SPAs
Mae Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) yn safleoedd a warchodir yn llym yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb yr UE ar gadwraeth adar gwyllt, a elwir hefyd yn Y Gyfarwyddeb Adar, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 1979. Maent yn cael eu dynodi ar gyfer adar prin a bregus, a restrir yn Atodiad I o'r Gyfarwyddeb Adar, ac ar gyfer rhywogaethau mudol rheolaidd.
Yn 2013 roedd 17 o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig dosbarthedig yn gyfan gwbl o fewn Cymru (sy'n cwmpasu 123,058 ha). O'r rhain, mae 4 wedi eu lleoli o fewn Eryri sef cyfanswm o 24,301.5ha.

SPA fewn Parc Cenedlaethol Eryri