswm)
2012/135737
2013/142810
2014/155827
2015/16183
2016/17209

Fel y gwelir o’r tabl uchod mae nifer y tai a gwblhawyd yn y Parc Cenedlaethol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly mae’n anodd penderfynu ar un duedd penodol. Mae’r nifer isel o unedau fforddiadwy a gwblhawyd rhwng 2015 a 2017 yn adlewyrchu’r nifer isel o dai a gwblhawyd o fewn yr ru’n cyfnod. Rhesymau posib am y nifer isel o dai a gwblhawyd yw yr amgylchedd fenthyca anodd a’r gostyngiad graddol parhaol yn y grant tai cymdeithasol. Mae’r Awdurdod yn monitro Cynllun Datblygu Lleol Eryri yn flynyddol ac yn y broses o adolygu’r polisïau tai i sicrhau bod digon o dir ar gael i’w ddatblygu.

Perchnogaeth

 EryriArfordir PenfroBannau BrycheiniogCymru
Pob categori: Perchnogaeth11,94410,22714,5791,302,676
Yn berchen arno: Perchnogaeth cyfan gwbl49.6%48.6%44.4%35.4%
Yn berchen arno: Perchnogaeth gyda morgais neu fenthyciad22.7%22.7%26.3%32.0%
Cynllun rhan-berchnogaeth (yn berchen arno'n rhannol ac yn ei rentu'n rhannol0.4%0.3%0.3%0.3%
Llety cymdeithasol a rentir: Ei rentu gan y cyngor (Awdurdod Lleol)4.9%8.2%8.0%9.8%
Llety cymdeithasol a rentir: Arall6.3%3.2%5.7%6.6%
Llety preifat a rentir: Landlord preifat neu asiantaeth gosod tai10.9%12.3%10.7%12.7%
Llety preifat a rentir: Arall2.3%2.0%2.4%1.5%
Byw yn ddi rhent2.8%2.7%2.1%1.6%

Parc Cenedlaethol Eryri oedd â’r canran uchaf o aelwydydd oedd a pherchogaeth cyfan gwbl (49.6%). Roedd hyn ychydig yn fwy na Penfro ond yn sylweddol uwch na’r ganran genedlaethol o 35.4%

Roedd Parciau Cenedlaethol Cymru i gyd o dan y cyfartaledd cenedlaethol o 9.8% yn nhermau aelwydydd a rentwyd gan awdurdodau lleol perthnasol. Roedd Parc Cenedlaethol Eryri yn llawer iawn îs gyda dim ond 4.9% o gartrefi yn rai a rentwyd gan yr Awdurdodau lleol.