Cyflwr yr Parc

Coedwigaeth

alt=Yr olygfa o Gopa'r Wyddfa

Coetiroedd

Hyd a lled y Gorchudd Coetiroedd

Cymru yw un o'r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop gydag amcangyfrif o ardal goetir o 303,500ha ar 31 Mawrth 2010. Mae hyn yn 14.3% o gyfanswm arwynebedd y tir o'i gymharu â chyfartaledd yr UE o 37% y cant. Cyfoeth Naturiol Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n rheoli 37% o'r coetir yng Nghymru, sy'n cyfateb i 114,000 hectar. Mae 190,000 ha pellach mewn perchnogaeth breifat.

Mae’r pren o goetiroedd conwydd Cymru yn cael ei ddefnyddio yn bennaf mewn adeiladu, ffensio a phecynnu.

Mae’r gorchudd coetir ym Mharc Cenedlaethol Eryri tua 18%, sy'n cyfateb i tua 38,000ha (12.5% o orchudd coetir Cymru). Er y byddai ardaloedd helaeth o Eryri unwaith wedi bod yn goedwigoedd o goed llydanddail brodorol, mae gweithrediadau dynol wedi gostwng hyn dros sawl mileniwm, fel mai dim ond tua 5% o orchudd coetir y Parc Cenedlaethol sydd bellach yn goetiroedd brodorol, yn cyfateb i (11,000ha).

Mae'r Rhestr o Goetiroedd Hynafol (AWI) yn nodi coetiroedd a fu â gorchudd coetir di- dor ers rhai canrifoedd. Dengys astudiaethau fod y coetiroedd hyn fel arfer yn fwy bioamrywiol ac o werth cadwraeth natur uwch na'r rhai a ddatblygwyd yn ddiweddar neu'r rhai lle bu gorchudd coetir ar y safle yn ysbeidiol. Gall y coetiroedd hyn hefyd fod yn bwysig yn ddiwylliannol. Mae'r rhestr newydd sydd wedi’i diweddaru (AWI 2011) yn dangos bod yna tua 95,000ha o goetiroedd hynafol yng Nghymru.

  • Coetir Hynafol Lled-naturiol (ASNW) – coetiroedd llydanddail yn cynnwys rhywogaethau o goed a llwyni brodorol yn bennaf, y credir eu bod wedi bod mewn bodolaeth ers dros 400 mlynedd
  • Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) – safleoedd y credir eu bod wedi bod yn goediog yn barhaus ers dros 400 mlynedd ac sydd ar hyn o bryd â gorchudd canopi o fwy na 50% o rywogaethau coed conwydd anfrodorol
  • Safleoedd Coetir Hynafol wedi’u Hadfer (RAWS) – coetiroedd sydd yn goed llydanddail yn bennaf yn awr, y credir eu bod wedi bod yn goediog yn barhaus ers dros 400 mlynedd. Bydd y coetiroedd hyn wedi mynd drwy gyfnod pan yr oedd y gorchudd canopi yn fwy na 50% o rywogaethau coed conwydd anfrodorol ond sydd yn awr â gorchudd canopi o fwy na 50% o goed llydanddail9
  • Safle Coetir Hynafol o Gategori Anhysbys (AWSU) – coetiroedd a all fod yn ASNW, RAWS neu PAWS. Mae'r ardaloedd hyn yn bennaf yn y cyfnod pontio ac mae’r gorchudd coed presennol yn cael ei ddisgrifio fel 'llwyni', 'coed ifanc', 'coed wedi’u torri' neu 'dir a baratowyd ar gyfer plannu'.
Categori Cymru (ha) Eryri (ha)
  Coetir hynafol a safle o gategori anhysbys 713.4 5444.1
  Coetir hynafol lled-naturiol 41,786.53 3854.37
  Planhigfa ar safle coetir hynafol 25,748.89 3033.07
  Coetir hynafol wedi’i adfer 21,961.58 1986.66
  Cyfanswm 94,941.10 9,578.50

Amcangyfrifir bod dal a storio carbon ar hyn o bryd gan goed yng Nghymru yn dod i tua 1.42 Mt yn flynyddol (tua.3.8% o gyfanswm yr allyriadau carbon deuocsid) ac mae’r Cod Carbon Coetiroedd yn helpu i wella hyn. Mae statws Cymru fel suddfan net ar gyfer carbon yn ganlyniad i ddigwyddiadau isel o newid defnydd tir ac adnodd coedwig gymharol ifanc.

