Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Thir Mynediad
Mae mynediad i gefn gwlad yn ffactor pwysig wrth gynnal iechyd a lles pobl. Mae'r Parc Cenedlaethol yn darparu hygyrchedd trwy ei dirweddau mynyddig, coetiroedd, dŵr a thirweddau arfordirol i'r cyhoedd, drwy rwydwaith helaeth o Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC), 'Tir Mynediad' CGaHT a llwybrau eraill. Mae'r nodweddion hyn yn hwyluso mynediad i weithgareddau hamdden eraill yn y Parc, er enghraifft beicio, marchogaeth, chwaraeon dŵr, dringo, cael picnic ac ati, a hefyd rhwng aneddiadau. Mae'r defnydd a wneir o'r rhwydwaith hwn o lwybrau troed ac ati yn amrywio gyda’r ardal leol a'r tymor.
Hyd yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn y Parc Cenedlaethol | 2,742.6km |
Hyd y llwybrau hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn | 22.3km |
Cyflwynodd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) hawl newydd i bobl gerdded yn rhydd dros 'Dir Mynediad' (hynny yw, ardaloedd o gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig) yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys ardaloedd wedi'u mapio o fynydd, gweundir, rhostir (a ddiffinnir gyda'i gilydd yn 'cefn gwlad agored') a thir comin cofrestredig, pan nad oedd mynediad at lawr ohono ynghynt. Mae Adran 16 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer cynllun ymroddiad gwirfoddol, gan ganiatáu tirfeddianwyr i neilltuo mynediad statudol i unrhyw gategori arall o dir am byth. Drwy'r mecanwaith hwn, ers 1999, mae cynigion wedi cael eu gwneud gan y Comisiwn Coedwigaeth i neilltuo hawliau mynediad cyhoeddus i'r rhan fwyaf o goetiroedd rhydd-ddaliadol sy'n eiddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn Eryri, mae ardaloedd mawr o dir yn draddodiadol hygyrch i'r cyhoedd trwy gyfrwng cytundebau mynediad rhwng tirfeddianwyr ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Estynnodd y Ddeddf CGaHT fynediad cyhoeddus sylweddol ar draws y parc cenedlaethol, gyda dynodiad 'Cefn Gwlad Agored', 'Tir Comin Cofrestredig' a hefyd coedwigoedd. Mae'r data hwn yn cael ei gyflwyno isod:
Ardal y Parc Cenedlaethol a ddiffinnir fel cefn gwlad agored | 84,697ha |
Ardal Tir Comin Cofrestredig gyda mynediad | 21,958ha |
Ardal Tir Comisiwn Coedwigaeth gyda mynediad | 20,987ha |
Cyfanswm mynediad wedi ei sicrhau o dan y Ddeddf CGaHT | 127,642ha |
Canran ardal y Parc Cenedlaethol gyda mynediad CGaHT | 59.86% |