    Coniffer     Llydanddail   Cyfanswm
  Coesynnau Arall Cyfanswm Coesynnau Arall Cyfanswm  
  Prydain Fawr 189 51 340 109 136 245 534
  Cymru 23 18 41 14 17 31 72

Data o McKay et al, (2003) a gyfrifwyd gan dybio fod 50% o'r biomas yn C; yn eithrio gwreiddiau mân a deiliant llydanddail (collddail tybiedig); yn eithrio coedwigoedd sydd mewn eiddo preifat <2ha.

Crynodeb o stociau carbon (MtCO2) mewn biomas coed sy’n sefyll mewn coetiroedd ym Mhrydain Fawr a Chymru.

Ni chyhoeddwyd ffigyrau ar wahân ar gyfer y stoc carbon mewn coed yn y Parc Cenedlaethol; fodd bynnag, fel man cychwyn, gellir gwneud brasamcan yn seiliedig ar ddau gyfrifiad, yn gyntaf y dosraniad (12.5%) o gyfanswm Cymru o 72 MtCO2 i Eryri ac yna cymhwyso'r ffigyrau amcangyfrifiedig o 300 a 500 tCO2ha-1 yn y drefn honno ar gyfer lleiniau sbriws Sitka a derw i’r c27,000 ha o blanhigfeydd sbriws Sitka a c11,000 o goetiroedd derw yn y Parc Cenedlaethol.10

Byddai stociau carbon amcangyfrifiedig ym miomas coetiroedd Eryri o fewn yr ystod 9 – 13.6 MtCO2

Amcangyfrif o gydrannau a chyfrannau stociau mewn coedwig Coedwigaeth Cymru (MtCO2)

Cymru

Dengys y diagram bod priddoedd, yn enwedig y gleiau mawnog lle plannwyd y rhan fwyaf o goedwigoedd Eryri, yn cyfrif am y mwyafrif helaeth o stociau carbon mewn coetiroedd.

Byddai hyn yn cyfateb i tua 25.13 MtCO2 mewn priddoedd coetir yn Eryri.

Mae’r Cytundeb Coetiroedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri/ Comisiwn Coedwigaeth yn anelu at gynyddu'r ardal o goetir brodorol o fewn y Parc Cenedlaethol o 50% erbyn 2050 a sicrhau fod y coedlannau presennol yn cael eu rheoli'n briodol o fewn yr un cyfnod (Ffynhonnell: Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Eryri).

Source: peat-executive-summary.pdf

Mae’r Cytundeb Coetiroedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri/ Comisiwn Coedwigaeth yn anelu at gynyddu'r ardal o goetir brodorol o fewn y Parc Cenedlaethol o 50% erbyn 2050 a sicrhau fod y coedlannau presennol yn cael eu rheoli'n briodol o fewn yr un cyfnod (Ffynhonnell: Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Eryri).

9 Nid yw ffynonellau gwybodaeth yn nodi p’un a yw coed llydanddail yn frodorol i safle penodol, felly gwnaed rhagdybiaeth eu bod yn frodorol. Mae'r ymadrodd 'adfer coetir hynafol' yn disgrifio coetir sy'n ymddangos, gyda'r defnydd o dechnegau synhwyro o bell, fel eu bod wedi dychwelyd i gyflwr mwy naturiol. Nid yw'r dynodiad rhestr eiddo yn golygu bod y coetir wedi cael ei adfer yn llawn, na’i fod mewn cyflwr ecolegol da. Efallai’n wir y bydd angen gwaith adfer gweithredol i atgyfnerthu'r gwelliannau o ran cyflwr.

10 Mae’r ffigyrau yn deillio o “Understanding the carbon and greenhouse gas balance of forests in Britain.” Comisiwn Coedwigaeth 2012.